Ganwyd Ben Bowen Thomas ar 18 Mai 1899 yn Nhreorci, Ystrad Rhondda, Morgannwg, yn unig blentyn i Jonathan Thomas, glöwr, a'i wraig Ann (g. Bowen). Roedd ei fam yn chwaer i'r bardd Ben Bowen (y cyfrannodd Thomas erthygl amdano i'r Bywgraffiadur Cymreig). Bedyddwyr oedd y teulu a Chymraeg oedd iaith y cartref. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Sir, Porth, ac ar ôl gwasanaeth yn y Llynges Frenhinol astudiodd y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yna Hanes yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
Bu Thomas yn ddarlithydd dosbarth tiwtorial yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth am bum mlynedd o 1922, ac yn 1927 fe'i penodwyd yn Warden Coleg Harlech, coleg preswyl i oedolion. Cefnogodd y Blaid Lafur i gychwyn, ond yn 1924 roedd yn aelod o'r Mudiad Cymreig, un o'r grwpiau a ffurfiodd Blaid Genedlaethol Cymru y flwyddyn ganlynol. Fe'i rhestrir ar Bwyllgor Gweithredol y blaid newydd yn 1926. Serch hynny, nid ymddengys iddo chwarae rhan mewn gwleidyddiaeth bleidiol ar ôl ei benodiad i Goleg Harlech. Yn 1940, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Efrydiau Allanol, eto yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Rhwng y rhyfeloedd, bu Thomas hefyd yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, arwydd cynnar o'i gefnogaeth i gydweithio rhyngwladol dros achos heddwch.
Priododd Rhiannon Williams yn 1930, a ganwyd iddynt un ferch, Ann. Bu farw ei wraig gyntaf yn 1932, ac wedyn priododd Gweneth Davies (bu farw 1963).
Cafodd secondiad i'r Weinyddiaeth Lafur a Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1941, gan ddechrau gyrfa yn y gwasanaeth sifil ac yntau'n gymharol hen yn 42 oed. Roedd y rhain yn benodiadau pwysig yng nghyd-destun yr Ail Ryfel Byd. Gwasanaethodd hefyd ar Bwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg ar Hyfforddiant Athrawon ac Arweinwyr Ieuenctid (1942-1944). Bu'n Ysgrifennydd Parhaol yn Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg (1945-1963), ac fe'i hurddwyd yn Farchog Gwyryf yn 1950. Dan arweinyddiaeth Thomas, ac yn dilyn Deddf Addysg 1944 a gyflwynodd addysg uwchradd i bawb ar seiliau triphlyg (gramadeg, technegol, a modern), cafwyd datblygiad pwysig mewn addysg gyhoeddus yng Nghymru. Gwnaeth yr Adran Gymreig a'i Harolygiaeth gyfraniad arwyddocoal i ddiwylliant, hunaniaeth a llywodraethiant Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol eraill megis Cydbwyllgor Addysg Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol, a Phrifysgol Cymru gyda'i cholegau cyfansoddol.
Cafodd Thomas yrfa gyfochrog fel diplomydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig ar Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) o 1946 hyd 1962. Bu'n aelod o Fwrdd Gweithredol UNESCO (1954-1962) a chafodd ei ethol yn Gadeirydd arno (1958-1960). Yn hyn o beth roedd yn ddiplomydd diwylliannol yn hyrwyddo amcanion polisi tramor y Deyrnas Unedig a'i chynghreiriaid yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer a gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol. Ac wrth i aelodaeth UNESCO amrywiaethu, daeth iaith yn bwnc mwyfwy dadleuol. Cyfrannodd Thomas i'r ddadl, gan ddefnyddio'r iaith Gymraeg fel esiampl. Yn 1958, cyhoeddodd erthygl optimistaidd yn The UNESCO Courier ar 'Bilingualism: How Wales solved this great educational problem '. Darlledodd hefyd ar gyfer Radio UNESCO ar 'Education in Welsh' ac ar 'The Welsh Language'.
Ar ôl ymddeol yn 1963, parhaodd Thomas i gyfrannu i fywyd cyhoeddus yn unol â'i ymrwymiadau ar hyd ei oes. Ysgrifennodd yn achlysurol yn y Gymraeg am ei brofiad gyda UNESCO, er enghraifft yn Y Genhinen a Baner ac Amserau Cymru. Roedd ganddo ddiddordebau deallusol eang, fel y dengys ei gyfrolau ar hanes a llên Cymru, Braslun o hanes economaidd Cymru hyd 1914 (1941), Baledi Morgannwg (1951), a Drych y Baledwr (1958). Cydnabuwyd ei gyfraniad gan benodiadau a gwobrau diweddarach. Bu'n llywydd ar Sefydliad Cenedlaethol Addysg Oedolion (corff y Deyrnas Unedig ar y pryd), 1964-71; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1964-76; Undeb Bedyddwyr Cymru, 1966-67; ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1969, a derbyniodd ei Medal yn 1976. Cafodd ei ethol yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg yr Iesu, Rhydychen, 1963, a derbyniodd LLD er anrhydedd gan Brifysgol Cymru (1965) D. Univ. er anrhydedd gan y Brifysgol Agored (1977). Pwysig o safbwynt diwylliannol oedd ei aelodaeth o'r Awdurdod Teledu Annibynnol (1964-70). Ac efallai'n fwyaf arwyddocaol yn wleidyddol, gwasanaethodd ar y Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad (1969-73) a fu'n ysgogiad i ddatganoli yn y Deyrnas Unedig.
Heb amheuaeth roedd Ben Bowen Thomas yn un o ffigyrau cyhoeddus mwyaf dylanwadol Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Roedd parch mawr iddo am eglurder ei feddwl a'i fynegiant, am ei awdurdod pwyllog, ac am ei natur gyfeillgar. Yn addysgwr oedolion blaenllaw ac yn ddiweddarach yn was sifil, cafodd effaith ddofn ar bolisi addysg, gan adnabod ei phwysigrwydd sylfaenol ar gyfer hunaniaeth Gymreig o fewn y Deyrnas Unedig. A thrwy ei safle blaenllaw fel diplomydd diwylliannol i UNESCO llwyddodd i gyfrannu i gydweithio deallusol a datblygiad bydeang. Yn y ddau gylch, tynnodd ar draddodiadau Cristnogol Cymru o ymrwymiad cymdeithasol a rhyngwladoldeb delfrydol y ffurfiwyd ef ganddynt, gan ychwanegu iddynt ei bragmatiaeth nodweddiadol.
Dylanwadwyd arno gan esiampl David Davies, yr Arglwydd Davies o Landinam, hyrwyddwr mwyaf argyhoeddiadol Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru, a chan gydweithio agos â Dr Thomas Jones, gwas sifil blaenllaw a sefydlwr Coleg Harlech. Mewn anerchiad coffa yn Bethel, Aberystwyth, ar 2 Tachwedd 1977, dywedodd Syr Goronwy Daniel: 'Ni wthiodd ei welediad ef ei hun o'r gwirionedd ar eraill, ond gwrandawodd ar bawb a'u deall, ac yna'n dilyn, defnyddiodd ei ddoniau amlwg i gael y cytundeb a fyddai'n debygol o sicrhau y cynnydd gorau posib … Nid yw'n syn, ar ôl sylwi ar ei gyfraniad fel Cadeirydd UNESCO, fod Arglwydd Gladwyn Jebb o'r farn mai ef oedd un o'r goreuon o gynrychiolwyr tramor Prydain.'
Bu farw Ben Bowen Thomas yn ei gartref ym Mangor, Gwynedd, ar 26 Gorffennaf 1977.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-03-03
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.