EMMANUEL, IVOR LEWIS (1927-2007), canwr ac actor

Enw: Ivor Lewis Emmanuel
Dyddiad geni: 1927
Dyddiad marw: 2007
Priod: Malinee Samakarn Emmanuel (née Oppenborn)
Priod: Patricia Anne Emmanuel (née Bredin)
Priod: Jean Dorothy Emmanuel (née Beazleigh)
Plentyn: Emily Margaretta Emmanuel
Plentyn: Siân Emmanuel
Plentyn: Simon F. Emmanuel
Rhiant: Ivy Margaretta Emmanuel (née Lewis)
Rhiant: Stephen John Emmanuel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: canwr ac actor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Trevor Herbert

Ganwyd Ivor Emmanuel yn 3 Prince Street, Margam ar 7 Tachwedd 1927, yn fab i Stephen John Emmanuel (1905-1941), gweithiwr dur, a'i wraig Ivy Margaretta (ganwyd Lewis, 1908-1941). Roedd ganddo chwaer a brawd iau, Mair a John. Pan oedd Ivor yn llai na blwydd oed symudodd y teulu i Bontrhydyfen, y pentref lle ganwyd yr actor Richard Burton, a daeth y ddau'n ffrindiau. Ar 11 Mai 1941 dinistriwyd cartref y teulu Emmanuel gan fom Almaenig, un wedi'i fwriadu yn ôl pob tebyg ar gyfer y safleoedd diwydiannol mawr gerllaw. Lladdwyd y teulu cyfan heblaw Ivor a'i frawd; magwyd y ddau fachgen ar wahân wedyn, Ivor gan ei fodryb Flossie.

Ar ôl iddo adael yr ysgol aeth i weithio yng ngwaith dur Port Talbot ac mewn pwll glo, ond enynnwyd tynfa ynddo at gerddoriaeth a'r llwyfan o oedran gynnar iawn. Honnodd iddo gael ei ysbrydoli gan y recordiadau o'r tenor mawr o'r Eidal, Enrico Caruso, y byddai'n gwrando arnynt drosodd a thro ar gramoffon weindio. Enillodd wobrau mewn mân eisteddfodau, ac ymunodd â Chymdeithas Opera Amatur Port Talbot. Yno y cafodd ei gyflwyno i'r ffurf gerddorol y byddai'n rhagori ynddi.

Cyn cyrraedd ei un ar hugain gadawodd dde Cymru am Lundain, lle bu'n lletya am ychydig gyda Richard Burton, a chafodd glyweliadau am rannau mewn theatr gerdd. Enillodd le gyda Chwmni Opera D'Oyly Carte a threuliodd flwyddyn yn perfformio operettas Gilbert a Sullivan. Ym mis Hydref 1950 teithiodd i Efrog Newydd ar y Mauretania, gan ddisgrifio ei hun ar y rhestr deithwyr fel canwr. Mae'n debyg mai nod y daith oedd sicrhau rhannau ar Broadway, ond yn ôl yn y West End yn Llundain y lansiodd ei yrfa yn y theatr gerdd gyda rhannau mawr mewn sioeau Rodgers a Hammerstein megis Oklahoma! a South Pacific yn 1951 a The King and I yn 1953. Buan y daeth yn ffefryn gyda chynulleidfaoedd Llundain diolch i'w bryd golygus, ei bresenoldeb rhwydd ar lwyfan a'i lais bariton uchel telynegol.

Pan gafodd gyfle o'r diwedd ar Broadway, byr a di-nod oedd ei arhosiad yno. Rhoddwyd iddo'r brif ran yn A Time for Singing (1966), addasiad cerddorol annoeth o nofel Richard Llewellyn How Green was My Valley. Cafodd perfformiadau Emmanuel eu canmol ac enillodd y sioe beth cymeradwyaeth gan y beirniaid, ond caeodd ar ôl 41 perfformiad yn unig.

