Ganwyd Herbert Edmund Davies ar 15 Gorffennaf 1906 yn Aberpennar, sir Forgannwg, trydydd mab Morgan John Davies, glöwr, a'i wraig Elizabeth Maud (g. Edmunds). Adwaenid ef fel Edmund Davies, ond newidiodd ei enw i Herbert Edmund Edmund-Davies yn 1974 pan dderbyniodd arglwyddiaeth am oes. Bu farw ei fam pan oedd Edmund yn wyth oed, a chafodd ei fagu'n rhannol gan ei fodryb wedi hynny. Cymraeg oedd iaith yr aelwyd, ac addolai'r teulu yng nghapel Bedyddwyr y Rhos yn Aberpennar. Roedd ffydd Gristnogol Edmund yn bwysig iawn iddo trwy gydol ei fywyd.
Enillodd ysgoloriaeth i fynychu Ysgol Ramadeg Aberpennar. Ei fwriad oedd mynd yn athro, ond darbwyllwyd ef gan ddau ewythr i astudio'r gyfraith, ac aeth i Goleg y Brenin, Llundain, gan raddio LLB gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1926, ac enillodd ysgoloriaeth ymchwil olradd a graddio LLD yn 1928. Yn y cyfamser, symudodd i Brifysgol Rhydychen (1927) lle'r astudiodd ar gyfer Bagloriaeth yn y Gyfraith Sifil yng Ngholeg Exeter. Un o atyniadau'r coleg hwnnw oedd presenoldeb Geoffrey Cheshire yno. Buasai Cheshire yn ddarlithydd yn y gyfraith yn Aberystwyth, ac roedd yn un o brif ysgolheigion cyfreithiol Prydain yn y cyfnod. Buan y daeth yn fentor i'r myfyriwr ifanc o Gymru, a chyfeiriodd ato yn ddiweddarach fel ei fyfyriwr disgleiriaf.
Graddiodd o Rydychen yn 1929, cafodd ei ethol yn 'Vinerian Scholar' ac fe'i galwyd i'r bar gan Gray's Inn. Ar ddechrau ei yrfa câi ei rwygo rhwng ymarfer y gyfraith a'r byd academaidd. Yn y 1930au cynnar bu'n gysylltiedig am ysbaid gyda'r London School of Economics lle dysgodd gyfraith gontract a gwrthdaro cyfreithiau. Yn 1931, cyhoeddwyd ei lyfr Law of Distress for Rent and Rates. Yn y pen draw, serch hynny, penderfynodd ganolbwyntio ar ymarfer y gyfraith. Dychwelodd i Gymru ac ymunodd â Chylchdaith De Cymru, gan ymgartrefu yn Abertawe lle ymsefydlodd fel bargyfreithiwr. Yn 1935 priododd Eurwen Williams-James. Ganwyd iddynt dair merch, Ann, Lisa a Shan.
Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd cafodd gomisiwn i Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru yn Rhagfyr 1940, ond fe'i trosglwyddwyd yn ddiweddarach i Adran y Barnwr Adfocad Cyffredinol. Er gwaethaf ymyrraeth y rhyfel, ni chollodd gyswllt â gwaith cyfreithiol anfilwrol. Yn 1942 fe'i penodwyd yn Gofiadur Merthyr Tudful, ac yn 1944 fe'i penodwyd i'r un swyddogaeth dros Abertawe. Arhosodd yn y swydd honno tan 1953. Yn y cyfamser, yn 1943, cafodd sidan ac yn 1948 daeth yn feinciwr ei Neuadd. Yn olaf, yn 1953, daeth yn Gofiadur Caerdydd. Gwnaeth enw iddo'i hun fel cwnsler dros yr amddiffyniaeth mewn achosion troseddol yn fuan ar ôl y rhyfel, pan gymerodd ran mewn nifer o achosion llofruddiaeth enwog a gafodd gryn sylw yn y cyfryngau.
Yn 1958 cafodd ei urddo'n farchog a'i benodi'n farnwr llawn-amser am y tro cyntaf, gan ddod yn farnwr yr Uchel Lys Barn, Adran Mainc y Frenhines. Ar ôl wyth mlynedd fel barnwr achosion llys, yn 1966 fe'i dyrchafwyd yn Arglwydd Ustus Apêl. Yn fuan ar ôl yr enwebiad, rhoddwyd iddo'r swydd o gadeirio'r Tribiwnlys Ymchwiliad i drychineb Aberfan - pentref sydd ond ychydig filltiroedd o'i gartref yn Aberpennar. Roedd adroddiad y Tribiwnlys yn llym iawn ei feirniadaeth ar y Bwrdd Glo. Ei benderfyniad enwocaf, a mwyaf dadleuol hefyd, oedd yr un a wnaeth yn achos llys y rhai a gyhuddwyd o'r 'Great Train Robbery' yn 1964. Cafwyd y lladron yn euog a'u dedfrydu i 20, 25 a 30 mlynedd o garchar. Gwelid y dedfrydau hyn yn llym iawn, ond maent yn adlewyrchu barn gyson Edmund-Davies y dylai trosedd difrifol dderbyn cosb lem.
