Ganwyd Stanley Baker ar 28 Chwefror 1928 yn 32 Stryd Albany, Ferndale yn y Rhondda Fach, sir Forgannwg, yr ieuengaf o dri o blant John Henry Baker (1896-1950), halier a dyn injan, a'i wraig Elizabeth Louisa (g. Locke, 1896-1974). Tyfodd i fyny yn 'blentyn gwyllt', yn ôl ei addefiad ei hun, a fyddai'n mitsio ysgol mor aml ag y gallai. Pan gollodd tad Baker ei goes mewn damwain dan ddaear, penderfynodd y dyn ifanc na fyddai fyth yn mynd i'w syniad ef o uffern (fel y disgrifiodd y pwll glo yn ddiweddarach), a chwiliodd am unrhyw fodd i osgoi tynged y glöwr. Teimlai Baker fod ganddo ddau ddewis: paffio neu actio.
Meithrinwyd ei ddawn gynnar gan Glynne Morse, un o'i athrawon yn Ysgol Uwchradd Ferndale. Yn bedair ar ddeg oed sylwodd chwilotwr am dalent dros Ealing Studios arno a dod ag ef i mewn i gynhyrchiad Undercover (1943), ffilm adeg y rhyfel am herwfilwyr yn Iwgoslafia. Chwe mis yn ddiweddarach, cafodd Baker ran yn The Druid's Rest gan Emlyn Williams. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Theatr St Martin yn Llundain yn 1944, ac roedd yn nodedig hefyd fel man cychwyn gyrfa Richard Burton ar y llwyfan. 'That gave me the real taste for the theatrical profession', meddai Baker yn ddiweddarach.
Yn sgil The Druid's Rest, ymunodd Baker â'r Birmingham Repertory Theatre gan actio mewn dramâu megis She Stoops To Conquer, The Seagull, a 1066 And All That. Yn 1946, gwysiwyd ef i wasanaeth cenedlaethol a threuliodd ddwy flynedd yn y Royal Army Service Corps. Cafodd ei ryddhau o'r fyddin yn 1948, ac yn ugain oed dychwelodd i Lundain i chwilio am waith actio. Fe'i cafodd yn anodd am dipyn, ac wedyn yn 1949 dechreuodd pethau wella - cafodd ran yn nrama Terence Rattigan, Adventure Story (1949), ffilm gomedi Derek Twist All Over Town (1949), a rhan nas clodrestrwyd yn y ffilm dditectif Obsession (1949) a gyfarwyddwyd gan yr Americanwr alltud Edward Dmytryk. Ymunodd Baker â'r Middlesex Repertory Theatre hefyd. Ar ddechrau'r 1950au, cyfunodd ffilm a theatr gydag actio teledu gan greu portffolio o waith a gynhwysai daith A Sleep of Prisoners Christopher Fry fel rhan o Ŵyl Prydain yn 1951. Trosglwyddwyd y cynhyrchiad i'r Unol Daleithiau wedyn. Tra bu yno, darllenodd Baker nofel Nicholas Monserrat The Cruel Sea (1951) a phenderfynodd fynd ati i ennill rhan Lt. James Bennett yn yr addasiad ffilm arfaethedig dan gyfarwyddyd Charles Frend. Y rhan honno a enillodd amlygrwydd iddo ym myd y sinema a'i alluogi i symud ymlaen o rannau ategol i fod yn brif actor.
Prif ran gyntaf Baker oedd fel Tom Yately yng nghlasur Cy Endfield, Hell Drivers yn 1957, gyferbyn â Patrick McGoohan a William Hartnell. Cyn hynny roedd Endfield wedi castio Baker yn ei ddrama Child in the House yn 1956. Ffurfiodd y ddau berthynas waith agos gan fynd ymlaen i sefydlu Diamond Films - y cwmni cynhyrchu a fu'n gyfrifol am wneud Zulu yn 1964. Fel actor, roedd Stanley Baker yn adnabyddus am ei berfformiadau caled, garw, gwrywaidd, pa un ai fel dihiryn neu fel gwrth-arwr a allai ennyn cydymdeimlad y gynulleidfa. Cafodd ei ystyried ar gyfer rhan James Bond hyd yn oed, er mai ei gyfaill Sean Connery a ddewiswyd yn y pen draw. Roedd apêl Baker i gynulleidfaoedd yn amlwg iawn yn Zulu, lle trawsnewidiodd gymeriad hanesyddol-gymhleth Lt. John Chard yn ffigwr empathetig cofiadwy a hawliodd y sgrîn. Erbyn canol y 1960au, roedd Baker ar anterth ei allu fel actor ac yn serennu mewn ffilmiau arobryn fel Accident gan Harold Pinter (1967) a enillodd y Grand Prix yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes. Roedd hefyd yn gwneud enw iddo'i hun fel cynhyrchydd, nid yn lleiaf am y ffilm eiconig The Italian Job yn 1969 - er na chafodd ei glodrestru y tro hwnnw.