Erbyn hyn roedd enw cenedlaethol Emmanuel ym Mhrydain yn ddiogel gan ei fod yn ymddangos yn gyson ar y sioe deledu ddwyieithog wythnosol 'Gwlad y Gân' (Land of Song) a gychwynnodd yn 1958. Cynhyrchid y rhaglen yng Nghaerdydd gan y cwmni teledu annibynnol TWW ac roedd mewn cystadleuaeth uniongyrchol â 'The Black and White Minstrel Show' ar y BBC ar nos Sul. Darlledid 'Gwlad y Gân' ar rwydwaith ITV ac roedd yn un o'r sioeau teledu adloniant ysgafn cyntaf o Gymru i ddenu cynulleidfa genedlaethol enfawr; ystyrid mai poblogrwydd personol Ivor Emmanuel oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am ei llwyddiant.

Roedd ei yrfa yn y ffilmiau'n fwy cyfyngedig, ond daeth un perfformiad yn enwog. Cafodd ran fach fel Preifat James Owen yn y ffilm Zulu yn 1964. Cyflwynodd y ffilm fersiwn braidd yn addurnedig o'r modd y bu i lai na 150 o filwyr Prydeinig amddiffyn gorsaf genhadon Rorke's Drift yn erbyn pedair mil o Zulus yn Rhyfeloedd De Affrica 1879. Cyd-gynhyrchydd y ffilm oedd ei gyfaill o Gymro Stanley Baker, a hwnnw a chwaraeodd y brif ran hefyd. Mewn golygfa gofiadwy, atebodd Preifat Owen lafarganu'r Zulus trwy arwain y Prydeinwyr lluddedig mewn corawd hynod ddisgybledig o 'Gwŷr Harlech'. Roedd yr olygfa'n fwy dyledus i ffuglen nag i hanes go iawn, ond fe gipiodd galonnau cynulleidfaoedd, a gwnaeth Peter Stead y pwynt diddorol yn ei erthygl ar Emmanuel yn yr Oxford Dictionary of National Biography fod yr olygfa hon wedi cyfrannu'n sylweddol i'r lle poblogaidd sydd i Zulu ym mytholeg ddiwylliannol y Cymry.

Priododd Emmanuel deirgwaith: Jean Dorothy Beazleigh, cyd-gorydd gyda'r D'Oyly Carte, yn 1951; Patricia Anne Bredin yn 1963; ac yn olaf yn 1978 â Malinee Samakarn Oppenborn, a oedd 28 mlynedd yn iau nag ef. Ganwyd dau blentyn o'r briodas gyntaf (Siân a Simon), dim o'r ail ac un (Emily) o'r drydedd.

Erbyn ei drydedd briodas roedd wedi ymddeol i dŷ ar ben bryn ger tref Malaga yn Sbaen. Chwalwyd ei heddwch yn 1991 pan fethodd y Bank of Credit and Commerce a daeth i'r amlwg ei fod ef yn un o gleientiau mwyaf adnabyddus y banc: roedd bron y cwbl o'i gynilion oes wedi buddsoddi mewn un adnau. Daeth ffrindiau i'r adwy a chodwyd tua hanner ei fuddsoddiad gwreiddiol. Roedd hyn yn ddigon i'w gynnal, er ar delerau cynilach, am weddill ei oes.

Roedd Ivor Emmanuel yn gymwys iawn i fod yn seren y theatr gerdd. Roedd ei lais yn delynegol ac yn llawn cymeriad, ond nid oedd ganddo'r pŵer naturiol na'r ehangder mynegiant ar gyfer llwyfan yr opera. Gallai actio'n gredadwy, er braidd yn gyfyngedig, ond doniau gwahanol megis melyster tôn a phresenoldeb ar lwyfan sydd bwysicaf mewn sioeau cerdd ac operetta, ac roedd y doniau hyn ganddo'n helaeth.

Bu Ivor Emmanuel farw o strôc ym Malaga, Sbaen ar 20 Gorffennaf 2007 ac fe'i claddwyd ym mhentref Benelmadena ger ei gartref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-10-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.