JONES, THOMAS LLOYD ('Gwenffrwd '; 1810 - 1834), bardd

Enw: Thomas Lloyd Jones
Ffugenw: Gwenffrwd
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1834
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Brynffordd, Holywell, yn 1810. Bu'n gweithio mewn melin gotwm yn y Maesglas, Holywell, hyd tua 18 oed, cyn treulio cyfnod glerc yng ngwasanaeth Thomas Jones (1802 - 1851), cyfreithiwr yn Nhreffynnon, a'i swyddfa yn Chapel Street.

Yr oedd yn barddoni yn ei gyfnod yn Nhreffynnon; enillodd wobr am gyfieithiad o ' Hymn of the Seasons ' (Thompson) i'r Gymraeg mewn eisteddfod yn Nhrelawnyd, a chyfrannodd i gyfnodolion.

Yn 1830 symudodd i Ddinbych, eto'n glerc cyfreithiwr ac yno yn 1831, cyhoeddodd Ceinion Awen y Cymry, detholiad o'r beirdd o bob oes (gan gynnwys trosiadau o feirdd Seisnig), gyda pheth o'i waith ef ei hunan; cyflwynir y llyfr i William Owen Pughe. O Ddinbych yr ysgrifennodd lythyr at R. L. Morris, Holywell, a gyhoeddwyd yn Adgof uwch Angof, ac oddiyno yr ysgrifennodd y ' Llinellau ' i Y Gwyliedydd (Awst 1830).

Bu hefyd yng ngwasanaeth y cyfreithiwr William Jones ('Gwrgant '; 1803 - 1886) yn Llanelwy cyn symud i Lerpwl ac yno yr oedd pan ysgrifennodd farwnad i John Jenkins ('Ifor Ceri ', 1770 - 1829), a fu'n fuddugol yn eisteddfod Biwmares, 1832.

Wedi bwrw peth amser yn glerc yn Lerpwl, penderfynodd ymfudo, a chyrhaeddodd Mobile (Alabama, U.D.A.) yn gynnar yn 1834. Yr oedd yn ysgolfeistr yn Spring Hill yn agos i Mobile pan fu farw, 16 Awst 1834, o'r dwymyn felen. O Philadelphia yr anfonodd y gerdd ' Syniadau ar y Môr ' a welir yn rhifyn Awst 1833 o Seren Gomer. Danfonodd gerdd goffa i'w noddwr yr Archddiagon Beynon i eisteddfod frenhinol Gwent a Dyfed, Caerdydd, 1834. Nis gwobrwywyd, a bu farw bedwar diwrnod cyn i'r eisteddfod agor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.