Ganwyd Huw T. Edwards ar 19 Tachwedd 1892 mewn bwthyn o'r enw Pen-y-ffridd, Ro-wen, sir Gaernarfon, yn fab ieuengaf i Huw Edwards, chwarelwr, a'i wraig gyntaf Elizabeth (g. Williams). 'Hugh' oedd yr enw a gofrestrwyd ar ei dystysgrif geni ond roedd yn cael ei adnabod am y rhan fwyaf o'i oes gan y sillafiad Cymraeg 'Huw'. I lawer, adwaenid ef fel 'Huw T'.
Cafodd Huw T ei fagu mewn teulu a chymuned Gymraeg tlawd a difreintiedig. Roedd gan ei dad, a oedd yn gweithio mewn chwarel ithfaen ym Mhenmaen-mawr ac yn ennill rhywfaint o incwm ychwanegol o'i dyddyn bach, gredoau crefyddol anghydffurfiol cryf iawn, ond, er iddo fynychu'r capel am y rhan fwyaf o'i oes, nid etifeddwyd y rhain gan ei fab. Fodd bynnag, roedd gwerthoedd anghydffurfiol yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, yn hytrach na Marcsiaeth, yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio safbwyntiau sosialaidd Huw T, fel gyda llawer o'i genhedlaeth. Byddai'n honni yn ddiweddarach mai 'Cristnogaeth ar waith' oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd gan Aneurin Bevan yn y 1940au.
Cafodd marwolaeth ei fam ym 1901 effaith ysgytwol arno, gan efallai achosi'r natur wrthryfelgar a ddaeth i'r amlwg yn aml drwy gydol ei oes. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed, ar ôl derbyn dim ond ychydig o addysg elfennol, a bu'n gweithio yn chwarel ithfaen Penmaen-mawr ac wedi hynny fel gwas ffarm. Ym 1909 mudodd i gymoedd de Cymru lle bu'n gweithio fel glöwr. Mwynhaodd y gweithgareddau cymdeithasol eang a oedd ar gael yn yr ardal fywiog honno, yn enwedig bocsio, ac ymladdodd mewn bythau bocsio dan yr enw 'Kid' Edwards.
Yn ei hunangofiant honnodd iddo gael ei ddylanwadu drwy gymryd rhan yn anghydfod enwog Glofa'r Cambrian, 1910-11, trwy glywed Keir Hardie yn annerch y gweithwyr, a chan drychineb pwll glo Senghenydd ym 1913, lle y gweithredodd fel achubwr; serch hynny, nid yw'n ymddangos iddo fod yn weithgar yn wleidyddol yn y cyfnod hwnnw. Yn 1911 ymunodd â Chefnlu'r Fyddin (Special Army Reserve) ac yn Awst 1914, cafodd ei alw i'r gad ar ddiwrnod cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf, gan wasanaethu fel gyrrwr gyda'r Magnelwyr (Royal Field Artillery). Bu ym merw'r brwydro yn Ffrainc hyd fis Mawrth 1918 pan anafwyd ef yn ddifrifol a'i gludo adref. Heb os, fe wnaeth ei brofiadau yn y rhyfel ac fel glöwr ei galedu i ofynion bywyd cyhoeddus yn y dyfodol.
