Ganwyd 7 Rhagfyr 1911 yn y Porth, Cwm Rhondda, yn drydydd o bum plentyn y Parchg Robert Griffiths, gweinidog Moreia (B), Pentre, a Mrs Jemima Griffiths (gynt Davies). Brawd iau iddo oedd y Parchg D. R. Griffiths (1915-1990), ysgolhaig Beiblaidd ac emynydd. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir y Bechgyn, y Porth, ac yng Ngholeg Prifysgol Deheudir Cymru a Mynwy, Caerdydd (dosbarth 1af mewn Lladin, 1932, dosbarth 1af mewn Groeg, 1933), Prifysgol Lerpwl (M.A. mewn Eifftoleg, 1936) a Choleg y Frenhines, Rhydychen (D.Phil., 1949). Pan oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen (1936-9) cyfarfu â Käthe Bosse, yn enedigol o Wittenberg (Lutherstadt), yr Almaen, Eifftolegydd a gawsai waith yn Amgueddfa Ashmole ar ôl ffoi, a hithau'n rhannol o dras Iddewig, rhag erlid y Natsïaid. Priododd y ddau, 13 Medi 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, uniad a arweiniodd at oes o rannu yr un dyheadau ac o gydweithio academaidd a llenyddol. Meibion iddynt yw'r awduron Robat Gruffudd (ganwyd 1943), sefydlydd Gwasg y Lolfa, a Heini Gruffudd (ganwyd 1946), awdurdod ar ddysgu'r Gymraeg i oedolion ac ymgyrchydd brwd o'i phlaid.
Yn 1939 cafodd J. Gwyn Griffiths swydd athro Lladin yn ei hen ysgol yn y Porth. Yn y cyfnod hwn ei gartref ef a Käthe, yn y Pentre, oedd canolfan 'Cylch Cadwgan', grwp o lenorion ifainc o gyffelyb fryd, yn cynnwys Pennar Davies a Rhydwen Williams. Yn radicaliaid eu hargyhoeddiadau Cristnogol, pasiffistaidd a chenedlaethol, dymunent hefyd weld llenyddiaeth Gymraeg yn ymryddhau o'i hen hualau, yn dod yn fwyfwy agored i ddylanwadau Ewropeaidd ac yn mynd i'r afael ag argyfyngau'r oes. Nodweddir gwaith llenyddol Cymraeg J. Gwyn Griffiths, ei gyfrolau o farddoniaeth - Yr Efengyl Dywyll a Cherddi Eraill (1944), ei ran yn y cywaith Cerddi Cadwgan (1953), Ffroenau'r Ddraig (1961), Cerddi Cairo (1969) a Cerddi'r Holl Eneidiau (1981) - a'i gyfrol o feirniadaeth lenyddol, I Ganol y Frwydr (1970), gan nodyn o ymrwymiad cenedlaethol a rhyng-genedlaethol, yn ogystal â chan ddiwylliant polymathig a llawer o feiddgarwch cellweirus. (Yn 2007 casglwyd ei holl gerddi ynghyd yn un gyfrol, Hog Dy Fwyell, wedi'i golygu gan ei fab Heini Gruffudd.) Yn 1943 symudodd o Gwm Rhondda i fod yn athro Lladin yn Ysgol Ramadeg y Bala: yn y cyfnod hwnnw cynorthwyodd Euros Bowen i sefydlu Y Fflam, cylchgrawn a fu (hyd 1952) yn llwyfan i do newydd o lenorion Cymraeg.
Yn 1946 penodwyd J. Gwyn Griffiths yn ddarlithydd cynorthwyol, yna yn 1947 yn ddarlithydd, yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Rhoes hyn gyfle iddo ddychwelyd o ddifrif at y gwaith ymchwil a ddodwyd o'r neilltu ym mlynyddoedd y rhyfel, astudiaeth o'r cwlt crefyddol a gysylltid â'r duwiau Eifftaidd Isis ac Osiris. Yn ei draethawd doethurol trafododd agwedd ar y chwedlau sy'n gysylltiedig â'r duwiau hynny, sef yr ymrafael rhwng Horus a Seth, gwaith a fu'n sylfaen i'w gyfrol gyntaf yn y maes, The Conflict of Horus and Seth, from Egyptian and Classical Sources: A Study in Ancient Mythology (1960). I ddilyn cafwyd The Origins of Osiris (1966), yna esboniadau meistraidd ar draethawd Groeg Plutarch De Iside et Osiride (1970) ac ar lyfr olaf 'Asyn Aur' yr awdur Lladin Apuleius, Apuleius of Madauros: The Isis-Book (Metamorphoses, Book XI) (1975), ac wedi hynny The Origins of Osiris and his Cult (1980). Enillodd y gweithiau hyn gydnabyddiaeth eang i'r awdur. Yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd (1959), darllenydd (1965) ac athro (1973). Bu hefyd yn Ddarlithydd Ymchwil Lady Wallis Budge yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen (1957-8), yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Cairo (1965-6), ac yn Gymrawd ar Ymweliad yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen (1976-7), yn ogystal â threulio cyfnodau ar ymweliad ym Mhrifysgolion Bonn a Tübingen. Ef oedd golygydd The Journal of Egyptian Archaeology o 1970 i 1978. Dyfarnwyd iddo raddau D.Litt. (Rhydychen), 1972, a D.D. (Cymru), 1979, ar sail ei weithiau cyhoeddedig.
