MORGAN, ELAINE NEVILLE (1920 - 2013), sgriptwraig, newyddiadurwraig, ac awdures

Enw: Elaine Neville Morgan
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 2013
Priod: Morien Waldo Parry Morgan
Plentyn: John Dylan Morgan
Plentyn: Gareth Morgan
Plentyn: Huw Morgan
Rhiant: William Floyd
Rhiant: Olive Irene Floyd (née Neville)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: sgriptwraig, newyddiadurwraig, ac awdures
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Daryl Leeworthy

Ganwyd Elaine Morgan yn Nhrehopcyn, Pontypridd, ar 7 Tachwedd 1920, yn unig blentyn i William 'Billy' Floyd (1891-1939), pwmpiwr yng nglofa'r Great Western, a'i wraig Olive (g. Neville, 1894-1981). Treuliodd ei phlentyndod yn 54 Telelkebir Road, Trehopcyn, y cartref prysur, aml-genhedlaeth, a rannai ei rhieni gyda'i mam-gu a thad-cu ar ochr ei mam, Frederick a Martha. Roedd y teulu'n gefnogol i'r Blaid Lafur a holl weithgareddau Ffederasiwn Glowyr De Cymru, yr undeb yr oedd Billy Floyd yn aelod teyrngar ohono. Roedd Elaine ei hun yn aelod brwd - ac arobryn - o glwb ieuenctid y Daily Herald, y Bobby Bear Club.

Roedd Elaine yn blentyn peniog, darllengar a chreadigol a gyhoeddodd ei stori fer gyntaf yn un ar ddeg oed, a disgleiriodd yn yr ysgol gynradd cyn ennill lle yn Ysgol Ganolradd y Merched Pontypridd. Tra bu yno amlygodd dalent o ran actio, ieithoedd (gan gynnwys y Gymraeg), a gwyddoniaeth hefyd, er iddi ddewis canolbwyntio ar y dyniaethau a Saesneg yn y chweched dosbarth. Yn 1939, enillodd le i astudio Saesneg yn Lady Margaret Hall, Rhydychen, y ferch gyntaf erioed o'i hysgol i astudio yn Rhydychen. Bu'n weithgar yng nghylchoedd gwleidyddol y myfyrwyr yno, gan esgyn i fod yn gadeirydd Clwb Sosialwyr Democrataidd Prifysgol Rhydychen, carfan wleidyddol fwyaf myfyrwyr y brifysgol, a chymdeithasodd gyda gweinidogion cabinet a phrif weinidogion cyfoes a dyfodol gan gynnwys Clement Attlee, Herbert Morrison, Roy Jenkins a Tony Crosland. Magodd berthnasau gyda tho ifanc o awduron a beirdd, yn enwedig Sidney Keyes (1922-1943), Drummond Allison (1921-1943) a John Heath-Stubbs (1918-2006), ac roedd yn adnabod Kingsley Amis (1922-1995) a Philip Larkin (1922-1985).

Ar ôl graddio o Rydychen yn 1942, dechreuodd weithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) fel tiwtor-drefnydd yn Norfolk. Yn ystod gwyliau haf 1943, mynychodd rali 'Gwelyau i Stalingrad' ym Mhontypridd, lle cwrddodd â Morien Waldo Parry Morgan (1916-1997), athro yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd a oedd wedi ymladd gyda'r Brigadau Rhyngwladol yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Cwympodd y ddau mewn cariad ac fe'u priodwyd yng Nghapel Rhondda, Trehopcyn, ar 11 Ebrill 1945. Dechreuasant eu bywyd priodasol yn Burnley, sir Gaerhirfryn, gan fyw yno hyd 1950. Yn ystod y cyfnod hwn dysgai Morien Morgan yn Ysgol Ramadeg Burnley, a daliodd Elaine Morgan at ei gyrfa fel addysgydd oedolion gan weithio yng nghymunedau diwydiannol sir Gaerhirfryn dros y WEA, Cyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur, ac yn y pen draw Adran Allanol Prifysgol Manceinion. Daeth yn weithgar yng nghangen Burnley o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig, y bu'n aelod cychwynnol ohoni, ac roedd yn allweddol yn y gwaith o drefnu dathliadau Diwrnod Rhygwladol y Merched yn Burnley. Ymunodd hefyd â'r Blaid Gomiwnyddol, ffaith a gadwodd yn gudd am resymau proffesiynol yn nes ymlaen yn ei bywyd wedi iddi ailymuno â'r Blaid Lafur.

