Ganwyd 21 Mawrth 1878 yn Nhreffynnon, Fflint, yn ail fab i Thomas Holmes Waterhouse, Bradford a Threffynnon, diwydiannwr. Addysgwyd ef yn yr Oswestry High School o dan Owen Owen. Ar farwolaeth ei dad yn 1902 syrthiodd cyfrifoldeb yr Holywell Textile Mills ar ei ysgwyddau a rhwng 1909 ac 1957 bu'n rheolwr, cyfarwyddwr a chadeirydd y cwmni. Yn 1920 daeth yn llywydd y Welsh Textile Manufacturing Association ac yn ddiweddarach bu'n aelod ymroddgar o bwyllgor Prifysgol Cymru i geisio hybu'r diwydiant. Yn 1943 etholwyd ef yn gadeirydd y North Wales Industrial Development Council. Bu'n flaenllaw iawn mewn llywodraeth leol. Yn 1905 etholwyd ef ar gyngor rhanbarth drefol Treffynnon ac erbyn 1919 yr oedd ar y cyngor sir, prif faes ei weithgarwch. Crewyd ef yn henadur y cyngor sir yn 1931 a bu'n gadeirydd tra effeithiol o 1938 hyd 1940. Penodwyd ef yn Ustus Heddwch yn 1920 ac yn is-gadeirydd llys y Sesiwn Chwarter yn 1945. Yn 1942-43 ef oedd uchel siryf Sir y Fflint ac yn 1945 gwnaed ef yn C.B.E.
Yr oedd yn Rhyddfrydwr i'r carn ac yn wrthwynebus i'r Rhyddfrydwyr hynny a ymunodd mewn clymblaid o dan Lloyd George yn 1918, ond erbyn 1933 enynnodd gymeradwyaeth wresog Lloyd George am fynegi'n ddifloesgni mai dyletswydd Rhyddfrydwr ydoedd gadael y Llywodraeth Goalisiwn. Yn ystod Rhyfel Byd II yr oedd yn frwd o blaid yr ymgais i gael ysgrifennydd gwladol i Gymru a phasiwyd ei gynnig i'r perwyl yn unfryd gan gynhadledd yr awdurdodau lleol yn Amwythig ym Mehefin 1943.
Yr oedd Thomas Waterhouse yn enghraifft dda o ŵr o gyff cwbl Seisnig a wreiddiodd yng Nghymru ac a'i gwasanaethodd yn ddeheuig a diflino. Gan nad oedd achos gan y Wesleaid Saesneg yn Nhreffynnon, ymunodd aelodau'r teulu â'r Annibynwyr Saesneg a buont yn gefn sylweddol i'r achos. Cymen ac urddasol yn ei ymarweddiad allanol, yr oedd gan Thomas Waterhouse feddwl clir, gwydn a theg, a sylweddolai'r sawl a'u hadnabu'n dda fod ganddo hefyd galon gynnes a hiwmor byw. Gŵr eofn, egwyddorol, annibynnol ydoedd a chynhaliodd am dros hanner canrif y safonau uchaf ym mywyd cyhoeddus ei sir a'i wlad. Priododd Doris Helena Gough, Olton, swydd Warwick, yn 1915 a bu iddynt bedwar mab ac un ferch. Bu farw 3 Gor. 1961. Ceir darlun ohono yn swyddfa cyngor sir y Fflint, yr Wyddgrug, ac un yng nghartref ei fab, Syr Ronald Waterhouse, Barnwr yr Uchel Lys.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.