MORRIS, JOHN WILLIAM, Barwn Morris o Borth-y-Gest (1896 - 1979), cyfreithiwr a barnwr

Enw: John William Morris
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1979
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Łukasz Jan Korporowicz

Ganwyd John Morris ar 11 Medi 1896 yn 189 Stryd Faulkener, Lerpwl, yr ail o blant Daniel Morris (1852-1946), rheolwr banc, a'i wraig Ellen (g. Edwards, 1857-1946.) Ganwyd ei chwaer Gwen yn 1894. Porthmadog oedd cynefin y teulu a byddent yn treulio gwyliau rheolaidd yno yn ystod ei blentyndod.

Addysgwyd Morris yn y Liverpool Institute. Ei fwriad wedyn oedd mynd ymlaen i Trinity Hall, Caer-grawnt, ond ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a bu yn Ffrainc drwy gydol y rhyfel. Cyrhaeddodd reng capten yn y pen draw a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo. Wedi'r rhyfel, aeth Morris o'r diwedd i Trinity Hall, i astudio'r gyfraith. Tra bu yno etholwyd ef yn llywydd cymdeithas ddadlau Undeb Caer-grawnt. Ym Mai 1919 derbyniwyd ef i'r Deml Fewnol, ac yn 1920 enillodd radd LL.B. ac etholwyd ef yn Gymrawd Joseph Hodges Choate i dreulio blwyddyn ym Mhrifysgol Harvard. Yn Nhachwedd 1921, galwyd ef i'r bar gan Neuadd y Frawdlys ac ymunodd â Chylchdaith y Gogledd. Fe'i gwnaed yn Gwnsler y Brenin yn 1935, ac wedi hynny yn Llundain yn bennaf y bu'n arfer y gyfraith.

Yn hanner cyntaf y 1920au, bu Morris yn ymhel â gwleidyddiaeth. Ceisiodd yn aflwyddiannus ddwywaith, yn 1923 a 1924, i ennill sedd yn Nhŷ'r Cyffredin fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr dros Ilford. Yn y 1940au, gweithredodd fel ymgynghorydd i'r llywodraeth nifer o weithiau, ac yn is-gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Estroniaid y Swyddfa Gartref, gan baratoi adroddiadau ar gyfer y Trysorlys, yn ogystal â chadeirio rhai pwyllgorau eraill.

Er gwaethaf ei waith dros y llywodraeth, cyfreithiwr oedd Morris yn y bôn o hyd. Dechreuodd ei yrfa farnwrol yn 1938, pan benodwyd ef yn Farnwr Apêl dros Ynys Manaw. Yn 1945 daeth yn farnwr yr Uchel Lys Barn, Adran Mainc y Brenin, ac yn 1951 dyrchafwyd ef i'r Llys Apêl. Yn y 1950au, rhoddwyd dyletswyddau lled-farnwrol iddo hefyd o dro i dro. Yn 1954, cadeiriodd y Llys Ymchwiliad i'r Anghydfod Cyflogau Peirianwyr ac Adeiladwyr Llongau. Yn 1955, penodwyd ef yn ddyfarnwr annibynnol i benderfynu ar bwyntiau allweddol yn yr anghydfod rhwng y llywodraeth ac undeb y 'Locomotive Engineers and Firemen'.

Yn 1960 fe'i gwnaed yn arglwydd am oes â'r teitl Barwn Morris o Borth-y-Gest, ac am y pymtheng mlynedd nesaf bu'n aelod o Bwyllgor Apelyddol Tŷ'r Arglwyddi. Fe'i hystyrir yn un o'r tri phrif ffigwr barnwrol Cymreig yn Nhŷ'r Arglwyddi yn yr 20fed ganrif (y ddau arall yw'r Arglwydd Atkin a'r Arglwydd Edmund-Davies). Fel Arglwydd Apêl Sefydlog, roedd yn fawr ei ddiddordeb yn natblygiad cyfraith gyhoeddus. Yn ystod y cyfnod hwn ni roddodd yr Arglwydd Morris y gorau i'w waith allfarnwrol. Câi ei benodi o hyd i baratoi adroddiadau ac i gadeirio pwyllgorau, megis yr un ar wasanaeth rheithgor yn 1963. Ymddiswyddodd o'i swydd farnwrol yn 1975 er nad oedd ymddeol yn orfodol ar y pryd. Yn y blynyddoedd dilynol, mynychai'r Pwyllgor Apelyddol o bryd i'w gilydd yn ogystal â Phwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor. Roedd yr Arglwydd Morris yn un o garfan o arglwyddi'r gyfraith a gymerai ran yng ngwaith deddfu Tŷ'r Arglwyddi. Er nad oedd yn beth anghyffredin ar y pryd, nid oedd y gwaith hwn yn annadleuol i arglwydd y gyfraith.

Mewn teyrnged i'r Arglwydd Morris disgrifiodd yr Arglwydd Edmund-Davies ef fel 'a devoted Welshman'. Er nad oedd yn rhugl yn y Gymraeg, roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd, a bu'n is-lywydd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ac yn llywydd Cymdeithas Cymry Llundain (1951-53). Bu'n gwnsler i Brifysgol Cymru (1938-1945), a gweithredodd wedyn yn Ddirprwy Ganghellor i'r brifysgol honno o 1956 i 1974. Elwodd Cymru ar ei sgiliau cyfreithiol yn aml pan fu'n cadeirio Llys Chwarter Sir Gaernarfon. Blwyddyn cyn ei farwolaeth, cymerodd yr Arglwydd Morris ran mewn dadl yn Nhŷ'r Arglwyddi ar Fil Cymru, a siaradodd yn angerddol am yr angen i warchod y defnydd o'r iaith Gymraeg ac am greu Senedd i Gymru.

I gydnabod ei waith proffesiynol, gwnaed yr Arglwydd Morris yn aelod er anrhydedd o'r American Bar Association a'r Canadian Bar Association. Yn 1951 daeth yn gymrawd anrhyeddus o Trinity Hall, Caer-grawnt. Dyfarnwyd graddau LL.D. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru (1946), Prifysgol British Columbia (1952), Prifysgol Lerpwl (1966) a Phrifysgol Caer-grawnt (1967).

Bu'r Arglwydd Morris farw ar 9 Mehefin 1979 ym Mhorthmadog. Claddwyd ef ym medd y teulu ym mynwent Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Saint yn Nhreflys, Porthmadog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-06-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.