Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganed Dilys Roberts ar 19 Awst 1918 yn Nolgellau. Roedd ei thad yn gerddor, yn godwr canu ac yn arweinydd corau, a hefyd yn canu'r iwffoniwm. Mynychodd Ysgol Dr Williams yn Nolgellau a manteisio ar draddodiad cerddorol cryf yr ysgol; yno y dechreuodd ymserchu yng ngherddoriaeth Delius, Holst a Vaughan Williams, ac yno hefyd y cyfansoddodd ei chân gyntaf. Cafodd gynnig Ysgoloriaeth Turle yng Ngholeg Girton yng Nghaergrawnt ac Ysgoloriaeth Joseph Parry yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, a dewisodd yr ail, gan astudio dan David Evans. Yng Nghaerdydd datblygodd ei dawn gyfansoddi a darlledwyd rhai o'i chaneuon gan y BBC. Wedi graddio'n B.Mus. bu'n dysgu yn Ysgol Dr Williams am dair blynedd cyn ennill ysgoloriaeth agored mewn cyfansoddi i'r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, i astudio cyfansoddi gyda Herbert Howells a'r piano gyda Kathleen McQuitty.
Priododd ag Elwyn Edwards 3 Medi 1947 a byw yn Rhydychen; tra oedd ef yn astudio yng Ngholeg Mansfield parhâi hi i ddysgu cerddoriaeth mewn ysgolion. Symudasant yn ôl i Gymru pan ddaeth ef yn weinidog ar Eglwys Bresbyteraidd Castle Square yng Nghaernarfon. O 1973 ymlaen bu Dilys Elwyn-Edwards yn diwtor piano yn y Coleg Normal ac yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor. Beirniadai'n gyson mewn eisteddfodau ac ymddangos ar radio a theledu.
Er iddi gyfansoddi peth cerddoriaeth offerynnol ei phrif hoffter oedd cyfansoddi i'r llais. Ymddiddorai'n fawr mewn barddoniaeth a chydnabyddai ei hedmygedd o'r cyfansoddwr Seisnig Peter Warlock, a oedd yntau'n adnabyddus am ei ganeuon. Mae ei gosodiadau yn grefftus, yn sensitif ac yn delynegol, ac yn perthyn i brif ffrwd y gân gelf yn Nghymru ac ym Mhrydain. Mae ganddi sawl cylch o ganeuon, megis Caneuon y Tri Aderyn (a gomisiynwyd gan y BBC yn 1961, ac sy'n cynnwys ei chân fwyaf adnabyddus, 'Mae hiraeth yn y môr'), Chwe Chân i Blant, Tymhorau a Hwiangerddi. Ceir ganddi hefyd osodiadau corawl o rai o'r Salmau. Mae rhai o'i chaneuon a rhanganau cynnar yn osodiadau o farddoniaeth Saesneg (gyda chyfieithiadau Cymraeg), megis 'Sweet Suffolk Owl', a 'The Bird of Christ', ond troes yn ddiweddarach i osod geiriau gwreiddiol gan feirdd o Gymry megis R. Williams Parry.
Bu farw 13 Ionawr 2012 mewn cartref nyrsio yn Llanberis.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-08-14
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.