Ar ôl y rhyfel, dychwelodd i ogledd Cymru a phriodi Margaret Owen o Rachub, Bethesda, ar 9 Mawrth 1920. Ganwyd iddynt ddau o blant, Elizabeth Catherine (Beti) a Gwynfor, a fu farw ym 1926 yn ddwy flwydd oed. Cafodd marwolaeth ei fab, a achoswyd, ym marn Huw T, gan leithder ym mwthyn llwm y teulu yng Nghapelulo, effaith ddwys arno ac roedd yn un o'r sbardunau a barodd iddo gymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth gyhoeddus yn lleol. Erbyn hyn roedd hefyd wedi dod yn actifydd mewn undeb llafur a chollodd ei waith yn chwareli Penmaen-mawr yn dilyn anghydfod ynghylch cydnabod undebaeth. Daeth yn weithgar yn y Blaid Lafur a gweithredodd fel asiant ar gyfer ymgeiswyr Llafur yn etholiadau cyffredinol 1929 (Bwrdeistrefi Caernarfon) a 1931 (sir y Fflint). Daeth hefyd yn ysgrifennydd Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru a gyfarfu'n achlysurol yn ystod y 1920au. Yn 1927 cafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth Penmaen-mawr ac, er ei fod yn ddi-waith ar y pryd, fe'i hetholwyd yn gadeirydd arno ym 1932.
Yn yr un flwyddyn, penodwyd ef i swydd gydag Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (TGWU) yn Ardal 13 (gogledd Cymru ac ardal Ellesmere Port) gan arweinydd cenedlaethol yr undeb, Ernest Bevin. Cydnabu yntau ymrwymiad Huw T i'r mudiad Llafur, ei allu gweinyddol a'i bersonoliaeth apelgar. Y flwyddyn ganlynol daeth yn ysgrifennydd ardal. Arweiniodd ei benodiad iddo symud gyda'i deulu o gymuned fechan, Gymraeg ei hiaith, Dwygyfylchi, ger Penmaen-mawr, i Shotton, tref Seisnigaidd ar y ffin â Lloegr, yn ardal ddiwydiannol sir y Fflint. Bu'n byw yn Shotton tan ganol y 1950au pan symudodd gyda'i deulu i dŷ mwy sylweddol, Crud-yr-Awel, Sychdyn, yn ardal fwy gwledig sir y Fflint.
Roedd y 1930au yn gyfnod pan oedd undebau llafur, ac yn enwedig y TGWU, yn cael eu hailadeiladu a chwaraeodd Huw T ei ran yng ngogledd Cymru, er gwaethaf y ffaith bod natur lled-wledig y rhanbarth yn gwneud recriwtio aelodau a thynnu gweithwyr at ei gilydd yn dasg anodd. Ceisiodd ddatrys anghydfodau trwy drafod yn hytrach na gwrthdaro a datblygodd gysylltiadau da â chyflogwyr lleol. Cadwodd barch Bevin ond nid oedd ar delerau da gydag Arthur Deakin (dirprwy Bevin a'i olynydd fel ysgrifennydd cyffredinol y TGWU). Arhosodd yn ysgrifennydd y rhanbarth nes iddo ymddeol yn 1953 a phenodwyd ei ddirprwy Tom Jones, cyn-filwr yn Rhyfel Cartref Sbaen, yn ei le. Bu Tom Jones yn gyfrifol am y rhan fwyaf o weithgareddau o ddydd i ddydd yr undeb yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd tra roedd Huw T yn ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus di-rif ar lefel leol a chenedlaethol.
Bu Huw T yn weithgar yn wleidyddol yn sir y Fflint o'r 1930au ymlaen, gan gael ei ethol yn gynghorydd, ac yn henadur wedi hynny, ar y cyngor sir. Roedd yn un o dri arweinydd gwleidyddol lleol a fu'n dominyddu gwleidyddiaeth y sir am nifer o flynyddoedd - y ddau arall oedd y Ceidwadwr Syr Geoffrey Summers a'r Rhyddfrydwr Thomas Waterhouse. Bu'n gefnogwr brwd i Gyfarwyddwr Addysg sir y Fflint, Haydn Williams, a'i ddirprwy Moses Jones, yn arbennig yn eu hymdrechion i ddatblygu addysg Gymraeg yn y sir.