Anaml y gwelwyd Baker gan gynulleidfaoedd teledu yng Nghymru tan ddegawd olaf ei fywyd. Yn 1965, ymunodd â'i gyfeillion y nofelydd Gwyn Thomas (1913-1981) a'r actor Donald Houston (1923-1991) yn rhaglen ddogfen nodedig Television Wales and the West Return to the Rhondda. Myfyriodd Baker yn deimladwy am ei benderfyniad i osgoi'r pwll glo, ei gyfyng-gyngor rhwng paffio ac actio, a'i edmygedd o ddynion fel Tommy Farr a Jimmy Wilde a arferodd y grefft fonheddig mor llwyddiannus. Degawd yn ddiweddarach, dychwelodd Baker i'r teledu yn ei ran orau ar y sgrîn fach, fel y patriarch Gwilym yn addasiad Elaine Morgan o How Green Was My Valley. Mewn rhan a allasai fod fel arall yn oeraidd, a Gwilym i'w weld yn anghydnaws â radicaliaeth ei feibion a phenderfyniad ei wraig, Beth, a chwaraewyd gan Sian Phillips, disgleiriodd Baker. Mae ei fersiwn ef o Gwilym Morgan yn ddigymar. Darlledwyd How Green Was My Valley ar BBC Two rhwng 29 Rhagfyr 1975 a 2 Chwefror 1976, gan orffen ychydig wythnosau cyn pen-blwydd Baker yn wyth a deugain ac un diwrnod ar ddeg cyn iddo gael diagnosis o gancr yr ysgyfaint. Ei ymddangosiad olaf ar y sgrîn oedd rhan mewn cyfres fer gymharol ddi-nod ar gyfer teledu Almaeneg-Eidaleg, Orzowei, a ddarlledwyd yn 1977.
Priododd Baker yr actores Ellen Martin, y cwrddodd â hi yn y London Apollo, yn Hydref 1950. Ganwyd iddynt bedwar o blant: yr efeilliaid Martin (1953) a Sally (1953-), Glyn (1957-), a ddaeth yn actor hefyd, ac Adam (1961-). Tu ôl i'r camera, roedd Baker yn enwog am ei hoffter o geir cyflym, ei gaethiwed gamblo, ei frwdfrydedd am alcohol a mynd ar sbri dros sawl diwrnod, a'i arfer smygu ar hyd ei oes, oll yn agweddau ar ei gymeriad a gydnabyddai'n agored mewn cyfweliadau â'r wasg. Diau iddynt gyfrannu at ei gancr a'i farwolaeth o niwmonia yn Sbaen ar 28 Mehefin 1976, yn ddyn cymharol ifanc wyth a deugain oed.
Fel dyn busnes, gwasanaethodd Baker ar fyrddau nifer o gwmnïau, gan gynnwys bwrdd Teledu Harlech (HTV) fel un o'r cyfarwyddwyr sylfaenu gyda Richard Burton. Mynychodd gyfarfodydd bwrdd HTV yn rheolaidd yn y 1960au a'r 1970au, gan gyfrannu at ffurfio datblygiad teledu annibynnol yng Nghymru. Roedd hefyd yn nodedig am ei ddaliadau gwleidyddol sosialaidd, a daeth yn gyfaill agos i'r Prif Weinidog Llafur, Harold Wilson, a enwebodd Baker yn farchog yn yr anrhydeddau ymddiswyddiad yn 1976. Cyfrannodd Baker ei hun i ddarllediadau ymgyrchu'r Blaid Lafur ac roedd yn elyn digyfaddawd i genedlaetholdeb Cymreig, a oedd yn ei farn ef yn 'foolish and misguided'.
Nid oedd prinder actorion dosbarth gweithiol o Gymru a gododd i frig eu proffesiwn ym Mhrydain wedi'r rhyfel, ond mewn maes gorlawn daliodd Stanley Baker ei le yn rhwydd. Ynghyd â'i gyfeillion Donald a Glyn Houston, sefydlodd y Rhondda yn gystadleuydd credadwy i Bort Talbot fel crud actorion, a daeth â dynoliaeth a gwleidyddiaeth ei gwm genedigol i uchelfannau byd sinema, theatr a theledu. Yn ei eiriau ei hun, roedd yn 'gentle person' a ymwadai â thrais - yn wrthwyneb i lawer o'i gymeriadau mwyaf cofiadwy ar y sgrîn - dyn nad anghofiodd fyth mo'i wreiddiau dosbarth gweithiol ond a gyflawnodd freuddwydion ac uchelgeisiau cynifer o bobl y Rhondda am enwogrwydd a llwyddiant. Yn hyn o beth roedd yn un o'r Cymry Americanaidd rheini, fel Richard Burton a Gwyn Thomas, a gofleidiodd gyfleoedd gwyllt moderniaeth heb gyfaddawdu eu hymdeimlad â'u hunaniaeth a'r hyn a feithrinwyd ynddynt gan eu magwraeth. 'Whenever I go there', meddai Baker am gartref ei blentyndod yn Ferndale, 'I look at the two down and three up and I think, that's me…that's what I am. All that has happened since is immensely important, but not as important as where I come from.'
Dyddiad cyhoeddi: 2021-07-15
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.