Yn 1979 ymddeolodd J. Gwyn Griffiths o'i swydd yn y brifysgol yn Abertawe, ond parhaodd i ymchwilio ac ysgrifennu gyda'r un eiddgarwch. Yr oedd bellach yn adnabyddus yn rhyngwladol fel awdurdod ar hen grefyddau'r Aifft ac ar ymateb y Groegiaid a'r Rhufeiniaid i'r diwylliant Eifftaidd. Yn ei ymddeoliad lledodd ei ddiddordebau ysgolheigaidd i gynnwys crefyddau eraill yr Hen Fyd. Yn 1991 cyhoeddwyd The Divine Verdict: A Study of Divine Judgement in the Ancient Religions, a dilyn hynny, yn 1996, gan Triads and Trinity, cyfrol yn olrhain delweddau trindodaidd yn yr Hen Fyd ac yn cyd-destunoli athrawiaeth Gristnogol y Drindod. Hefyd cyhoeddwyd casgliad helaeth o'i ysgrifau pwysicaf, Atlantis and Egypt with other Selected Essays (1991), cyfrol arall sy'n arddangos ehangder ei ysgolheictod. Yn 1992 cyflwynwyd iddo Festschrift gan ei gyd-Eifftolegwyr, Studies in Pharaonic Religion and Society in honour of J. Gwyn Griffiths (gol. Alan B. Lloyd), cyfrol sy'n cynnwys llyfryddiaeth o'i gynnyrch ysgrifenedig hyd 1991. Llawenydd arbennig iddo oedd gweld agor, ym Mhrifysgol Abertawe yn 1998, y Ganolfan Eifftaidd, cartref parhaol a phwrpasol i Gasgliad Wellcome o hynafiaethau Eifftaidd, y bu ef a Käthe Bosse-Griffiths yn gyfrwng ei sicrhau ar gyfer y brifysgol.
Drwy'r holl flynyddoedd bu J. Gwyn Griffiths ar flaen y gad yn hyrwyddo buddiannau Cymru a'r Gymraeg. Ef oedd prif ysgogydd sefydlu Adran Glasurol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, adran y bu'n ysgrifennydd (1951-72) a llywydd (1972-92) ymroddedig iddi. Dan ei hadain hi golygodd y ddau gasgliad Cerddi o'r Lladin (1962) a Cerddi Groeg Clasurol (1989), a chyhoeddodd hefyd drosiad Cymraeg o waith Aristoteles ar feirniadaeth lenyddol, Y Farddoneg (1978; argraffiad newydd, 2001). Yr oedd yn gyfaill i Waldo Williams a D. J. Williams: bu casgliad a wnaed ganddo o gerddi Waldo yn sail ar gyfer cyhoeddi Dail Pren (1956), ac ef a olygodd y gyfrol deyrnged i D. J. (1965), y casgliad o'i storïau cynnar Y Gaseg Ddu (1970), a'r gyfrol o luniau amdano yng nghyfres Bro a Bywyd (1982). Yn gynharach yn ei fywyd ysgrifennodd nifer o bamffledi gwleidyddol, yn cynnwys Anarchistiaeth (1944) ac Y Patrwm Cydwladol (1949), ac o 1948 i 1952 bu'n olygydd cyfnodolyn Plaid Cymru, Y Ddraig Goch. Safodd hefyd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru mewn etholiadau lleol a seneddol yng nghylch Abertawe. Bu'n gefn i bob gweithgarwch Cymraeg yn ardal Abertawe, ac er ei lesteirio gan fyddardod yn ei flynyddoedd olaf, anaml y byddai'n absennol o unrhyw ddigwyddiad i hyrwyddo achos yr iaith yn y fro. Am flynyddoedd bu'n ddiacon yng Nghapel Gomer (B) yn Abertawe, ac yn bregethwr lleyg a roes yn ddibrin o'i wasanaeth i eglwysi pob enwad yn y cylch.
Yr oedd J. Gwyn Griffiths yn wr o argyhoeddiadau dyfnion, yn weithiwr diarbed ac yn gwmnïwr cynnes a ffraeth. Bu farw yn Abertawe, yn 92 oed, ar 15 Mehefin 2004, dros chwe mlynedd ar ôl ei briod. Ar 23 Mehefin 2004, yn dilyn gwasanaeth yng Nghapel y Trinity, Abertawe, claddwyd ei weddillion yn yr un bedd â Käthe ym Mynwent Treforys.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-04-23
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.