BOSSE-GRIFFITHS, KATE (1910-1998), Eifftolegydd ac awdures

Enw: Kate Bosse-griffiths
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1998
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: Eifftolegydd ac awdures
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Marion Löffler

Ganwyd Kate Bosse-Griffiths yn Wittenberg, yr Almaen, ar 16 Gorffennaf 1910, yr ail o bedwar o blant y meddyg Paul Bosse (1881-1947), pennaeth ysbyty tref Wittenberg, a'i wraig Käthe Bosse (ganwyd Levin, 1886-1944). Ei henw bedydd oedd Käthe Julia Gertrud Bosse. Iddewes oedd ei mam, ond codwyd Käthe yn yr eglwys Lutheraidd, ffydd ei thad. Fel Kate Bosse-Griffiths cyfrannodd at lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif drwy gyflwyno pynciau modernaidd na thrafodwyd yn y Gymraeg o'r blaen. Cofir hi hefyd fel Eifftolegydd Cymreig blaengar.

Magwyd diddordeb Kate yn y clasuron drwy ei haddysg yn Ysgol Melanchthon yn Wittenberg, ac aeth ymlaen i astudio Archaeoleg ac Eifftoleg mewn prifysgolion yn Berlin, Bonn a München. Enillodd doethuriaeth ym 1935 am ei thraethawd ar ddelweddu'r ffurf ddynol mewn cerfluniaeth Eifftaidd ddiweddar, a chyhoeddwyd y gwaith ym 1936. Fe'i hapwyntiwyd i swydd yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Berlin yn yr un flwyddyn. I Eifftolegydd ifanc brwd yr oedd Berlin yn ddelfrydol, ond i fenyw o dras Iddewig bu'n lle peryglus iawn yn y 1930au hwyr. Terfynwyd cytundeb ei thad ag ysbyty Wittenberg ym 1936, am iddo wrthod ysgaru ei wraig Iddewig, ac agorodd clinig gofal cyn ac ôl-geni (sydd, fel 'Klinik Bosse Wittenberg' megis cofeb iddo hyd heddiw). Ym 1944 gorfodwyd y clinig i gau, a charcharwyd mam a dau frawd Kate yng ngwersylloedd crynhoi'r Natsïaid. Bu farw ei mam yn Ravensbrück, gwersyll i fenywod i'r gogledd o Berlin, ym 1944.

Llwyddodd Kate Bosse-Griffiths i ffoi rhag erledigaeth y Natsïaid ym 1936. Aeth i'r Alban yn gyntaf, ble y gweithiodd fel cynorthwyydd i'r biolegydd, mathemategydd a chlasurwr enwog, Syr D'Arcy Wentworth Thompson, ac yno i Amgueddfa Petrie yn Llundain ac Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen, ble y'i hapwyntiwyd yn Gymrawd Hŷn Coleg Somerville. Yno y daeth i adnabod ei gŵr, John Gwynedd Griffiths (1911-2004), clasurydd ac Eifftolegydd fel hithau. Wedi iddynt briodi ym 1939, symudasant i'r Pentre yng Nghwm Rhondda pan benodwyd Gwyn i swydd athro yn Ysgol Sir y Porth. Ymgasglodd grŵp o awduron, beirdd a heddychwyr o gwmpas y pâr a ffurfiwyd Cylch Cadwgan. Mae'n rhaid bod aelodau'r cylch, megis William Thomas (Pennar) Davies a Rhydwen Williams, wedi rhyfeddu at y fenyw ifanc hon, a oedd eisoes yn meistroli'r Gymraeg, a'i ffordd anghyfarwydd o drafod pynciau llosg yn agored. Yn fuan mynegodd Kate ei chefndir cyfandirol-fodernaidd a'i haddysg glasurol dan ddylanwad trafodaethau ac egwyddorion heddychol Cylch Cadwgan mewn barddoniaeth, nofelau a straeon byrion Cymraeg. Cyhoeddodd gyfres o gerddi a straeon arloesol yn y cylchgrawn Heddiw ym 1940 a 1941. Ymddangosodd ei nofel gyntaf Anesmwyth Hoen ym 1941, y casgliad o straeon byrion Fy Chwaer Efa ym 1944, ei hail nofel Mae'r Galon wrth y Llyw ym 1957, a'r casgliad o straeon diweddar, Cariadau, ym 1995. Denodd ei gwaith sylw am y cyfuniad o agweddau ffeministaidd ag ystyriaethau ysbrydol dwys, yn enwedig am y trafod agored ar agweddau o fywydau merched a oedd yn waharddedig mewn llenyddiaeth Gymraeg o hyd; eu rhywioldeb a phynciau cysylltiedig megis godineb ac erthylu. Enillodd Anesmwyth Hoen gystadleuaeth Llyfrau'r Dryw ym 1941, eto y mae'n arwyddocaol i E. Tegla Davies ofyn yn ei adolygiad 'i'r awdur gymedroli a chynilo yn yr adrannau sydd fwyaf tebygol o achosi camddeall a dolurio'. Yn ei llyfrau ffeithiol poblogaidd Mudiadau Heddwch yn yr Almaen (1943), Bwlch yn y Llen Haearn (1951), a Trem ar Rwsia a Berlin (1962), teithiodd Kate mewn gofod ac amser i ddadansoddi ei pherthynas â'r Almaen a Dwyrain Ewrop, gan gyflwyno'r bydoedd anghyfarwydd hyn i'r darllenydd Cymraeg. Cyfrannodd hefyd i ddarlledu Cymraeg yn y 1950au, â rhaglenni ar weithiau clasurol Almaeneg megis Die Leiden des jungen Werther a Der Streit um den Sergeanten Grisha. Ar sail ei hymchwil i grefyddau hynafol a'i diddordeb yn y goruwchnaturiol, ysgrifennodd lyfr ar goelion a meddyginiaethau gwerinol a gyhoeddwyd fel Byd y Dyn Hysbys ym 1977.