Yng ngogledd Cymru yn gyffredinol, arhosodd y gefnogaeth draddodiadol i'r blaid Ryddfrydol yn gryf yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd ond roedd gweithgaredd Huw T ar ran achos Llafur yn yr ardal i ddwyn ffrwyth yn ddiweddarach. Daeth hefyd yn fwy adnabyddus yn y Blaid Lafur yn gyffredinol, yn enwedig yn ne Cymru, lle'r oedd ar delerau da gyda gwleidyddion amlwg fel Aneurin Bevan a James Griffiths, a thrwy wasanaethu ar Gyngor Rhanbarthol Llafur Cymru.
Bu'n gefnogol i ymdrechion Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan sicrhau nad oedd llawer o anghydfodau llafur o unrhyw arwyddocâd yng ngogledd Cymru, a gwasanaethodd ar sawl pwyllgor cynllunio, gan gynnwys Bwrdd Diwydiant Cymru a Chyngor Datblygu Diwydiannol Gogledd Cymru. Dyfarnwyd yr MBE iddo ond dychwelodd ei fedal mewn protest yn dilyn sylw Winston Churchill yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 1945 yn cymharu'r Blaid Lafur â Gestapo Hitler. Yn anghyffyrddus gydag anrhydeddau, gwrthododd gynnig i'w wneud yn farchog ar o leiaf ddau achlysur yn y blynyddoedd dilynol.
Yn ystod ei yrfa, cynigiodd nifer o etholaethau gyfle iddo sefyll dros y Blaid Lafur mewn etholiadau seneddol ond gwrthododd, gan gredu y gallai gael mwy o effaith trwy ddulliau eraill. Fodd bynnag, fe gynorthwyodd nifer o wleidyddion ifanc. Roedd yn allweddol wrth sicrhau enwebiad Eirene Lloyd Jones (Eirene White yn ddiweddarach), fel ymgeisydd Llafur dros etholaeth sir y Fflint ym 1945 gan ddefnyddio ei holl ddylanwad ac, mae'n debyg, rhai dulliau dichellgar. Er iddi gael ei threchu, pan rannwyd yr etholaeth yn ddwy cyn etholiad 1950, enillodd hi'r enwebiad ar gyfer Dwyrain Fflint ac ennill y sedd yn gyfforddus.
Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, cadarnhawyd enw da Huw T fel ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Roedd eisoes wedi cyhoeddi erthygl yn dwyn y teitl 'What I want for Wales ' yn y cyfnodolyn Wales yn 1944 a oedd yn datgan yn ddiflewyn ar dafod ei farn ar ddyfodol Cymru. Roedd rhai o'r safbwyntiau hyn yn fwriadol bryfoclyd. Dadleuodd, er enghraifft, y dylid dymchwel 75 y cant o eglwysi a chapeli Cymru neu eu defnyddio'n fwy cynhyrchiol, ond ei brif neges oedd y dylai Cymru lywodraethu ei hun ym mhob maes ac eithrio 'amddiffyn'.
Ar yr adeg hon, roedd rhai o aelodau seneddol Cymru wedi bod yn pwyso am sefydlu swydd ysgrifennydd gwladol i Gymru gyda sedd yn y cabinet, ond gwrthododd y llywodraeth Lafur, a etholwyd ym 1945, gynigion o'r fath. Yn lle hynny, yn dilyn syniadau a wnaed gan Gyngor Llafur Rhanbarthol Cymru (a oedd yn cynnwys Edwards), penderfynodd y dirprwy brif weinidog, Herbert Morrison, sefydlu corff cynghori o'r enw Cyngor Cymru a Mynwy. Gobeithiai'r llywodraeth y byddai'r Cyngor hwn yn apelio at y farn gyhoeddus yng Nghymru ond cafwyd cryn feirniadaeth ohono gan ei fod yn gorff anetholedig diddannedd. Y gweinidog yswiriant gwladol, James Griffiths, a awgrymodd y byddai Huw T yn gadeirydd delfrydol, gan fod ganddo'r gallu a'r bersonoliaeth i arwain y corff newydd.
