EVANS, ANNIE FLORENCE ('Florrie') (1884 - 1967), diwygwraig a chenhades

Enw: Annie Florence Evans
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1967
Rhiant: David Owen Evans
Rhiant: Margaret Evans (née Jones)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: diwygwraig a chenhades
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David Pike

Ganwyd Florrie Evans ar 15 Rhagfyr 1884 yng Ngheinewydd, Sir Aberteifi, yr ail o bedwar o blant David Owen Evans (1853-1918), llongwr, a'i wraig Margaret (g. Jones, 1853-1929). Roedd y teulu'n byw yn 5 Marine Terrace yn 1881, ac yn 4 Lewis Terrace yn 1891. Erbyn 1901, yn dilyn dyrchafiad y tad yn gapten, roeddent wedi symud i 12 Marine Terrace a'r tŷ hwnnw fu eu cartref oddi ar hynny.

Mynychodd Florrie Evans yr ysgol fwrdd leol, ac fe'i magwyd yng nghapel Tabernacl y Methodistiaid Calfinaidd. Profodd droedigaeth yno yn Chwefror 1904 yn sgil pregethu adfywiol y gweinidog Joseph Jenkins. Ychydig wedyn mewn cwrdd gyda'r nos, gwnaeth Florrie ddatganiad syml a theimladwy o gariad at Grist: 'Yr wyf fi'n caru Iesu Grist â'm holl galon!'. Gwnaeth hyn argraff ddofn ar y rhai a oedd yn bresennol, a dyma fan cychwyn effeithiol y Diwygiad yng Nghymru. Aeth Joseph Jenkins â grwpiau o bobl ifainc ar draws Sir Aberteifi wedyn i ledu'r diwygiad, a Florrie Evans yn flaenllaw yn eu plith. Dywedodd Jenkins fod ei hesiampl hi yn fodd i'w waredu rhag hunan a philosoffi.

Pan ddaeth Evan Roberts i Gastellnewydd Emlyn ym Medi y flwyddyn honno, cafodd brofiad ysbrydol nerthol mewn cyfarfod ym Mlaenannerch wedi ei gadeirio gan Seth Joshua, ac roedd Florrie Evans yn un o'r rhai a fu'n ei annog yn y cyfarfod. Gwahoddwyd hi wedyn i fod yn aelod o garfan Evan Roberts o ddiwygwyr teithiol. Pan aeth Evan Roberts i Gasllwchwr i gychwyn ei ymgyrch diwygiol, sgrifennodd at Florrie Evans i ofyn iddi weddïo. Yn nes ymlaen, wrth i danau'r Diwygiad gydio, aeth Florrie Evans a Maud Davies, cantores o gapel y Tabernacl, at Evan Roberts yng Ngorseinon a chymryd rhan yn rhai o'r cyfarfodydd yno.

Dechreuodd Florrie Evans deithio gyda diwygwyr eraill, yn enwedig Joseph Jenkins, ac aeth ar un daith gyda Seth Joshua hefyd. Gweithiodd dros Gymru gyfan gyda Maud Davies yn bartner iddi, a hefyd yn Llundain yn Awst 1905. Byddai Florrie yn annerch a Maud yn canu, a rhannodd Florrie ei phrofiad yn feiddgar a di-ofn, gan ddarllen o'r ysgrythur, pregethu, proffwydo, canu'n nerthol, gweddïo'n angerddol, yn ei dagrau'n aml, a bu'n cynorthwyo rhai a oedd yn ceisio ac yn dod dan argyhoeddiad. Erbyn diwedd 1905, ar ôl ymweliad arall â gogledd Cymru, daeth y teithio i ben.

Yn haf 1908, wedi clywed sôn am y diwygiad a oedd ar waith ym Mryniau Khasia, gwnaeth Florrie Evans gais i wasanaethu gyda Chenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn India. Mewn llythyr i gefnogi ei chais dywedodd y Parch. John Thickens o Aberaeron ei bod yn 'very exceptional lady, possessed of deep convictions and of insight into the truth.' Gadawodd Florrie Evans Lerpwl ar yr agerlong 'City of Karachi' ar 19 Tachwedd 1908, ac roedd yn Sylhet erbyn y Nadolig. Gwasanaethodd yno fel nyrs, ond aeth yn sâl yn 1909 ac ni allai barhau â'r gwaith. Yn 1910 trosglwyddwyd hi i amgylchiadau haws yn bellach i'r de. Serch hynny, yn sgil rhyw anghydfod dychwelodd i Geinewydd erbyn Medi 1911. Arhosodd yno yng nghartref y teulu am yr ugain mlynedd nesaf.

Ar 28 Awst 1918 boddodd tad Florrie Evans pan drawyd ei long yr 'Auckland Castle' gan dorpedo ym Môr y Gogledd. Gofalodd Florrie am ei mam tan ei marwolaeth yn 1929, ac wedyn symudodd i Gaerdydd. Erbyn 1935 roedd yn byw ar ei phen ei hun yn 11 Heol Cefn Carnau, y Waun Ddyfal, lle'r arhosodd am weddill ei bywyd. Yn ôl pob tebyg byddai'n mynychu'r capel agosaf, eglwys Bresbyteraidd Park End, ac yno hefyd yr addolai Evan Roberts yn y cyfnod hwn ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru yn 1927. Bu'r ddau hen gyfaill yn byw o fewn llai na milltir i'w gilydd nes i Evan Roberts farw yn 1951.

Bu Florrie Evans farw yn Ysbyty Glanelái, Caerdydd ar 11 Rhagfyr 1967, yn 82 oed. Mewn hysbysiad byr yn y Western Mail ni chyfeiriwyd at ei rhan yn y Diwygiad. Cynhaliwyd ei hangladd yng Ngheinewydd yn hytrach na Chaerdydd, ac fe'i claddwyd yn eglwys St. Llwchaearn yno ar 14 Rhagfyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-09-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.