DAVIES, CATHERINE GLYN (‘CARYL’) (1926-2007), hanesydd athroniaeth ac ieithyddiaeth, a chyfieithydd

Enw: Catherine Glyn Davies
Dyddiad geni: 1926
Dyddiad marw: 2007
Priod: Gareth Alban Davies
Plentyn: Gwen Davies
Plentyn: Catrin Davies
Plentyn: Eleri Davies
Plentyn: Rhodri Davies
Rhiant: Mabel Jones (née Williams Lloyd)
Rhiant: William Glyn Jones
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: hanesydd athroniaeth ac ieithyddiaeth, a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Mary Burdett Jones

Ganwyd Caryl Davies yn Nhrealaw, Morgannwg, ar 26 Medi 1926, yn blentyn hynaf y gweinidog William Glyn Jones (1883-1958) a'i wraig Mabel (née Williams Lloyd, ganwyd 1897). Priodasant yn 1925 a chawsant fab a dwy ferch arall. Ar ôl mynychu ysgol sir y Porth, graddiodd Caryl gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yn 1946, ac yn ddiweddarach gydag anrhydedd mewn athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cafodd ysgoloriaeth ymchwil Prifysgol Cymru ac eto yn Aberystwyth graddiodd yn MA yn 1949 gyda thraethawd ‘A critical study of John Locke's examination of Père Malebranche's opinion of seeing all things in God’. Yn 1948 dyfarnwyd iddi gymrodoriaeth deithiol Kemsley Prifysgol Cymru a'i galluogodd i dreulio blwyddyn yn y Sorbonne, Paris, yn astudio'r berthynas athronyddol rhwng Lloegr a Ffrainc yn rhan olaf yr ail ganrif ar bymtheg. Yna astudiodd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ac ysgrifennodd ‘The influence of John Locke on literature and thought in eighteenth century France: a study of Locke's influence on the development of the theory of knowledge in France between 1734 and 1748’ (1954), cam ar y ffordd i'w doethuriaeth. Yno y cyfarfu â Gareth Alban Davies (1926-2009). Priodasant yn 1952 ac er mai yn Otley, swydd Gaerefrog, y magodd eu pedwar plentyn, Eleri, Rhodri, Catrin a Gwen, ceisiodd drosglwyddo iddynt eu treftadaeth Gymraeg. Gyda'i gŵr cyfieithodd nofel André Gide La Symphonie pastorale dan y teitl Y Deillion (1965).

Wedi i'w gŵr ymddeol o'r gadair Sbaeneg yn Leeds yn 1986, symudasant i Blaenpant, hen ysgoldy ger Llangwyryfon, Ceredigion, lle y byddent yn arfer treulio gwyliau gan wneud ymchwil yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd Caryl wedi parhau i weithio ar ei doethuriaeth, a dyfarnwyd PhD iddi gan Brifysgol Leeds yn 1989 am draethawd a gyhoeddwyd yn gyfrol yn 1990. Yn Conscience as Consciousness: the idea of self-awareness in French philosophical writing from Descartes to Diderot ceir trafodaeth gryno ond cynhwysfawr y cyfeirir ati yn aml.

Yn gryn ieithydd, cyfieithodd o'r Rwsieg Y Cosaciaid L. N. Tolstoi (1998) a thrafododd ‘Y Myfyriwr’ gan A. Tschechof mewn dwy erthygl (1994-5). Yn 2000 cyhoeddodd gyfrol bwysig ar hanes ieithyddiaeth Geltaidd, Adfeilion Babel: agweddau ar syniadaeth ieithyddol y ddeunawfed ganrif, yn olrhain datblygiad syniadau gramadegwyr, geiriadurwyr ac ieithegwyr am ddechreuad a datblygiad iaith a chydberthynas ieithoedd. Trafododd yr agweddau a oedd yn deillio o ffynonellau clasurol a Beiblaidd megis eiddo John Davies, Mallwyd ac Edward Lhuyd, a dylanwad ysgolheigion o'r cyfandir megis Pezron a Leibniz ar feddwl y cyfnod sy'n blaenori darganfyddiad Syr William Jones (1746-1794) o gydberthynas Lladin, Groeg a Sanskrit. Gosododd astudiaethau'r Cymry mewn cyd-destun Ewropeaidd.

Ysgrifennai'n raenus yn Gymraeg a Saesneg. Cuddiai ei natur ddiymhongar dalent arall, sef sgrifennu haikus yn Gymraeg a Saesneg. Meddai ar hiwmor tawel a hefyd ddygnwch wrth iddi barhau i weithio er gwaethaf problemau golwg. Â'i gwallt ariannaidd, parhai'n bert hyd ddiwedd ei hoes.

Bu farw yn sydyn yn yr ysbyty yn Aberystwyth 22 Chwefror 2007 o wenwyn gwaed ar ôl i friw ar y stumog dorri, ac ar ôl gwasanaeth yng nghapel Tabor, Llangwyryfon, fe'i hamlosgwyd yn Amlosgfa Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/