Ganwyd Rachel Barrett ar 12 Tachwedd 1874 yn 23 Stryd yr Undeb, Caerfyrddin, yr ail o blant Ann Barrett (g. Jones, 1839-c.1906) a'i gŵr Rees Barrett (1812-1878), arolygwr ffyrdd. Roedd y ddau riant yn Gymry Cymraeg. Bu ei thad farw pan oedd Rachel yn bedair oed a symudodd y teulu i dŷ yn Stryd Morley. Aeth Rachel i ysgol breswyl Stratford Abbey yn Stroud, ac ar ôl rhagori yn Arholiadau Lleol Rhydychen, enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd gyda BSc mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Bu'n dysgu am dair blynedd yn Ysgol Sir Caerfyrddin, ac wedyn yn 1905 daeth yn athrawes wyddoniaeth yn Ysgol Sir Penarth. Yn 1906, ymunodd â'r Women's Social and Political Union (WSPU) gan gynorthwyo Adela Pankhurst gyda'i gwaith yng Nghymru. Ar ôl ymddiswyddo (neu gael ei diswyddo oherwydd ei gweithgareddau) o'i swydd ym Mhenarth, gadawodd Rachel Gymru gyda'r bwriad o astudio am radd DSc yn Ysgol Economeg Llundain, ond yn fuan iawn dechreuodd weithio'n llawn amser i'r WSPU. Fel y sylwodd Ryland Wallace, '[w]omen's suffrage came to consume the existence of many women and of no Welsh woman was this more true than of Rachel Barrett, who dedicated almost a decade of her life to the cause'. Er ei bod wedi ymlâdd gan ei gwaith dros y mudiad bu'n gadeirydd ar 'Platfform 14' yn y rali yn Hyde Park yn haf 1908, a chyflawnodd yr un swyddogaeth eto yn 1910 fel cadeirydd y Platfform Cymreig. Yn hydref 1909, ar ôl gweithio gydag Annie Kenney ym Mryste, daeth yn un o drefnwyr cangen Casnewydd o'r WSPU a chychwynnodd ar raglen flinderus o siarad cyhoeddus a digwyddiadau eraill.
Gan ei bod yn siarad Cymraeg, arweiniodd Rachel ymgyrch yng ngogledd Cymru yn haf 1910 ac roedd yn rhan o ddirprwyaeth a aeth i gyfarfod â Lloyd George yn ei gartref yng Nghricieth. Wedi dadlau'n frwd ag ef am ddwy awr a hanner gadawodd Rachel yn argyhoeddedig bod Lloyd George yn gwbl wrthwynebus i'r WSPU a bod ei gefnogaeth i'r bleidlais i ferched yn anniffuant.
Yn fuan ar ôl y cyfarfod hwnnw, penodwyd Rachel yn drefnydd y WSPU ar gyfer Cymru, ac yn ogystal â llawer o siarad cyhoeddus, trefnodd daith Mrs Pankhurst o gwmpas gogledd Cymru ym Mehefin 1911. Yn yr un mis, cymerodd ran yng Ngorymdaith Coroni y Merched, mewn gwisg Gymreig. Bwriad yr Orymdaith oedd bod, yng ngeiriau Christabel Pankhurst, 'the most imposing peaceful demonstration…and Pageant of Empire' gan gyflwyno'r achos dros y bleidlais i ferched mewn dull di-drais.
Erbyn misoedd olaf 1911, roedd Rachel wedi dod yn ffigwr allweddol yn y mudiad, a chafodd gyfarfod â Reginald McKenna, yr Ysgrifennydd Cartref, yn Nhŷ'r Cyffredin. Ac ystyried amlygrwydd cynyddol Rachel o fewn y mudiad a'i gallu i herio a dadlau, nid yw'n syndod, ar ôl i Christabel Pankhurst ffoi i Baris, iddi gael ei dewis gan Annie Kenney i'w chynorthwyo i reoli ymgyrch genedlaethol y WSPU a'i gwneud yn gyfrifol yn hydref 1912 am The Suffragette, papur â chylchrediad o dros 40,000 o gopïau'r wythnos.
