JONES, THOMAS (TOM) (1908 - 1990), undebwr llafur a milwr yn Rhyfel Cartref Sbaen

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1908
Dyddiad marw: 1990
Priod: Rosa Edwards (née Thomas)
Plentyn: Keith Jones
Plentyn: Moira Jones
Rhiant: William Jones
Rhiant: Mary Jones (née Clayton)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: undebwr llafur a milwr yn Rhyfel Cartref Sbaen
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Milwrol
Awdur: Gwyn Jenkins

Er ei fod yn Gymro Cymraeg balch, ganwyd Tom Jones yn Ashton-in-Makerfield, Sir Gaerhirfryn, ar 13 Hydref 1908, yn fab i löwr o Gymru a morwyn gegin o Loegr. Roedd ei dad, William Jones, yn frodor o ardal yr Wyddgrug, Sir y Fflint, a oedd wedi symud i Sir Gaerhirfryn gyda'i wraig Mary (g. Clayton), a anwyd yn Swydd Stafford, oherwydd y cyflogau uwch a dalwyd ym mhwll glo Bryn Hall bryd hynny.

Symudodd y teulu i Rosllannerchrugog (y Rhos), Sir Ddinbych, ym 1915, pan oedd Jones yn chwe mlwydd oed, ac ymgartrefodd ef yn fuan yn y pentref glofaol Cymraeg hwnnw a oedd yn llawn cymeriad ac ysbryd cymunedol.

Ar ôl gadael yr ysgol ym 1922, daeth Jones o hyd i waith ym mhwll glo yr Hafod ac, wedi hynny, Bersham. Roedd hwn yn gyfnod o wrthdaro diwydiannol, a ddaeth i'w benllanw gyda Streic Gyffredinol 1926 a chloi allan y glowyr, gan ddylanwadu'n fawr ar safbwyntiau gwleidyddol Jones. Gwasanaethodd am gyfnod byr yn y fyddin cyn dychwelyd i weithio yn Bersham lle y daeth yn aelod o bwyllgor cyfrinfa'r undeb. Fel llawer o'i gyfoeswyr, cafodd ei ddenu gan y Blaid Gomiwnyddol ond nid oedd anffyddiaeth y Blaid yn eistedd yn gyfforddus gyda'i gredoau Cristnogol ef (daeth yn ddiacon capel yn ddiweddarach) a pharhaodd yn aelod ymroddedig o'r Blaid Lafur am weddill ei oes.

Yn ystod yr 1930au, daeth yn weithgar yn y mudiad Llafur fel cadeirydd Plaid Lafur y Rhos a Chyngor Heddwch y Rhos. Ym Medi 1934 roedd yn un o'r achubwyr yn nhrychineb pwll glo Gresffordd lle collodd 266 o lowyr eu bywydau, a'r flwyddyn ganlynol bu'n rhan o streic chwerw ym mhwll glo Bersham.

Oherwydd twf ffasgiaeth yn Ewrop a'i gwrthwynebiad i sosialaeth ac undebaeth llafur cefnogodd Jones yr achos gweriniaethol yn Rhyfel Cartref Sbaen a gychwynnwyd ym 1936 gan y lluoedd ffasgaidd o dan y Cadfridog Franco yn erbyn llywodraeth y Ffrynt Boblogaidd a oedd wedi'i hethol yn ddemocrataidd. Nododd Jones yn ddiweddarach: 'Roeddwn i'n casáu ffasgiaeth, roeddwn i'n casáu awdurdodyddiaeth ac roeddwn i eisiau atal rhyfel byd arall.' Profodd ei gefndir milwrol yn ddefnyddiol pan wirfoddolodd ar gyfer y Frigâd Ryngwladol a ffurfiwyd ym 1936 i gefnogi'r Ffrynt Boblogaidd. Yn 1937 teithiodd i Sbaen, drwy Paris, Perpignan a Marseilles, a chyn hir cymerodd ran mewn sawl ymladdfa waedlyd yn erbyn byddin Franco a oedd wedi'i hatgyfnerthu gan filwyr ac arfau o'r Almaen a'r Eidal. Yn y frwydr dyngedfennol yn nyffryn Ebro ym 1938, clwyfwyd ef yn ddifrifol yn ei fraich dde a'i garcharu wedi hynny. Cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth ac, er iddo gael ei arbed, dioddefodd o dan y drefn greulon yn y carchar ger Burgos lle y rhannodd gell gyda'r gweriniaethwr Gwyddelig amlwg, Frank Ryan. Credai ei deulu yn Rhos ei fod wedi marw ond ym 1941 cafodd ei ryddhau o ganlyniad i gytundeb masnach rhwng llywodraeth Prydain a chyfundrefn Sbaen o dan Franco. Ef oedd yr aelod Prydeinig olaf o'r Frigâd Ryngwladol i ddychwelyd adref. Erbyn hyn roedd ei ddau riant wedi marw. Oherwydd ei gwrhydri yn Sbaen, roedd yn cael ei adnabod yn lleol o hynny allan fel 'Twm Sbaen' neu 'Tom Spain'.

