Fe wnaethoch chi chwilio am r s thomas
Ganwyd R. S. Thomas yng Nghaerdydd ar 29 Mawrth 1913, unig fab Thomas Herbert Thomas (m. 1965), capten llong o sir Aberteifi, a'i wraig Margaret (g. Davies). Ronald oedd ei enw bedydd, ond fe ychwanegodd yr enw bonheddig 'Stuart' ato pan dyfodd yn ddyn. Ar hyd ei fywyd, ei arfer oedd beio gwrhydri corfforol ei dad, a'i ddiffyg clyw cynnar, ynghyd â gofal cariadus gormodol ei fam, am wendidau y tybiai a nodweddai ei gymeriad ef ei hun (megis llyfrdra corfforol ac anhawster caru), themâu sy'n brigo i'r wyneb yn gyson yn ei gerddi
Ond yng Nghaergybi, Sir Fôn, y magwyd ef o oedran pumlwydd; yno fe'i cysurwyd gan drai a llanw'r môr a bodlonai ei anian unig drwy grwydro'r wlad o gwmpas. Parhaodd i uniaethu'n gryf â pharthau'r Gogledd gydol ei yrfa fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru gan gychwyn gwasanaethu yn Y Waun (1937-40) ac yna yn Hanmer a Tallarn Green (1940-42) a Manafon (1942-54) - plwyfi'r gororau - cyn symud draw i Eglwys-fach (1954-67), i'r gogledd o Aberystwyth, a gorffen yn Aberdaron (1967-78), ym mhen-draw eithaf Penrhyn Llŷn, bro a ddisgrifiwyd ganddo fel cangen ynghrog rhwng môr a ffurfafen.
Ar ôl cwblhau gradd symol yn y Clasuron yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, cyfnod pryd y cynhyrchodd ddyrnaid o delynegion 'Sioraidd' gwan ac y llechodd ar yr asgell yn y tîm rygbi, aeth yn ei flaen i Goleg Sant Mihangel, Llandaf, Caerdydd i ddilyn cwrs hyfforddiant (heb ei orffen) i ymbaratoi ar gyfer swydd offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru, corff a oedd yr adeg honno newydd gael ei ddatganoli a'i ddadwladoli. Ar hyd ei yrfa eglwysig bu'n offeiriad ffyddlon ond anodd iawn ei drin am iddo ymosod yn ddigyfaddawd ar styfnigrwydd parhaol Eglwys a fynnai ymddwyn fel petai'n dal yn rhan o'r sefydliad gwladwriaethol Seisnig (er enghraifft drwy gefnogi a mawrygu pob ymdrech filwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd), ac a barhâi, yn gyson â'i hen arfer trefedigaethol, i anwybyddu'r iaith Gymraeg yr oedd R. S. Thomas, a fagwyd yn uniaith Saesneg, wedi ymdrechu i'w dysgu'n drwyadl tra'n byw ym Manafon. Er mai dysgwr ydoedd, credai'n angerddol mae hi oedd ei briod iaith a phriod iaith gwir Gymreictod, a theimlai'n chwerw-ddig na fedrai farddoni ynddi. Serch hynny, cyfaddefai'n groes-graen fod ei gariad at y Gymraeg wedi cyfoethogi ei werthfawrogiad amharod o'r iaith fain, ac wedi miniogi ei ddefnydd anfoddog ohoni. Yr un modd, esgorodd ei berthynas dymhestlog â'r Duwdod Cristnogol ar lawer o'i gerddi gorau yn ystod ei gyfnod olaf o farddoni.