Cyfarfu Cyngor Cymru a Mynwy am y tro cyntaf ym 1949 i storom o feirniadaeth ond sicrhaodd arweinyddiaeth graff Huw T ei oroesiad, hyd yn oed pan oedd y Ceidwadwyr mewn grym am y rhan fwyaf o'r 1950au. Ef oedd y ffigwr amlycaf ar y Cyngor ac er y bwriedid cylchdroi'r gadeiryddiaeth ymhlith yr aelodau, cafodd ei ailethol i'r swydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cymaint oedd ei ddylanwad yr adeg hon fel iddo gael ei alw'n 'brif weinidog answyddogol Cymru'.
Gwelodd y 1950au gynnydd yn y pwysau i gydnabod dyheadau cenedlaethol Cymru. Roedd ymgyrch ofer Senedd i Gymru, a gondemniwyd yn wreiddiol gan Edwards cyn iddo droi i'w gefnogi, yn arwydd o gryfder cynyddol yn yr ymdeimlad cenedlaetholgar ymhlith rhai Cymry, yn ogystal ag amwysedd safbwyntiau Huw T ei hun. Roedd llawer yn y Blaid Lafur, yn enwedig y rhai yn ne Cymru a bwysleisiai ryngwladoliaeth ac a wrthwynebai'r hyn yr oeddent yn eu hystyried yn blwyfoldeb, yn amheus ynghylch datblygiadau o'r fath, yn enwedig gan eu bod yn gysylltiedig â Phlaid Cymru. Ym 1956 roedd cynnig cyngor dinas Lerpwl i foddi dyffryn Tryweryn yn Sir Feirionnydd i ddarparu dŵr i'r ddinas, a thrwy hynny ddinistrio'r gymuned a oedd yn byw yn y dyffryn, yn fater arbennig o emosiynol a arweiniodd at gynnydd mewn cenedlaetholdeb Cymreig. Daeth Huw T yn rhan o'r ymgyrch aflwyddiannus i achub y cwm.
Yn y cyfamser roedd Cyngor Cymru a Mynwy wedi cynhyrchu sawl adroddiad defnyddiol, gyda'r pwysicaf ohonynt, a elwid y 'trydydd memorandwm' (1957), ar weinyddiaeth y llywodraeth yng Nghymru. Roedd hwn yn argymell y dylid sefydlu'r swydd o ysgrifennydd gwladol Cymru gyda swyddfa Gymreig i'w chefnogi. Pan ddaeth yn amlwg y byddai'r cynigion yn cael eu gwrthod gan y llywodraeth Geidwadol, teithiodd Huw T i Lundain ym mis Rhagfyr 1957 i gwrdd â'r prif weinidog, Harold Macmillan. Mae ffeiliau'r llywodraeth yn awgrymu bod Cymru'n cael ei thrin ar yr adeg hon fel rhyw fath o drefedigaeth afreolus a gwrthodwyd cyfaddawd Huw T lle byddai un o weinidogion y llywodraeth yn derbyn y teitl ychwanegol o ysgrifennydd gwladol Cymru. Ystyriai Macmillan mai 'cynllun ffug' ('bogus plan') fyddai hynny. Serch hynny, roedd Huw T yn benderfynol o beidio â chaniatáu i'r momentwm cynyddol ar y mater gael ei anwybyddu a phenderfynodd ymddiswyddo fel cadeirydd y cyngor mewn protest. Ymateb digyffro a gafwyd gan y llywodraeth i gyhoeddiad yr ymddiswyddiad ar 24 Hydref 1958 ond nid oedd yr effaith ar fywyd cyhoeddus Cymru yn ddibwys. Yn fuan wedi hynny ymrwymodd y Blaid Lafur i sefydlu ysgrifennydd gwladol i Gymru yn ei maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 1959.
