THOMAS, JOHN ('Ifor Cwmgwys '; 1813 - 1866), bardd

Enw: John Thomas
Ffugenw: Ifor Cwmgwys
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1866
Priod: Rachel Thomas (née Davies)
Rhiant: Mary Davies
Rhiant: Evan Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1813 yn Ael-yr-ychen, Pentregwenlais, Llandybïe, yn fab i Evan a Mary Davies. 'Ni chafodd rithyn o addysg'; ni fedrai sgrifennu cyn bod yn 30 oed. Yn 10 oed, aeth i weithio yn ffatri wlân Job Davies ('Rhydderch Farfgoch '; 1821 - 1887, bardd ac eisteddfodwr); tua'r 16 aeth i'r gwaith glo yn Nhredegar; bu wedyn yn Nowlais, yng ngwaith y Werfa yn Aberdâr, ac yng Nghwm-twrch, Ystalyfera. Trwy gydol yr amser hwn, prydyddai 'n brysur, gan ennill gwobrau eisteddfodol - ond byddai'n rhaid iddo gario'i gyfansoddiadau yn ei gof, a mynd yn ôl ac ymlaen i Bentregwenlais i Job Davies gael eu hysgrifennu drosto. Yng Nghwm-twrch, priododd â Rachel ferch Job Davies, a dysgodd hi iddo sgrifennu; preswylient yn y Gilfach, ar lan nant Gwys - hynny a esbonia ei ffugenw. Symudasant i Droed-y-rhiw (Merthyr Tydfil), ac oddi yno (1863) i Gwm Rhondda. Ers tro, yr oedd byrder anadl wedi ei gadw allan o'r gwaith glo, ond llwyddai rywsut i ennill ei fwyd a'i ddiod wrth gystadlu mewn eisteddfodau. Bu farw 26 Rhagfyr 1866, a chladdwyd ym mynwent Capel Rhondda, ger Pontypridd. Ym more oes, yr oedd yn dribannwr rhugl; yn nes ymlaen ystyrid ef yn englynwr dan gamp - gwobrwywyd englynion ganddo yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr yn 1861. Ond canai hefyd bethau helaethach eu cwmpas, a gwelir ei waith yn y cyfnodolion, e.e. Ymofynydd 1849 a 1853 (Undodwr oedd ef, fel ei dad-yng-nghyfraith), Y Gwladgarwr (pan oedd ' Caledfryn ' yn golygu'r farddoniaeth), a'r Diwygiwr, 1863; gweler hefyd Gardd Aberdâr, 223, 237. Y mae cerdd ganddo, ' Bwthyn Bach fy Nhad,' yn B. B. Thomas, Baledi Morgannwg, rhif vii. Cyhoeddod ddwy gyfrol o'i waith: Ceinion Glan Gwenlais, 1862, a Diferion Meddyliol, 1865.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.