O ddiwedd y tridegau ymlaen ymddangosai rhai darnau digon cyffredin o'i waith yn achlysurol mewn cylchgronau megis The Dublin Magazine a Wales, ond ni welwyd fawr arwydd o wreiddioldeb tan i Keidrych Rhys gyhoeddi ei gasgliad cyntaf, The Stones of the Field, yn 1946 drwy gyfrwng y Druid Press. Mae'r gyfrol yn gofiadwy yn rhannol oherwydd ymddangosiad cyntaf Iago Prytherch, y tyddynnwr gwydn, esgyrnog, tawedog ac enigmatig o ffriddoedd yr ucheldir. Bu'r ffermwr yma a ymddangosai'n rheolaidd wedi hynny o 'the bald Welsh hills' yn gyfrwng hynod werthfawr i R. S. Thomas ymdrechu (yn ofer) am gyfrolau lawer i ddatod cwlwm dryslyd ei fodolaeth drallodus ei hun. Yn y cerddi am Iago amlygir dawn rymus R. S. Thomas i ail-lunio ucheldiroedd canoldir Cymru a'u trigolion ar lun a delwedd ei obsesiynau. I un nad oedd moderniaeth yn ennyn dim ond gwrthnysedd ynddo ac a ymwrthodai'n llwyr â'r bywyd dinesig, yr oedd Prytherch yn cynrychioli 'the land's patience and a tree's/ Knotted endurance.' Un bythol gyfnewidiol ei natur oedd Iago am ei fod yn ddrych i hwyliau croes ac amryfal ofidiau R. S. Thomas. Medrai fod ar dro mor fud ag anifail a phryd arall yn rhugl ei fynegiant o huodledd gwyrdd byd natur. Bodlonai'r cerddi ar grisialu y dirgelwch anghaffael a'i nodweddai; ni fentrent ddatrys y dirgelwch hwnnw. Y mae pob obsesiwn, wrth reswm, yn ddihysbydd, a thystia'r cerddi cynnar hyn ar yr un gwynt i rym nerthol geiriau ac i'w dinerthedd llwyr, thema ddwys a frigodd yn amlwg iawn i'r wyneb yn ddiweddarach pan ddechreuodd R. S. fentro mynd i'r afael â'r Deus Absconditus.
Fel un a fedrai fod ar brydiau yn ddigon garw, yr oedd Iago, a'i hoffter o boeri i'r tân, yn awen bro pur annisgwyl, ac eto i R. S. Thomas ef oedd genius loci bryniau moel ardal y gororau. Bu'n fodd hylaw i ddwyn y bardd, a fagwyd yn gysurus ar aelwyd drefol ddosbarth canol ac a gafodd ei dolach gan ei fam, wyneb yn wyneb â'r cwlwm hwnnw o harddwch a dirdra a nodweddai'r byd natur a ddatgelwyd yn nysgeidiaeth Charles Darwin. Tua'r un adeg darganfu ddadleniad cyfatebol hynod nerthol o galedi bywyd cefn gwlad yng ngherdd fawr Patrick Kavanagh, The Great Hunger (1942), a bu hynny'n fodd iddo araf ollwng heibio ei ddarlun euraidd o fywyd 'Celtaidd' y werin yng Ngorllewin Iwerddon ac ar ynysoedd yr Alban. Aeddfedwyd ei ddawn ymhellach pan briododd Mildred (Elsi) Eldridge yn 1940. Yr oedd hi wedi ennill gwobrau pwysig tra'n astudio yn y Coleg Celf Brenhinol ac erbyn iddi gyfarfod â'r ciwrad di-nod R. S. Thomas yr oedd eisoes yn artist cydnabyddedig. Bu eu partneriaeth yn ddiddig tan ei marwolaeth yn 1991, ond yr oedd hefyd yn un anodd ei dirnad. Ganwyd un plentyn yn unig iddynt, sef Gwydion (1945-2016), ac yr oedd y penderfyniad nid yn unig i beidio dysgu Cymraeg iddo ond hyd yn oed i'w yrru i ysgol fonedd Yr Amwythig ond yn un enghraifft ymhlith llawer o'r anghysondebau gwaelodol a nodweddai yrfa R. S. ar ei hyd ac a ddrysai hyd yn oed y rhai a oedd yn ei adnabod orau. Medrai fod yn ddigon snobyddlyd ar brydiau a phan dderbyniodd Fedal Aur y Frenhines yn 1964 tebygai rhai ei fod wedi gweithredu'n gwbl groes i'w egwyddorion ei hun. Ond y gwir creiddiol amdano oedd ei fod yn cytuno'n llwyr â sylw ei arwr, W. B. Yeats, 'it is out of our quarrel with ourselves that we make poetry'.
Daeth enwogrwydd i'w ran yn annisgwyl yn 1955 (ddwy flynedd ar ôl claddu Dylan Thomas) pan ganmolwyd ei ail gyfrol Song at the Year's Turning ar y rhaglen radio ddylanwadol The Critics. Cyflwynwyd iddo wobr Heinemann gan y Gymdeithas Lên Frenhinol yn ogystal. A chychwynnwyd yr arfer hir-hoedlog o'i drin fel un o fân 'poet-parsons' distadl y traddodiad Seisnig yn syth bin pan soniodd John Betjeman felly amdano yn ei ragymadrodd nodweddiadol hael i'w gyfrol. Ni fedrai beirniaid llên Lloegr ei drin yn ddim amgen am yn hir iawn wedi hynny, er eu bod hefyd yn hoff o'i bardduo fel anghenfil cawraidd Cymraeg hynod fygythiol. Un cyfeiriad dilornus ymhlith llawer oedd disgrifiad Philip Larkin ohono fel 'Arse Thomas.' Yr oedd R. S. Thomas yn ymwybodol iawn o'r ddelwedd honno, a medrai elwa'n bryfoclyd o gelfydd arni o bryd i'w gilydd gan ymddwyn yn fwriadus o ddramatig; ond yr oedd hefyd yn cael ei boenydio'n gyson gan y grymoedd seicolegol a alwyd 'the furies' ganddo yn ei flynyddoedd olaf.
