Ganwyd yn 1816 yn Penlan, tyddyn mynyddig ym Mhant-y-dwr, Llanarmon (' S. Harmon's '), sir Faesyfed, yn fab i John Price; bu farw ei rieni pan nad oedd ond ifanc. Dangosodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn fore. Daeth i gyswllt â ' Hafrenydd ' (Thomas Williams, 1807 - 1894), ac yn Ceinion Cerddoriaeth hwnnw, 1852, ymddangosodd chwech o emyn-donau Price, gan gynnwys y dôn adnabyddus iawn ' St. Garmon '; yn 1855 ymddangosodd ei dôn ' Natalia ' yn Haleliwiah Drachefn G. Harris; gweler R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, 157, 162.
Pan fu farw ei frawd, gwerthodd Price y tyddyn ac ymfudo i Awstralia. Bwriadai ddychwelyd i'r wlad hon ar y llong Royal Charter, ond yn ffodus iddo'i hun methodd ei dal - fel y gwyddys, drylliwyd y llong ar draethau Môn 20 Hydref 1859. Wedi dod yn ei ôl, bu'n preswylio ac yn cyfansoddi yn ei blwyf genedigol. Symudodd yn ei flynyddoedd diwethaf i Lanfair-ym-Muellt, a bu farw yno 5 Mawrth 1898, yn 82 oed; claddwyd 9 Mawrth ym mynwent eglwys Llanfair. Yn 1935 rhoddwyd carreg goffa ar ei fedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.