Yn ystod y cyfnod hwn, ac yn enwedig ar ôl iddo symud i Sychdyn, daeth Edwards yn gyfeillgar â nifer o genedlaetholwyr Cymreig a ddylanwadodd arno'n fawr. Cyfansoddodd farddoniaeth Gymraeg wrth draed y prifeirdd Gwilym R. Jones a Mathonwy Hughes. Yr oedd y ddau fardd hyn yn gweithio i'r Faner, hen bapur newydd Cymraeg a oedd wedi mynd i drafferthion ariannol difrifol yn yr 1950au. Huw T oedd yn bennaf gyfrifol am achub y papur. Cafodd ei ddylanwadu gan arweinwyr Plaid Cymru ddiwedd yr 1950au ac, er gwaethaf ei gysylltiad hir â'r Blaid Lafur, cyhoeddodd yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon ar 6 Awst 1959 ei fod yn gadael Llafur ac yn ddiweddarach ymunodd yn ffurfiol â Phlaid Cymru.
I bob pwrpas, rhoddodd y penderfyniad hwn, a'i ymddiswyddiad o Gyngor Cymru a Mynwy, derfyn ar ei yrfa wleidyddol. Yng ngeiriau'r Llafurwr Gwilym Prys Davies nid oedd bellach 'yn rym yn y tir.' Teimlai orfodaeth i ymddiswyddo o gyngor sir y Fflint a chollodd gysylltiad ag aelodau dylanwadol yn y mudiad Llafur. Ychydig o effaith a gafodd ei wrthgiliad ar oruchafiaeth Llafur yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac ni ddaeth yn ffigwr blaenllaw ym Mhlaid Cymru, lle gwelodd yr arweinyddiaeth ef fel ffigwr anwadal yn ystod cyfnod arbennig o anodd i'r blaid. Dadleuodd Huw T na ddylai'r blaid sefyll mewn etholiadau seneddol ond y dylai ddod yn fudiad tebyg i'r Ffabiaid, yn hytrach na phlaid wleidyddol. Roedd hyn yn anathema i arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, a ddilynai lwybr unplyg, yn wahanol i grwydro anghyson Huw T. Yn hydref 1964 etholwyd llywodraeth Lafur o dan Harold Wilson (y credai Huw T fod ganddo gymwysterau asgell chwith da). Sefydlwyd Swyddfa Gymreig dan ofal James Griffiths, fel deiliad cyntaf swydd ysgrifennydd gwladol Cymru. Ar yr un pryd dyrchafwyd rhai datganolwyr Cymreig, megis Cledwyn Hughes a Goronwy Roberts, i swyddi yn y llywodraeth newydd. O ganlyniad i'r datblygiadau hyn, ail-ymunodd Huw T â'r Blaid Lafur. Fodd bynnag, roedd wedi colli'r rhan fwyaf o'i ddylanwad erbyn hynny.
Yn ystod y 1950au a'r 1960au bu Edwards yn gwasanaethu ar lawer o bwyllgorau, gan gynnwys Cyngor Darlledu Cenedlaethol y BBC, Bwrdd Nwy Cymru a phwyllgor cynghori Bwrdd Ysbytai Gogledd Cymru. Roedd yn gadeirydd Bwrdd Croeso Cymru rhwng 1952 a 1965, ac ymwelodd â Gogledd America a rhannau o Ewrop i annog twristiaeth ac i ddysgu am brofiadau gwledydd eraill yn y maes. Daeth yn gyfarwyddwr y cwmni teledu annibynnol Television Wales and the West (TWW), a llwyddodd i ddadlau'r achos dros fwy o raglenni Cymraeg ar y sianel. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o hunangofiant, Tros y tresi (1956) a Troi'r Drol (1963), llyfr o'i gerddi Cymraeg, a chyfrol ar hanes datblygiad undebaeth llafur yng ngogledd Cymru.