Medrai ymosod yn ddidrugaredd ar ei gymdogion y tu hwnt i Glawdd Offa a'u beirniadu'n ddi-flewyn-ar-dafod. Cyfeiriai'n ddeifiol at feddiant y fyddin o erwau lawer o diroedd Cymru ar gyfer defnydd milwrol, yr arfer o foddi cymoedd Cymreig er mwyn diwallu anghenion dŵr dinasoedd Lloegr, gwaseidd-dra ei gyd-Gymry a blygai lin taeogaidd i'r teulu brenhinol, a pharodrwyd ei gydwladwyr i werthu tai i fewnfudwyr uniaith Saesneg: enghreifftiau oedd y rhain ac eraill tebyg, yn ei farn ef, o gyflwr trefedigaethol Cymru a phrawf fod y broses hir o uno Cymru â Lloegr a gychwynnwyd gan y Tuduriaid (dehongliad o hanes y genedl a fenthycodd yn bennaf oddi wrth ei arwr diwylliannol mawr Saunders Lewis) ar fin cyrraedd ei diwedd. Ond ar war ei gydwladwyr y disgynnodd ei lach galetaf, ac yn fwyaf arbennig gwar Cymry di-Gymraeg peuoedd y De a ymddangosai'n ddim gwell iddo na sothach ysgymun, gwehilion diwylliant dinistriol y chwyldro diwydiannol. Am ddegawd o ganol y pumdegau hyd at ganol y chwedegau lluniodd gyfres o ymosodiadau ymfflamychol yn ei gerddi; cyhuddiadau gwleidyddol diarbed, canu dychan coeglyd, marwnadau diwylliannol pruddglwyfus, proffwydoliaethau arswydus yn null hen broffwydi Israel. Fe'u nodweddwyd yn bennaf gan ing eirias a dicter noeth yn hytrach na mynegiant caboledig. Dyma'r adeg pan glwyfwyd ef i'r byw gan gyflwr truenus Cymru. Diberfeddodd ei gydwladwyr, gan eu cyhuddo o fodloni ar 'quarrelling for crumbs/ Under the table' a'u gwatwar am eu bod yn gwneud dim ond 'gnawing the bones/ Of a dead culture.'
Yn H'm (1972), casgliad a ysbrydolwyd yn rhannol gan gyfrol Ted Hughes Crow (1970), y datgelwyd gyntaf yn ei gyflawnder brif destun cân R. S. Thomas am weddill ei ddyddiau, y pwnc llosg a daniodd nifer o'i gerddi mwyaf. Newydd ymsefydlu ym mhlwyf Aberdaron yr oedd, gan droi ei gefn ar gyflwr enbydus diwylliant Cymru a'i bywyd gwleidyddol a throi ei wyneb i gyfeiriad cysurol y cefnfor diderfyn ar eithaf penrhyn hynafol, penrhyn y bu pererinion yn troedio ei lwybrau chwedlonol am ganrifoedd lawer a lle caed cip ar gyn-hanes y bydysawd yn ei greigiau oesol. Yno cafodd hyd i drigfannau 'the laboratories of the spirit' ac oddi yno y gyrrodd ei ymbilion taer am fwy o sicrwydd ysbrydol allan i berfeddion y gofod. Buan y dechreuodd ei bryderon luosogi: absenoldeb Duwdod ystyfnig o anweladwy a oedd ar yr un pryd yn hollbresennol; gwahanrwydd annynol byd natur didostur a di-hid a oedd mor ddeniadol o hardd ac eto mor greulon o ddinistriol ('the seal's eye/ball is cold'); y reddf ddynol ddiffrwyth i weddïo; dirgelwch annirnad creawd y datgelwyd ei ddeddfau disynnwyr gan Einstein. Droeon a thro yn ystod ei ddegawdau olaf aeth i'r afael â'r posau meddyliol gwaelodol hyn yn ei farddoniaeth, gan esgor ar gerddi o ddwyster ysbrydol na welwyd eu cyffelyb. Cafodd hefyd fod eironi ac amwyster geiriau yn gyfrwng hwylus at ei bwrpas yn ei gyfyng-gyngor am y medrent grisialu'r hollt poenus yn ei feddwl a mynegi petruster ffydd a oedd serch hynny yn styfnig o ddiwair. Cynhyrchodd