Yn Burnley y ganwyd y cyntaf o blant Elaine Morgan, John Dylan (1946-2011), a daeth ail blentyn, Gareth, yn 1949. Oni bai i'r ddau fachgen ddatblygu asthma, yn ganlyniad i lefelau uchel llygredd diwydiannol yn Burnley, byddai'r sefyllfa hon wedi parhau, ond yn 1950, a Morien erbyn hynny yn dysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Abertyleri, dychwelodd Elaine Morgan gyda'i phlant i Bontypridd. Bu'n gweithio am ychydig fel athrawes Saesneg yn ei hen ysgol tra'n llunio cyfres o sgriptiau a chynigion a anfonodd ar antur i'r BBC yng Nghaerdydd ac yn Llundain. Cafodd ymateb brwd. Ym mis Hydref 1950, ychydig ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn ddeg ar hugain, darlledwyd sgript gyntaf Elaine Morgan, stori am ei thad a'i gwt offer, ar Woman's Hour. Yn 1951, a hithau erbyn hynny'n byw ar fferm ddiarffordd ger Michaelchurch Escley yn swydd Henffordd, a heb gyfleoedd am waith arall ym maes addysg oedolion, dechreuodd Elaine Morgan sgrifennu'n llawn-amser: sgriptiau radio, straeon byrion, cerddi, a dramâu teledu. Y nofel oedd yr unig ffurf na fentrodd arni. Dychwelodd y teulu i Gymru yn 1953, gan ymgartrefu yn Abernant, ger Aberdâr. Erbyn 1960, y flwyddyn y darlledwyd ei chyfres gyntaf, A Matter of Degree, ar BBC TV, roedd wedi ennill ei lle fel prif sgriptiwr ei chenhedlaeth yng Nghymru.

Cynyddodd ei henw a'i bri yn sylweddol yn y 1960au. Sgrifennodd ar gyfer cyfresi drama poblogaidd fel Maigret a Dr Finlay's Casebook, lluniodd sgriptiau i'r gyfres gomedi Taxi! gyda Sid James, yn ogystal â The Onedin Line, a chreodd Lil, dilyniant i A Matter of Degree, a redodd am ddau dymor yn 1965 a 1966. Cyn lansio BBC Two yn 1964, gofynnodd cynhyrchwyr iddi addasu Madame Bovary Gustave Flaubert fel drama gyfnod gyntaf y sianel newydd, cyfle a wrthodwyd ganddi. Yn y 1970au trodd at faterion Cymreig, gydag addasiadau teledu blaenllaw o Possessions (1974) gydag Anthony Hopkins yn chwarae'r brif ran; How Green Was My Valley (1975-6) gyda Stanley Baker a Sian Phillips yn serennu (ymhlith eraill); ac Off to Philadelphia in the Morning (1978). Yn ei champwaith The Life and Times of David Lloyd George, gyda pherfformiad gafaelgar gan Philip Madoc (1934-2012) ac arwyddgan hudolus gan Ennio Morricone, a ddarlledwyd yn 1981, cynigiodd sylwadaeth nid yn unig ar hanes Cymru ond hefyd ar gyflwr anystywallt y Blaid Lafur gyfoes - thema a archwiliodd ymhellach yn Fame is the Spur (1982) ac yn The Burston Rebellion (1985) gydag Eileen Atkins a Bernard Hill yn serennu.

Ei gwaith teledu yn y 1970au a enillodd i Elaine Morgan ei gwobrau mwyaf: y Prix Italia am Joey (1974), gwobrau BAFTA yn 1977 am ei chyfres fywgraffyddol Marie Curie a'i haddasiad o A Testament of Youth Vera Brittain yn 1979, a gwobr y Writer's Guild am A Pin To See The Peepshow yn 1973. Ond yn y degawd hwn hefyd y gwelwyd ei ffeminyddiaeth - a fu'n nodwedd ar ei gwleidyddiaeth a'i sgrifennu erioed - yn dod i'r amlwg, gan lansio'r 'housewife-dramatist', fel y'i galwai ei hun, i reng flaen mudiad rhyddhad merched. Yn 1975, Blwyddyn Ryngwladol Merched y Cenhedloedd Unedig, gwahoddwyd Elaine Morgan i draddodi Darlith Radio Flynyddol y BBC - y ferch gyntaf i wneud hynny. Cymerodd fel thema 'merched a'r gymdeithas' a gofynnodd i Gymru a oedd heb yr un aelod seneddol benywaidd, pa bryd y cawn ganu 'Hen Wlad Fy Mamau'? Daeth y statws hwn yn sgil ei llyfr llwyddiannus, Descent of Woman (1972), a heriodd 'Tarzanism' gan gynnig theori amgen - yr epa dyfrol - ynghyd â honiad bod gan ferched, yn ogystal â dynion, rôl i'w chwarae yn esblygiad y ddynoliaeth. Os bu i ddynion golli blew eu cyrff trwy redeg o gwmpas fel helwyr ar y safana, dadleuodd hi, paham y bu i ferched golli eu blew hwythau?