Bu farw Huw T. Edwards yn Ysbyty Abergele ar 8 Tachwedd 1970, o arterio-sclerosis, bronchitis ac emffysema. Cafodd ei amlosgi yn amlosgfa Pentrebychan a gwasgarwyd ei lwch yn agos at y man lle cafodd ei eni ar lethrau Tal-y-fan - 'mynydd yr oerwynt miniog' yn ôl un o'i englynion mwyaf cofiadwy. Drwy ymdrechion ei deulu a'i gofiannydd, Gwyn Jenkins, a chyda cymorth y cyngor cymuned lleol a'r Bwrdd Croeso, dadorchuddiwyd carreg goffa iddo ym mhentref Ro-wen yn Nhachwedd 1992, gan mlynedd wedi'i enedigaeth.
'Hewn from the Rock' oedd teitl y fersiwn Saesneg o'i hunangofiannau, disgrifiad da o un a oedd yn fyr o gorff, ond yn gryf ei ymroddiad. Meddai ar bersonoliaeth gref a deniadol ac roedd yn ymladdwr dygn dros anghenion a hawliau pobl gyffredin a dros achosion Cymreig. Roedd iddo haen ramantus a chynnes a byddai'n hael iawn wrth ei gyfeillion. Er yn siaradwr cyhoeddus perswadiol, roedd ar ei fwyaf effeithiol mewn pwyllgor; yn aml o'r gadair byddai'n datgan 'rydyn ni i gyd yn gytûn felly', pan, mewn gwirionedd, nid oedd unfrydedd. Roedd yn sosialydd pragmatig yn hytrach nag athrawiaethol, ac arweiniodd ei dueddiad i newid ei feddwl at gyhuddiadau o anghysondeb. Roedd yn Gymro gwladgarol, gyda chariad rhamantus at ei wlad, ei hiaith a'i diwylliant, ond hefyd yn un a ddaeth i gredu y dylai Cymru lywodraethu ei hun. Fodd bynnag, roedd yn byw mewn cyfnod pan wnaed y penderfyniadau pwysicaf am Gymru yn Llundain ac, er y gallai ddylanwadu ar ddigwyddiadau, anaml yr oedd mewn sefyllfa i wneud unrhyw benderfyniadau pellgyrhaeddol ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-11-02
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Ganwyd 19 Tachwedd 1892 ym Mhen-y-ffridd, y Ro-wen, Dyffryn Conwy, Sir Gaernarfon, yr ieuangaf o saith o blant Huw Edwards, tyddynnwr a chwarelwr, a'i wraig. Ychydig o addysg ffurfiol a dderbyniodd, ond fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig a chrefyddol. Yn 1907, ac yntau'n 14 oed, dilynodd ei dad i weithio yn chwarel ithfaen Penmaen-mawr. Arferai gerdded i'w waith o lethrau Mynydd Tal-y-fan i Benmaen-mawr. Dangosodd rywfaint o ysbryd yr anturiaethwr pan redodd i ffwrdd i'r De i weithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Yn Nhonypandy yr oedd yn ystod streic 1911. Arferai baffio 'n lleol ar y Sadyrnau er mwyn ychwanegu at ei incwm pitw.
Cafodd ei niweidio'n ddrwg yn ystod Rhyfel Byd I, ond dychwelodd i weithio yng nglofeydd a chwareli ithfaen gogledd Cymru lle'r aeth ati i drefnu canghennau o'r T.G.W.U. a'r Blaid Lafur. Fe'i etholwyd yn aelod o gyngor dinesig Penmaen-mawr a bu'n gadeirydd arno. Yn etholiad 1929 gwasanaethodd fel cynrychiolydd Thomas ap Rhys a safodd fel ymgeisydd Llafur yn erbyn David Lloyd George ym mwrdeistrefi Caernarfon. Tra oedd yn ddi-waith yn 1932 fe'i penodwyd yn swyddog undeb llawn amser pan olynodd Arthur Deakin fel ysgrifennydd Cylch Shotton o'r Transport and General Workers' Union. Gweithredodd fel ysgrifennydd Rhanbarth Gogledd Cymru ac Ellesmere Port o'r T.G.W.U., 1934-53. Fe'i dewiswyd yn ynad heddwch dros Sir y Fflint.