epigramau cynnil, ffantasïau yn null Borges, cymariaethau gwyddonol, ymarferion myfyriol, Mass for Hard Times (1992) pur anuniongred, Counterpoint (1990) ysbrydol, a nifer o ddyfeisiau testunol cyffelyb. Ymdrech barhaol oeddent i lunio athrawiaeth ysbrydol ôl-fodern dan ddylanwad nid yn unig ddiwinyddiaeth Gristnogol gyfoes flaengar ond hefyd sythweledigaethau a fenthycwyd gan nifer o draddodiadau cred ysbrydol ar draws y byd. Ymgais oeddent felly i greu geirfa ac i lunio ieithwedd a fyddai'n wir ateb dibenion diwylliant y Gorllewin a oedd wedi ei oleuo gan ddarganfyddiadau gwyddonol ac a oedd o'r herwydd wedi meithrin golwg ddiledrith, ôl-Gristnogol ac ôl-grefyddol ar y byd o'i gwmpas.
Ymadawodd R. S. Thomas â'r offeiriadaeth yn 1978, wedi ei ddigaloni gan ddiwylliant a gwleidyddiaeth a'i ddadrithio gan ei brofiad o'r Eglwys yng Nghymru, ac ar ôl iddo fynd benben â'i esgob. Mewn llythyr at ei gyfaill Raymond Garlick, mynnodd yn chwerw mai 'retired Christian' ydoedd bellach. Cafodd loches - er yn anfoddog i gychwyn - yn Sarn y Plas/ Sarn Rhiw, bwthyn o gyfnod y brenin Iago y naddwyd ei feini o'r garreg galed leol ac a edrychai oddi fry ar ddyfroedd twyllodrus bae Pwll Neigwl. Er ei fod yn ddigalon ac yn ddigyfeiriad ar y dechrau, o dipyn i beth fe ddaeth o hyd i lwybr newydd wrth i'w farddoniaeth fentro i gyfeiriadau amgen; am yn agos i ddau ddegawd synhwyrai yn Sarn y Plas, lle y trigai ef a'i wraig mewn bwthyn syml, diaddurn, bresenoldeb cwmwl tystion, ysbrydoedd cyfeillgar, cynhaliol disgwylgar,'Thin, boneless presences [that] flitted through his room.'
Cyfatebai ei Sarn y Plas ef i Thoor Ballylee ei arwr W. B. Yeats; dyma echel sanctaidd ei ymchwiliadau ysbrydol arwrol hwyr. Swynwyd ef gan hydreiddedd rhyfedd meini dolomeit cedyrn ei fwthyn, a nododd eu bod yn peri i'r trigfan bach syml atseinio fel petai'n 'sounding-box in which the sea's moods made themselves felt.' Cofnodwyd ei brofiadau hynod mewn barddoniaeth ond hefyd mewn rhyddiaith, megis ei flwyddlyfr Blwyddyn yn Llŷn (1990), a Neb (1985), hunangofiant rhyfedd a sgrifennwyd yn gyfan gwbl yn y trydydd person er mwyn mynegi ei ymwybod nad oedd ond yn bererin dibwys yn tramwyo llwybrau bywyd sub specie aeternitatis, a'i fod yn estron llwyr i'w anian ef ei hun, 'lost in his own breath.' Lluniodd The Echoes Return Slow (1988), un o'i gyfrolau gorau a mwyaf enigmatig, i'w alluogi i archwilio profiadau creiddiol ei fywyd, gan greu campwaith cymysgryw a oedd yn cynnwys cerddi byrion ar yn ail â darnau rhyddiaith awgrymog, cyfoethog o gywasgedig - techneg a fenthycwyd o gyfrol Geoffrey Hill, Mercian Hymns. Ac ar ôl ymddihatru'n llwyr o'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau offeiriadol, yr oedd bellach yn rhydd i ddatgan ei farn yn ddi-flewyn-ar-dafod am nifer o'r achosion cyfredol a oedd o bwys arbennig iddo - megis gwarchod yr amgylchfyd, diogelu y diwylliant brodorol Cymraeg, sicrhau dyfodol Ynys Enlli a phenrhyn Llŷn, gofalu am y bywyd gwyllt o'i gwmpas, a'r ymgyrch yn erbyn arfau niwclear.