Roedd cyhoeddi Descent of Woman yn ffenomen fydeang: erbyn diwedd y 1970au, cyhoeddwyd y llyfr mewn naw iaith Ewropeaidd, mewn pedair ar ddeg o wledydd, ac ar dri chyfandir (Gogledd America, De America, ac Ewrop). Dilynwyd Descent of Woman yn 1976 gan astudiaeth ecolegol, Falling Apart, lle dadleuodd y dylai dynolryw fyw mewn cymunedau llai a mwy cynaliadwy, yn hytrach nag mewn dinasoedd enfawr sy'n disbyddu adnoddau. Dychwelodd Elaine Morgan i theori esblygiad yn 1982 gyda The Aquatic Ape, asesiad mwy pwrpasol ac estynedig, a maniffesto dros y syniadau a gynigiasai ddeng mlynedd ynghynt. O ganol y 1980au tan ychydig cyn ei marwolaeth yn 2013, theori esblygiad fyddai'n dominyddu ei gweithgareddau cyhoeddus: siaradodd mewn cynadleddau rhyngwladol ac yn 2009 creodd gynnwrf mawr ar YouTube gyda Sgwrs TED ymosodol a wyliwyd bron i 1.5 miliwn o weithiau. Ymddangosodd ail argraffiad o Descent of Woman yn 1985, a thrwy'r 1990au daeth The Scars of Evolution (1990), The Descent of the Child (1994), a The Aquatic Ape Hypothesis (1997).

Roedd ei hymddeoliad o sgriptio yn 1990, ei degfed flwydd a thrigain, yn ganlyniad i ddamwain llawn cymaint â bwriad - gwelai cynhyrchwyr ei dull o sgrifennu yn fwyfwy hen-ffasiwn yn oes teledu lloeren. Yn y 1990au a'r 2000au cafwyd gwobrau pellach a adlewyrchai waith oes o sgrifennu: cymrodoriaethau anrhydeddus prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Morgannwg, a gwobr cyrhaeddiad oes gan BAFTA Cymru yn 2003. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2009, ac yn yr un flwyddyn enwodd Prifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn) adeilad ar gampws Glyntaf ar ei hôl. Un uchafbwynt olaf oedd cael ei henwi'n 'Golofnydd y Flwyddyn' yn 2011 am ei cholofn wythnosol hoffus 'The Pensioner' yn y Western Mail. Trwy'r golofn 'The Pensioner', a luniwyd ganddi rhwng 2003 a 2013, cadarnhawyd statws Elaine Morgan fel 'trysor cenedlaethol', gan gynnig i ddarllenwyr fewnwelediadau mympwyol i'r gorffennol a'r presennol. Weithiau'n gynnes, dro arall yn ffyrnig wleidyddol, dyna'r cipolwg olaf ar ei meddwl creadigol. Ar ôl cyfres o strociau o haf 2012 ymlaen, bu farw Elaine Morgan yn dawel yn Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tydfil, ar 12 Gorffennaf 2013. Fe'i goroeswyd gan ei meibion Gareth a Huw (a fabwysiadodd). Bu farw ei gŵr, Morien, yn 1997, a'i mab hynaf John Dylan yn 2011.

Nid ei sgrifennu gwyddonol, na'i newyddiaduraeth, na chwaith ei gwaith dros addysg Gymraeg na diarfogi niwclear oedd camp fwyaf Elaine Morgan, eithr ei gyrfa arloesol fel sgriptwraig ar gyfer teledu. Yn 1960, sylwodd y cynhyrchydd Donald Wilson (1910-2002) fod Elaine Morgan yn un o fath cymharol newydd o artist creadigol: y dramodydd teledu. Fel Cymraes yn sgrifennu i'r teledu tua dechrau ei ddatblygiad wedi'r rhyfel, roedd yn unigryw. Trwy ei gwaith yn 1960au a'r 1970au, ymddangosodd pobl cymoedd glofaol Morgannwg ar y teledu mewn portreadau crwn a dilys yn cyfleu eu hacenion, eu harferion, a'u gobeithion. Ac yn bennaf oll, ar adeg pan nad oedd llyfrau ar y pwnc i'w harwain ac ymchwil academaidd yn brin, dangosodd Elaine Morgan fod hanes Cymru wedi ei sgrifennu o safbwynt merched - hyd yn oed dan ofynion teledu neu radio - nid yn unig yn bosibl ond hefyd yn angenrheidiol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-03-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.