Daeth yn ffigwr pwysig a dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru o gyfnod llywodraeth Attlee ymlaen. Ac yntau'n adnabyddus yn y gogledd a'r de, ac yn meddu ar brofiad eang o weithgareddau llywodraeth leol yng Nghymru, fe'i dewiswyd yn gadeirydd cyntaf Cyngor Ymgynghorol Cymru yn 1949. Yn ystod y 9 mlynedd y bu yn y swydd, cydweithiodd â Syr William Jones i gynhyrchu adroddiadau pwysig ar ddatganoli ac ar ddiboblogi yn ardaloedd gwledig Cymru. Ymddiswyddodd o'r Cyngor yn 1958 fel protest yn erbyn methiant llywodraeth Macmillan i fabwysiadu argymhellion y Cyngor ynglyn â phenodiad Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a newidiadau gweinyddol eraill. Bu hefyd yn gadeirydd Bwrdd Croeso Cymru am 15 mlynedd (a bu'n bennaeth ar ddirprwyaeth i Rwsia), Pwyllgor Addysg sir y Fflint a Bwrdd Ysbyty Clwyd a Glannau Dyfrdwy. Yr oedd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Television Wales and the West ac o Gyngor Cenedlaethol Darlledu y B.B.C., o Orsedd y Beirdd (ei enw barddol oedd ' Huw Pen Ffridd') ac o gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, o Fwrdd Nwy Cymru ac o'r Bwrdd Cynhorthwy Cenedlaethol. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr Gwasg Gee, Dinbych, ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Disgrifiwyd ef fel 'Prif Weinidog answyddogol Cymru'. Ef oedd perchennog Y Faner am ychydig flynyddoedd ar ôl 1956 yn ystod cyfnod tyngedfennol yn hanes y papur. Buddsoddodd arian personol ynddo ac ymladdodd drosto mewn cylchoedd dylanwadol gan sicrhau ei ddyfodol nes ei drosglwyddo i ddwylo Gwasg y Sir, y Bala.
Yr oedd yn Sosialydd pybyr ac yn aelod o'r Blaid Lafur ar hyd ei oes hyd fis Medi 1959 pan ymunodd â Phlaid Cymru, ond dychwelodd i'w hen blaid yn 1965. Bu'n llywydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Gwasanaethodd fel cadeirydd Plaid Lafur sir y Fflint a chadeirydd Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru am flynyddoedd. Eto llwyddai i ennill parch a hyder rhai a safai i'r dde yn y sbectrwm gwleidyddol. Ceisiwyd droeon ei berswadio i sefyll fel ymgeisydd seneddol ar ran y Blaid Lafur, ond gwrthod a wnaeth yn ddi-ffael.
Ymddiddorai mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o hunangofiant Tros y tresi (1956) a Troi'r drol (1963), ac fe'u cyfieithwyd i'r Saesneg - It was my privilege (1962) a Hewn from the rock (1967). Golygodd Ar y cyd: cerddi gan Huw T. Edwards, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones a Rhydwen Williams (1962).
Anrhydeddwyd ef gan Orsedd y Beirdd a chan Brifysgol Cymru (LL.D. er anrhydedd, 1957), ond ni wnaeth dderbyn yr M.B.E. a gwrthododd wahoddiad i'w urddo'n farchog yn ystod arwisgo'r Tywysog yng Nghaernarfon, Gorffennaf 1969.
Bu farw ei briod Margaret fis Mehefin 1966, a threuliodd ddiwedd ei oes ar aelwyd ei ferch yn Sychdyn. Bu farw 9 Tachwedd 1970 yn ysbyty Abergele, a llosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Pentrebychan, Wrecsam. Rhoddwyd ei bapurau ar adnau yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.