Wedi cyfnod byr yn y Bala, ble y sefydlwyd y cylchgrawn llenyddol Y Fflam gan Kate a Gwyn, ar y cyd â'r Parch. Euros Bowen a William Thomas (Pennar) Davies, symudasant i Abertawe, yn dilyn apwyntiad Gwyn fel Darlithydd y Clasuron a'r Eiffteg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Abertawe ym 1946. Yno y magwyd eu meibion, Robat Gruffudd (ganwyd 1943) a Heini Gruffudd (ganwyd 1946), tra bod Kate yn gweithio fel Curadur Archaeoleg er Anrhydedd yn Amgueddfa Abertawe. Treuliodd y pâr flwyddyn yn yr Aifft ar ddiwedd y 1960au pan fu Gwyn yn athro gwadd ym Mhrifysgol Cairo. Defnyddiwyd y flwyddyn gan Kate i ysgrifennu llyfr a gyfunodd ei gwybodaeth o hanes yr Aifft â disgrifiad o gymdeithas fodern y wlad, Tywysennau o'r Aifft, a gyhoeddwyd ym 1970.

Daeth cyfle i ddychwelyd i faes Eifftoleg ym 1971, pan gynigiwyd y rhan helaethaf o gasgliad Wellcome o arteffactau Eifftaidd i Adran y Clasuron Coleg Prifysgol Abertawe. Derbyniwyd y casgliad ac apwyntiwyd Kate yn Guradur Amgueddfa Wellcome y Coleg. Treuliodd weddill ei hoes yn y swydd hon, gan gatalogio, trefnu ac ymchwilio i'r casgliad dan ei gofal. O 1972, ymddangosododd ysgrifau seiliedig ar y trysorau yn y casgliad yn y Journal of Egyptian Archaeology, yn ogystal â chylchgronau yn Ffrainc a'r Almaen. Esboniodd wahanol agweddau ar y casgliad i'r cyhoedd mewn catalogau darluniadol megis A Musician Meets Her Gods a Five Ways of Writing between 2000 BC and AD 200. Cafodd y pleser o weld y Ganolfan Eifftaidd yn adeilad newydd Taliesin ar gampws Prifysgol Abertawe bron wedi'i chwblhau. Agorwyd yr adeilad newydd ym mis Medi 1998. Cyhoeddwyd cyfrol o ysgrifau llenyddol, Teithiau'r Meddwl, rhai ohonynt yn gyhoeddedig eisoes, yn 2004.

Bu farw Kate Bosse-Griffiths yn Abertawe ar 4 Ebrill 1998 a chladdwyd hi ym mynwent Treforys. Erys y rhan fwyaf o'i llawysgrifau, gan gynnwys ei dyddiaduron, gyda'r teulu, ond cedwir rhai llawysgrifau o'i gwaith darlledu Cymraeg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-04-27

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.