Ond yn sgil marwolaeth ei wraig yn 1991, profodd unigrwydd dwys na leddfwyd ond gan ei briodas yn 1996 i Elisabeth Agnes (Betty) Vernon (ganwyd 1916), gweddw gefnog a fagwyd yng Nghanada. Yr oedd wedi ei hadnabod hi ers ei gyfnod yn Eglwys-fach, lle roedd yn un o'i blwyfolion, ac yr oedd yn wrthwyneb llwyr i Elsi am ei bod yn gymeriad allblyg, lliwgar, parablus, rhagfarnllyd a gwamal. Bu'r ddau'n hapus dros ben am gyfnod ar ôl priodi, gan ddathlu adfywiad serch cnawdol yn eu henoed. Yr adeg honno trawsnewidiwyd R. S. Thomas yn llwyr. O dipyn i beth addfwynodd dan ddylanwad ei wraig; daeth ei hiwmor sych fwyfwy i'r amlwg, yr oedd yn llawer fwy parod i gymdeithasu, a chafodd ef a Betty bleser mawr yn teithio dramor yn bur gyson. Ond yn araf bach pylodd yr ysfa fawr a fu ynddo ar hyd ei fywyd i gyfansoddi a dechreuodd amau ei ddawn ei hun. Cefnwyd yn gynnar yn eu priodas ar Sarn y Plas, a bu'r ddau yn byw yn Sir Fôn am gyfnod, ergyd carreg o ardal ei febyd yng Nghaergybi, cyn iddynt ymgartrefu'n derfynol ym Mhentre'r Felin, gerllaw Cricieth. Yno y bu R. S. Thomas farw yn 87 oed ar 25 Medi 2000. Ar ôl y gwasanaeth angladd llosgwyd ei gorff (am na fynnai ei gladdu) a daearwyd ei ludw yn agos at ddrws Eglwys Sant Ioan, Porthmadog. Er ei fod wedi datgan yn bendant na fynnai gofeb o unrhyw fath, cynhaliwyd cyfarfod coffa i ddathlu ei fywyd yn Abaty Westminster ac yr oedd awduron amlwg megis Gillian Clarke a Seamus Heaney ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y cyfarfod hwnnw.
No Truce with the Furies (1995) oedd y casgliad olaf i ymddangos yn ystod ei fywyd, er i ddau arall (Residues [2002] a Too Brave to Dream [2016] ymddangos ar ôl iddo farw, ynghyd ag Uncollected Poems [2013]). Yn ogystal â chrynodeb defnyddiol o brif themâu ei gyfnod olaf, ceir gan No Truce agor y drws ar nifer o'i ddiddordebau ychwanegol llai amlwg. Ymhlith y rhain y mae ei berthynas hynod ddyrys â'i fam, ei dad, ei fab ac Elsi (un a fu hefyd yn wrthrych nifer o'i gerddi olaf mwyaf tyner a chofiadwy), ei ymwneud achlysurol yn ei gerddi darlun â'r gydberthynas awgrymog rhwng gair a delwedd, a'r ddawn i ddychanu a gyfeiriwyd nid yn unig at ei gyd-Gymry ond at eraill nad oedd ef yn eu cymeradwyo, megis cyn-swyddogion y fyddin y daeth ar eu traws yn ystod ei gyfnod yn Eglwys-fach.
Os mai Dylan Thomas, y shôni-hoi gor-barablus o ardal y De, oedd anwylyn a phrifardd yr Eingl-Gymry yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yna R. S. Thomas, y Gogleddwr swrth, di-ddweud a chynnil ei eiriau oedd y ffigur a fwriai ei gysgod cawraidd ar draws ail hanner y ganrif honno. Yr oedd yn ddi-os yn un o'r mwyaf oll o feirdd Cymru, a hwyrach ei fod hefyd ymhlith beirdd crefyddol gorau'r hollfyd yn ystod y ganrif ddiwethaf. Priodol felly oedd yr ymdrech a wnaed gan Yr Academi Gymreig yn 1996 i'w enwebu ar gyfer Gwobr Llenyddiaeth Nobel. Gwir mai aflwyddiannus fu'r cais, ond roedd yn deyrnged deilwng iawn i gyfraniad enfawr R. S. Thomas i draddodiad llenyddol Cymru ac i'w statws diamheuol fel un o feirdd gorau ei ddydd ar draws y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 2020-06-26
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.