Yn 1942 priododd weddw o'r Rhos, Rosa Edwards (née Thomas), a oedd wedi colli ei gŵr i'r ddarfodedigaeth ym 1941. Cawsant ddau o blant, Keith a Moira, a chofleidiodd ef y ddau blentyn o briodas gyntaf ei wraig fel ei blant ei hun. Ym 1945, yn dilyn cyfnod yn gweithio yn ffatri gemegau Monsanto yng Nghefn Mawr, ger Wrecsam, penodwyd Jones yn Swyddog Crefftau Cyffredinol ac wedi hynny yn Swyddog Ardal gyda Rhanbarth 13 o Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (TGWU) a oedd wedi'i leoli yn Shotton ar Lannau Dyfrdwy. Yn ystod y blynyddoedd canlynol cyfeiriwyd ato'n aml fel 'Tom Jones, Shotton' oherwydd ei gysylltiad â'r dref honno.

Ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb yng ngogledd Cymru bryd hynny oedd Huw T. Edwards a oedd wedi dod yn ffigwr amlwg ym mywyd gwleidyddol a chyhoeddus Cymru yn gyffredinol. Er bod Jones yn feirniadol o Edwards yn ddiweddarach, bu'r ddau'n gweithio'n dda gyda'i gilydd er gwaethaf gwahanol agweddau at waith undeb. Tra roedd Edwards yn aml yn ceisio swyno perchnogion gyda'i bersonoliaeth hynaws, roedd Jones yn negodwr trwyadl di-lol. Credai fod cyflogwyr yn 'casáu'r undebau ond yn parchu eu pŵer'. Gydag Edwards i ffwrdd ar ddyletswyddau cyhoeddus niferus, gadawyd llawer o weithgareddau beunyddiol yr undeb yn nwylo galluog Jones a, phan ymddeolodd Edwards ym 1953, penodwyd Jones yn olynydd iddo. Credai Jones fod y TGWU yn undeb mwy realistig na rhai undebau un-diwydiant oherwydd, fel y dadleuodd, gallai 'edrych trwy lawer i ffenestr'. Fodd bynnag, roedd yn golygu bod yn rhaid iddo deithio ledled gogledd Cymru i ddelio â materion yn ymwneud â gwahanol fathau o weithwyr, fel chwarelwyr, gyrwyr bysiau a dynion ffordd. Ceisiodd setlo anghydfodau trwy gyd-drafod pragmataidd, gan gredu y gallai streicio fod yn wrthgynhyrchiol yn aml.

Nid oedd Jones, fel Edwards, ar delerau da ag ysgrifennydd cyffredinol asgell dde'r TGWU, Arthur Deakin (1890-1955), a oedd ei hun yn gynnyrch undebaeth llafur gogledd-ddwyrain Cymru. Ystyriai fod rhai o olynwyr Deakin yn y TGWU, yn enwedig Frank Cousins a Jack Jones, yn fwy cydweithredol, gan iddynt rannu safbwyntiau sosialaidd Jones.