Yn 1974 urddwyd ef yn Farwn Edmund-Davies o Aberpennar pan ddaeth yn Arglwydd Apêl Sefydlog. Ar y pryd, ychydig o arglwyddi'r gyfraith oedd â phrofiad nodedig mewn cyfraith droseddol, ac roedd profiad Edmund-Davies yn fodd i wella ansawdd penderfyniadau'r Tŷ mewn achosion troseddol. Fe'i disgrifiwyd fel un o'r barnwyr helaethaf eu darllen yn ei genhedlaeth, ac yn un o dri barnwr Cymreig rhagorol yr 20fed ganrif, gyda'r Arglwydd Atkin a'r Arglwydd Morris.
Yn ystod ei gyfnod yn Nhŷ'r Arglwyddi, gwnaeth Edmund-Davies ragor o waith y tu allan i'r llysoedd. O Awst 1977, ar gais llywodraeth Lafur James Callaghan, cadeiriodd bwyllgor ymchwiliad i'r peirianwaith negodi ar gyfer tâl ac amodau'r heddlu (y 'Police Inquiry' fel y'i gelwir). Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 1978, argymhellwyd codiad cyflog sylweddol i heddweision, a gweithredwyd ei argymhellion yn llawn yn y pen draw gan lywodraeth newydd y Ceidwadwyr yn 1979.
Gwnaeth Edmund-Davies waith pwysig yn ogystal dros y Gymraeg yn y gyfundrefn gyfiawnder. Ef a gynrychiolodd D. J. Williams yn achos Penyberth yng Nghaernarfon yn 1936, gan fynnu hawl y tri diffynnydd i sefyll eu prawf gerbron rheithgor o siaradwyr Cymraeg. Yn 1973 comisiynwyd ef gan yr Arglwydd Ganghellor i adrodd ar y defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn yng Nghymru, ac argymhellodd gyflwyno cyfleusterau cyfieithu ar y pryd. Mynychai'r Eisteddfod Genedlaethol yn rheolaidd ac roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd.
Er iddo gefnu ar yrfa academaidd, cadwodd Edmund-Davies gyswllt agos â'r byd academaidd ar hyd ei fywyd. Yn 1959 dyfarnwyd LLD er anrhydedd iddo gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n llywydd Coleg y Brifysgol Abertawe o 1965 i 1975, ac yn Ddirprwy-Ganghellor Prifysgol Cymru o 1974 i 1985. Daeth yn gymrawd ac yn llywodraethwr am oes o Goleg y Brenin, Llundain ac yn gymrawd er anrhydedd o Goleg Exeter, Rhydychen. Bu'n olygydd ar y Cambrian Law Review o 1970 tan ei farwolaeth, ac roedd yn aelod ac yn llywydd (1976-1977) yr Holdsworth Club. Nid oedd ei ddiddordebau deallusol yn gyfyngedig i gyfreitheg, a chymerai ddiddordeb brwd mewn meddygaeth yn ogystal. Roedd yn gymrawd am oes o'r Gymdeithas Feddygol Frenhinol ac yn awdur o leiaf dwy ysgrif ysgolheigaidd yn trafod problemau cyfraith feddygol (trawsblaniadau a hawliau cleifion).
Ar ôl nifer o flynyddoedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac oherwydd y baich gwaith trwm, penderfynodd ymddeol yn 1981. Parhaodd yr Arglwydd a'r Arglwyddes Edmund-Davies i fyw mewn fflat yn Gray's Inn hyd nes i ddirywiad graddol ei iechyd o ganol y 1980au ymlaen ei orfodi yn y pen draw i symud i gartref gerllaw un o'i ferched. Bu'r Arglwydd Edmund-Davies farw ar 26 Rhagfyr 1992, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Maes-yr-Arian yn Aberpennar.
Er gwaethaf ei gefndir dosbarth gweithiol, cafodd Edmund-Davies lwyddiant nodedig, gan ddod yn ffigwr blaenllaw ym marnwriaeth Lloegr a Chymru. Daeth ei allu academaidd i'r amlwg yn gynnar, ac ariannwyd y rhan fwyaf o'i addysg trwy ysgoloriaethau. Mewn ysgrif goffa iddo, ysgrifennodd yr Arglwydd Roskill: 'his advantages lay only in a strong Welsh Nonconformist family background coupled with remarkable intellectual ability, great industry and a wholly legitimate ambition.' Cofir ei gyfraniad i'w briod faes hyd heddiw. Ym Mawrth 2013, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies gyda'r nod o gefnogi myfyrwyr ifainc ac uchelgeisiol o Gymru sy'n ymddiddori yn y gyfraith, yn ogystal â darbwyllo pobl nad yw gyrfa yn y gyfraith yn gyfyngedig i ychydig rai dethol. Cynigir un o ysgoloriaethau Cwrs Hyfforddi Proffesiynol y Bar gan Gray's Inn hefyd yn enw'r Arglwydd Edmund-Davies.
Dyddiad cyhoeddi: 2021-06-29
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.