Yn ddiamau roedd gan Rachel lawer o nodweddion gwerthfawr iawn: ei galluoedd deallusol, a'i daliadau cryfion a'i gosodai ar adain chwith y mudiad. Wrth iddi ymsefydlu yn Llundain, bu'n annerch wrth ochr y Pankhursts, Annie Kenney a swffragetiaid blaenllaw eraill mewn lleoliadau fel Pafiliwn Llundain, Piccadilly Circus, Neuadd Steinway a'r Grand Theatre, Manceinion. Yng Ngorffennaf 1912, bu'n cydannerch â'r etholfreintwraig Alice Abadam, hithau hefyd o Gaerfyrddin, yn y gwrthdystiad yn Hyde Park lle siaradodd y ddwy ar ran y Cymric Suffrage Union. Yn ystod yr un mis, cynhaliodd Rachel a'r Ranee o Sarawak, Margaret Brooke, gyfres o gyfarfodydd awyr agored yn swydd Hertford. Er nad oes fawr o adroddiadau am gynnwys ei hareithiau, canolbwyntiodd Rachel ar y materion cyffredinol ynghylch achos pleidleisiau i ferched ac ar statws swffragetiaid yn y carchar, gan alw ar iddynt gael eu trin fel carcharorion gwleidyddol. Amddiffynnodd y dulliau mwy ymosodol o ymgyrchu hefyd, gan gynnwys llosgi adeiladau a malu ffenestri. Yn Awst 1912, roedd yn rhan o ddirprwyaeth o bedair a gyfarfu â Robert Borden, Prif Weinidog Canada, yng ngwesty'r Savoy.
Gwedd arall ar waith Rachel Barrett dros y mudiad oedd ei ffotograffiaeth ar achlysuron o bwys. Efallai fod hyn yn egluro pam y mae Rachel ei hun i'w gweld mor anaml mewn ffotograffau o gyfarfodydd a digwyddiadau eraill. Y ffotograff enwocaf a briodolir iddi yw'r un a dynnwyd y tu allan i San Steffan ar 18 Tachwedd 1910, pan fethodd y Prif Weinidog Asquith unwaith eto â chyflawni darpariaethau'r Mesur Cymodi. Wrth i'r swffragetiaid gynnal gwrthdystiad y tu allan i Balas Westminster, ymosodwyd ar dros 150 ohonynt gan yr heddlu a dynion eraill ac arestiwyd 119 o ferched. Dyma un o'r digwyddiadau mwyaf drwg-enwog yn hanes mudiad yr etholfraint ac achosodd gynnydd yng ngweithgareddau'r swffragetiaid milwriaethus.
O Ionawr 1913, yn dilyn anogaeth Emmeline Pankhurst mai dyletswydd foesol oedd bod yn filwriaethus mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, dechreuodd aelodau'r WSPU ymosod ar eiddo mewn dull herwryfela, gan ddwysáu'r ymgyrch i gynnwys dinistrio blychau llythyrau, torri ffenestri siopau a llosgi i lawr ystafelloedd lluniaeth yn Regent's Park. Yn Ebrill yr un flwyddyn, pasiodd y Senedd y 'Cat and Mouse Act' drwg-enwog, neu 'The Prisoners' (Temporary Discharge for Ill-Health) Act', a dygwyd achos yn erbyn Mrs Pankhurst a'i dedfrydu i dair blynedd o garchar. Ar 30 Ebrill 1913, gwnaeth yr heddlu gyrch ar swyddfa'r WSPU yn Lincoln's Inn House ac arestiwyd Rachel Barrett ynghyd â phump arall. Ym mis Mehefin cafwyd y chwech yn euog o gynllwynio i ddifrodi eiddo ac annog eraill i wneud yr un peth. Yn y misoedd rhwng Ebrill a Mehefin daethpwyd â'r cyhuddedig gerbron ynadon nifer o weithiau ac fe'u disgrifiwyd yn y wasg fel 'young hot bloods' a 'terrorists' a oedd yn rhan o 'reign of terror' y swffragetiaid. Dedfrydwyd Rachel i naw mis o garchar ac argymhellodd y barnwr y dylid cadw'r carcharorion dan glo hyd yn oed pe baent yn mynd ar streic newyn.
