WILLIAMS, CYRIL GLYNDWR (1921 - 2004), diwinydd

Enw: Cyril Glyndwr Williams
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 2004
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Densil Morgan

Ganwyd Cyril Williams ar 1 Mehefin 1921 ym Mhont-iets, Sir Gaerfyrddin, yr ieuaf o naw o blant i David Williams, glöwr, a'i wraig Hannah. Ar ôl mynychu Elim, yr eglwys Bentecostaidd, am ysbaid, dychwelodd y teulu i Gapel Nasareth yr Annibynwyr, lle, yn ogystal â bod yn ddigynnwrf draddodiadol, yr oedd yr addoli yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth cyn symud i Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd gan raddio mewn Hebraeg ac oddi yno i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin er mwyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth Annibynnol. Enillodd yno radd y BD. Bu'n pregethu oddi ar fod yn bymtheg oed, ac yn 1944 fe'i hordeiniwyd yn y Tabernacl, Pontycymer, Morgannwg, cyn symud i fugeilio Annibynwyr Cymraeg Eglwys Radnor Walk Chelsea yn 1947, gan ddychwelyd i weinidogaethu yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, rhwng 1951 a 1958. Priododd ag Irene Daniels o bentref Bancffosfelen, Cwm Gwendraeth, yn 1945, a chawsant dri o blant, dau fab, Martyn ac Eirian, a merch, Ann, a laddwyd mewn damwain a hithau ond yn dair oed.

Ar ôl treulio pedair blynedd ar ddeg yn y weinidogaeth fugeiliol, penodwyd Williams gan ei fentor academaidd, yr Athro Aubrey Johnson, pennaeth yr Adran Semiteg yng Nghaerdydd, yn ddarlithydd yn Hanes Crefyddau gan gwblhau hefyd radd MA ar broffwydi'r Hen Destament. Yng Nghaerdydd y daeth i arbenigo ym mhwnc Ffenomenoleg Crefydd, ac yn dilyn blwyddyn fel athro ar ymweliad ym Mhrifysgol Carleton, Ottawa, fe'i penodwyd yn Athro Crefydd a phennaeth yr adran. Dychwelodd adref yn 1973 gan ddysgu Astudiaethau Crefydd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a'i benodi yn 1981 yn ddeon Ysgol Ddiwinyddol Aberystwyth/Llanbedr Pont Steffan ac yn ddeon Cyfadran Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru yr un pryd. Unwyd adran Astudiaethau Crefyddol Llanymddyfri Aberystwyth ag Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yn 1983 ac adleoli i'r dref, ac yno, fel Athro Astudiaethau Crefyddol y byddai'n aros tan ei ymddeoliad yn 1988. Ac yntau'n llywydd y British Association for the History of Religions rhwng 1985 a 1988, gwnaeth lawer i droi Llambed yn ganolfan flaenllaw mewn astudiaethau rhyng-grefyddol ar lefel Brydeinig a rhyngwladol.

Trwy gydol ei yrfa ceisiodd Williams ddiogelu'r syniad o natur unigryw y ffydd Gristnogol mewn cyd-destun crefyddol hollol bliwralaidd. Yn ogystal ag adrodd hanes crefyddau'r byd, dadleuodd yn ei gyfrol Crefyddau'r Dwyrain (1968) fod pob crefydd yn meddu ar ei nodweddion cysefin ei hun ac ofer oedd meddwl y byddent yn ymdoddi yn ddidrafferth i'w gilydd. Yn ei gasgliad Yr Efengyl a'r Crefyddau (1985) datblygodd y thema hon ymhellach, ac yn y Y Fendigaid Gân (1991) a gyfieithodd o'r Sansgrit, cyflwynodd am y tro cyntaf yn Gymraeg y Bhagavad Gita, sef testun sanctaidd yr Hindwiaid.

Er iddo symud yn bur bell oddi wrth yr ymlyniad teuluol cynnar at Bentecostiaeth, gymaint oedd ei ddiddordeb yn y cysyniad o 'siarad mewn tafodau', un o brif nodweddion y ffydd Bentecostaidd, nes cyhoeddi Tongues of the Spirit: A Study of Pentecostal Glossolalia and Related Phenomena (1981), sef ffrwyth ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth. Dyma'r astudiaeth academaidd drylwyr gyntaf yn y maes, a enynnodd ddiddordeb eang oherwydd poblogrwydd y Mudiad Carismataidd ar y pryd. Ac yntau erbyn hyn yn dra rhyddfrydol ei ddiwinyddiaeth - daethai i ddehongli atgyfodiad Crist a'r Geni Gwyrthiol mewn termau symbolaidd yn hytrach na ffeithiol - daliodd i gredu fod i'r genhadaeth Gristnogol ei lle a'i gwerth. Cafodd ei gyfareddu fwyfwy yn ystod ei flynyddoedd olaf gan fywyd a gyrfa Timothy Richard o Ffald-y-brenin, y cenhadwr Bedyddiedig i Tseina yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ŵr tawel, bonheddig ac yn heddychwr Cymraeg pybyr ar hyd ei oes, parhaodd i ymweld â Japan, De Korea a'r India yn ogystal â'r Unol Daleithiau a Chanada, er mwyn annerch mewn cynadleddau academaidd. Derbyniodd y radd DD er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 2003 a bu'n gymrawd er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Dioddefodd gan Glefyd Parkinson yn ystod ei flynyddoedd olaf. Bu farw ar 31 Mawrth 2004, a chladdwyd ei lwch ym mynwent capel Pisga, Bancffosfelen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-06-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.