JONES, GWILYM EIRWYN (‘EIRWYN PONTSHÂN’) (1922-1994), saer coed, diddanwr, cenedlaetholwr

Enw: Gwilym Eirwyn Jones
Ffugenw: EIRWYN PONTSHÂN
Dyddiad geni: 1922
Dyddiad marw: 1994
Priod: Elizabeth Mary Jones (née Thomas)
Plentyn: Blodeuwedd Jones
Plentyn: Idwal Jones
Rhiant: Mary Theodosia Jones (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: saer coed, diddanwr, cenedlaetholwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwladgarwyr; Perfformio
Awdur: Lyn Ebenezer

Ganwyd Eirwyn Pontshân ar 31 Awst 1922 ym Mhreswylfa, Talgarreg yn fab i Mary Theodosia Jones. Roedd ganddo chwaer, Margaret Irene (Magina) Jones (wedyn Thomas). Y dylanwad mwyaf arno fel plentyn fu ei fam-gu, Ruth Jones, Mynachlog. Cofnododd honno ei hunangofiant, a hithau dros ei phedwar ugain oed sef Atgofion Ruth Mynachlog (Gwasg Gomer 1939).

Gadawodd Eirwyn yr ysgol leol yn bedair ar ddeg oed i ddilyn prentisiaeth fel saer coed, ac fel prentis bu'n gweithio'n ddi-dâl am ddwy flynedd. Wedi hynny bu'n gweithio i wahanol gyflogwyr ledled Sir Aberteifi a thu hwnt. Aeth ei waith ag ef am gyfnod i ardal Sblot yng Nghaerdydd. Ymhlith cyflogwyr eraill roedd y Cyngor Sir, ac Urdd Gobaith Cymru pan fu Eirwyn yn gweithio yn Neuadd Pantyfedwen, Y Borth.

Adeg yr Ail Ryfel Byd methodd ei brawf meddygol a bu'n löwr yn ardal Cross Hands. Yn 1947 priododd ag Elizabeth Mary Thomas o Drisant. Ganwyd iddynt ddau o blant, Blodeuwedd ac Idwal. Enwyd y naill fel teyrnged i Saunders Lewis a'r llall ar ôl arwr arall, yr awdur a'r digrifwr Idwal Jones. Aeth Idwal yn saer coed fel ei dad.

Ar ôl priodi ymsefydlodd y ddau am gyfnod mewn dwy stafell mewn tŷ yn y Borth. Hynny fu'n sail i un o glasuron Eirwyn, sef y ddameg fodern ar Senedd Jôns y Ffish (Twyll Dyn 8) am fethiant refferendwm 1979. Bu'r teulu'n byw mewn nifer o lefydd yng ngogledd y sir yn cynnwys Glyn Helyg ym Mro Gynin, yn Y Bwthyn ym Mhen-y-garn ac yn Nhroedrhiwfelen ger Tre Taliesin. Symudasant wedyn yn ôl i dde'r sir i Bengelli, Pontshân, a thra bu yno y daeth i gael ei adnabod fel Eirwyn Pontshân.

Fel digrifwr gwelwyd ef yn aml ar lwyfannau noson lawen. Ond yr Eisteddfod Genedlaethol oedd ei brif lwyfan. Tueddai i gynnal sesiynau byrfyfyr. Yn hytrach na rhaffu jôcs, adrodd hanesion oedd wedi eu seilio ar brofiadau personol a wnâi. Disgrifiwyd ef fel comedïwr amgen, a hynny cyn i'r ymadrodd gael ei fathu. Bu'n mynychu'r Brifwyl yn ddi-dor o Eisteddfod Aberteifi 1942 tan ddechrau'r nawdegau. Yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1952 sefydlwyd Undeb y Tancwyr (Undeb Cenedlaethol Tancwyr Cymru) gan Harris Thomas, pensaer o Gaernarfon a'i wraig Stella. Penodwyd Eirwyn yn Llywydd Oes Anrhydeddus. Mudiad llac ond gyda'i anthem a'i faner ei hun oedd hwn. Dyna hefyd pryd y gwelwyd Eirwyn gyntaf yn ei gap gwyn, a ddaeth yn fath o arwyddlun swyddogol iddo. Daeth y dyn bach â'r mwstash a'r cap gwyn yn ffigwr cenedlaethol. Yn Eisteddfod Abergwaun a'r Fro 1986 urddwyd ef yn aelod o'r Orsedd fel Pontshân.

Ddiwedd y pumdegau aeth ar ei liwt ei hun fel saer coed ac ymgymerwr angladdau gan symud yn ôl i Dalgarreg, i'r Waunwen. Sefydlodd weithdy yn y pentref. Y dylanwadau mawr arno yno oedd prifathro'r ysgol leol, Tom Stephens a Dewi Emrys, a dreuliodd gyfnod o un mlynedd ar ddeg yn byw yn Y Bwthyn. Bu'n mynychu dosbarthiadau nos Dewi a bu'n aelod o'i gwmni drama.

Symudodd y teulu i gyrion y pentref yn 1959, i dyddyn a elwid Black Lion. Newidiodd Eirwyn enw'r tŷ i Godre'r Garn. Yno yn y gweithdy gerllaw'r tŷ y treuliodd weddill ei ddyddiau gwaith. Yn 1962 penderfynodd werthu'r tŷ a'r tir. Yna deallodd mai dyn o Essex oedd y darpar brynwr. Gwrthododd barhau â'r gwerthiant a mynnodd ddal gafael ar y lle. Yno y bu hyd ei farw ar 12 Chwefror 1994. Claddwyd ef ym mynwent Pisgah, nid nepell oddi wrth fedd un o'i arwyr, Dewi Emrys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-01-08

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/