Cynhaliwyd achos llys Rachel Barrett yn yr Old Bailey yn ystod pythefnos cyntaf Mehefin 1913 gan gyd-daro â marwolaeth Emily Wilding Davison ar 8 Mehefin, yn sgil ei phrotest yn y Derby. Roedd strydoedd Llundain yn stond yn ystod angladd Davison ac roedd Rachel yn un o'r prif alarwyr, gan gerdded yn union y tu ôl i'r arch yn yr orymdaith. O fewn tri diwrnod i'r angladd fe'i carcharwyd, yng ngharchar Holloway yn gyntaf ac wedyn yng Nghaergaint, lle cychwynnodd ar streic newyn yn syth. Wedi ei rhyddhau i gartref nyrsio pan aeth yn eiddil iawn, fe'i harestiwyd eto ar ôl ymadfer am dair wythnos. Ailadroddwyd yr un patrwm o arestio a rhyddhau sawl gwaith, gan gynnwys un achlysur yng Ngorffennaf 1913 pan ailarestwyd hi ar ôl siarad mewn cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Goffa yn Stryd Farringdon. Aeth Rachel ar streic newyn a syched ac roedd mewn cyflwr corfforol gwael iawn pan gafodd ei rhyddhau. Aeth i Gaeredin lle cafodd lawdriniaeth ac aros yno dan ymgeledd tan Ragfyr 1913. Dychwelodd i Lundain wedyn a chael ei smyglo i mewn i Kingsway House dan lygaid y detectifs lle bu'n byw dan gudd tan Fai y flwyddyn wedyn gan olygu a chyhoeddi The Suffragette bob wythnos.
Pan dorrodd y rhyfel, rhyddhawyd y carcharorion swffragét yn ddiamod, a datganodd Mrs Pankhurst ohiriad yr holl ymgyrchu er mwyn cefnogi ymdrech y rhyfel. Cytunodd Rachel â'r penderfyniad gan gollfarnu'r Almaen fel 'the most formidable embodiment of militarism in the history of the world'. Parhaodd i annerch mewn cyfarfodydd yn ystod y rhyfel, y enwedig ar bwnc cyflogaeth merched, a chymerodd swydd ei hun fel athrawes fathemateg mewn ysgol sir fawr o 250 o fechgyn rhwng 10 a 18 oed, a hithau'n un o dair merch ar staff o un ar ddeg.
Yn 1919, aeth ar daith o amgylch America gyda'r nofelydd Ida Wylie (1885-1959), a bu'r ddwy'n byw gyda'i gilydd wedyn yng Nghaliffornia. Yn 1928, cefnogodd Rachel ac Ida eu ffrind, Radclyffe Hall, pan fu nofel Hall, The Well of Loneliness, stori am gariad lesbaidd, yn bwnc achos llys am anlladrwydd a chael ei gwahardd wedyn. Pan ddaeth ei pherthynas â Wylie i ben, symudodd Rachel i Sible Hedingham, Essex, lle daeth yn aelod o'r Suffragette Fellowship. Bu ar brawf mewn dau achos llys pellach, un am drosedd moduro a'r llall am ddangos golau yn ystod y blacowt yn yr Ail Ryfel Byd. Bu Rachel Barrett farw mewn cartref nyrsio yn Sussex, yn bedair ar bymtheg a thrigain oed, ar 26 Awst 1953.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-07-29
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.