Ym 1968 unwyd rhanbarthau gogledd a de Cymru (rhanbarthau 13 a 4) y TGWU i ffurfio rhanbarth Cymru gyfan a daeth Jones yn ysgrifennydd cyntaf iddo. Roedd hon yn dasg anodd, gan fod cystadlu rhwng rhai swyddogion y gogledd a'r de yn ogystal ag ymhlith yr aelodau, ond dywedodd Jones: 'Am gyfnod rhy hir mae'r bryniau wedi ein rhannu - nawr mae'n rhaid i ni fod yn unedig.' Ar yr un pryd, er gwaethaf rhai amheuon cynharach, daeth yn hyrwyddwr brwd o'r cysyniad o sefydlu TUC Cymru, gan gydnabod yr angen i undebau gydweithredu yn y dirwedd ddiwydiannol a gwleidyddol newydd, canlyniad yn rhannol i ddatganoli pwerau o San Steffan i Gymru. Ym 1972 unodd Jones ac ysgrifennydd rhanbarth de Cymru Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Dai Francis, i gynnig sefydlu 'Cyngres Undebau Llafur Democrataidd' yng Nghymru i gymryd lle dau Bwyllgor Ymgynghorol rhanbarthol TUC Prydain. Roedd Jones a Francis yn arweinwyr undeb gwydn ac uchel eu parch ac, er gwaethaf peth gwrthwynebiad o fewn Cymru, ac o'r TUC yn ganolog, sefydlwyd TUC Cymru yn y pen draw ym 1974, flwyddyn ar ôl ymddeoliad Jones.

Ar wahân i'w weithgareddau undeb, roedd Jones yn ddyn amlwg yng nghylchoedd y mudiad Llafur, gan weithredu fel cadeirydd Plaid Lafur Rhanbarthol Dwyrain Sir y Fflint a chael ei enwebu'n aelod o Gyngor Llafur Rhanbarthol Cymru. Fe'i penodwyd hefyd yn aelod o Gyngor Economaidd Cymru, a grëwyd ym 1965 fel rhan o strategaeth gynllunio genedlaethol y Llywodraeth Lafur ar y pryd, a'i chorff olynol, Cyngor Cymru, a sefydlwyd ym 1968. Ar ôl ymddeol, fe'i penodwyd yn aelod o Fwrdd Trydan Glannau Mersi a Gogledd Cymru (Manweb).

Yn 1980 daeth yn Is-lywydd Coleg Harlech a bu'n weithgar fel aelod o'i bwyllgor gwaith hyd ei farwolaeth. Byddai'n aml yn darlithio yno ar ei brofiadau yn Sbaen ac ar Ryfel Cartref Sbaen yn gyffredinol.

Yn gynharach, roedd Jones hefyd wedi bod yn un o gyfarwyddwyr y cwmni teledu masnachol annibynnol seithug, Wales (West and North) Television Ltd., a elwid yn gyffredinol yn 'Teledu Cymru', a ddarlledodd raglenni Cymraeg i rannau o Gymru ym 1963. Yn 'seiliedig yn fwy ar ddelfrydiaeth nag ar realaeth' oedd un disgrifiad o Deledu Cymru. Profodd yn anhyfyw gan ddod yr unig gontractwr ITV i syrthio yng nghanol ei fasnachfraint. Yn ddiweddarach, beirniadodd Jones yr unigolion a fu'n gyfrifol am redeg y cwmni.

Wedi'i greu gan galedi a phrofiadau trawmatig, bu Tom Jones yn ymladdwr penderfynol dros hawliau a lles gweithwyr, yn ddynion a menywod. Er gwaethaf ei agwedd ddi-lol ddi-flewyn-ar-dafod tuag at ei gyfrifoldebau fel swyddog undeb llafur, roedd ganddo syniad o ddigrifwch da a chwerthiniad heintus. Dyfarnwyd sawl anrhydedd iddo yn ystod ei oes, gan gynnwys OBE ym 1962 a CBE ym 1974, a dyfarnodd Prifysgol Cymru MA er anrhydedd iddo ym 1989. Yn bwysicaf oll, efallai, urddwyd ef yn Farchog Urdd Teyrngarwch gan lywodraeth Sbaen yn 1974.

Bu farw Tom Jones yn ei gartref, 2 Blackbrook Avenue, Penarlag, Sir y Fflint, ar 21 Mehefin 1990, a chafodd ei amlosgi yn amlosgfa Pentrebychan, Wrecsam, ar 26 Mehefin 1990.

Mae'n cael ei goffáu gan ddynodiad ystafell o'r enw Ystafell Tom Jones yn swyddfa ranbarthol yr undeb llafur 'Unite' yn Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, cyn-bencadlys y TGWU yng Nghymru. Yn 2019 cynhaliwyd gŵyl wrth-ffasgaidd fywiog o'r enw 'Gŵyl Twm Sbaen' yn Wrecsam gyda'r bwriad iddi ddod yn ddigwyddiad blynyddol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-08-04

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.