Ganwyd Windsor Davies ar 28 Awst 1930 yn Canning Town, Dwyrain Llundain, yn fab i Anyan Davies a'i wraig Maggie (g. Jones). Roedd ganddo un chwaer, Glenys. Roedd y tad a'r fam yn Gymry Cymraeg. Yn 1940, yn fuan wedi dechrau'r Ail Ryfel Byd, symudodd y teulu'n ôl i bentref genedigol Anyan Davies, Nant-y-Moel yng Nghwm Ogwr. Aeth Windsor i Ysgol Ramadeg Ogwr a gweithiodd mewn ffatri wedyn cyn mynd i hyfforddi fel ffitiwr a pheiriannydd trydanol mewn pwll glo lleol. Gwnaeth Wasanaeth Cenedlaethol rhwng 1950 a 1952, gan wasanaethu yn Libya a'r Aifft gyda Chatrawd East Surrey. Yn y fyddin y bu iddo ddarganfod fod ganddo ddawn naturiol fel dynwaredwr wrth iddo ddynwared swyddogion. Roedd yn bersonoliaeth uchel ei gloch a llawn hwyl, ac felly y bu ar hyd ei oes.
Ar ôl gorffen ei Wasanaeth Cenedlaethol, aeth Davies i Goleg Hyfforddi Athrawon Bangor, lle ymgymhwysodd yn athro. Dysgodd Fathemateg a Saesneg yn Ysgol Mountside yn Leek, Swydd Stafford, ac wedyn mewn ysgol yn Elephant and Castle yn Llundain. Bu'n ymhel â'r ddrama amatur yn ei amser hamdden trwy gydol y 1950au.
Priododd Eluned (Lyn) Evans yn 1957, a ganwyd iddynt bedair merch, Jane, Sarah, Nancy a Beth, ac un mab, Danny. Lyn a awgrymodd yn 1959 y dylai roi cynnig ar actio fel gyrfa. Yn 1960 cymerodd gwrs yng Ngholeg Richmond, a chafodd brofiad gyda Chwmni Theatr Kew. Bron yn syth wedyn, cafodd waith gyda'r Cheltenham Rep, a throdd yn actiwr proffesiynol yn 1961. Anaml iawn y bu'n ddi-waith nes iddo ymddeol.
Cafodd Davies ei ran fawr gyntaf fel Bill Morgan yn y gyfres ATV Probation Officer, mewn cast yn cynnwys Syr John Hurt, Honor Blackman, Glyn Houston a Judy Geeson. Trwy gydol y 1960au a'r 1970au cynnar ymddangosodd mewn rhannau llai ar y teledu, mewn cyfresi fel Moulded in Earth, Orlando, Coronation Street, The Newcomers, Conqueror's Road, Smith, The Onedin Line, Canterbury Tales, Dixon of Dock Green, Z Cars a General Hospital. Yn sgil ei osgo naturiol cafodd rannau fel heddweision, sarsiantiaid yn y fyddin, mân swyddogion neu Gymry.
Un rhan nodedig a chwaraeodd yn 1967 oedd Toby yn Doctor Who, gyda Patrick Troughton fel y Doctor - rhan nad oes cofnod ohoni yn yr archif yn anffodus, heblaw ychydig ffotograffau.
Yn 1974, cafodd Davies y rhan a'i gwnaeth yn enw cyfarwydd iawn - Battery Sergeant Major Tudor Bryn 'Shut Up' Williams yn y sitcom It Ain't Half Hot Mum. Mae'n eironig nad Davies oedd y dewis cyntaf ar gyfer y rhan; fe'i cynigiwyd yn wreiddiol i Leonard Rossiter a'i gwrthododd. Roedd crëwr y rhaglen, David Croft, yn cofio portread Davies o sarsiant yn Badge of Fear ac yn ffilm Spike Milligan, Adolf Hitler - My Part In His Downfall, a gofynnodd iddo ddod i wneud clyweliad - gyda thudalen o ddeialog wedi ei pharatoi'n arbennig iddo. Dywedodd Croft ei fod yn 'berfformiad perffaith' mewn amser mor fyr. Yn ôl y sôn roedd Spike Milligan o'r farn mai hwn oedd y portread mwyaf doniol o uwch-sarsiant a welodd erioed.
Roedd y sioe yn eithriadol o boblogaidd, gyda ffigurau gwylio dros 17 miliwn yn gyson. Yn ei sgil aeth Davies a Don 'Lofty' Estelle ati i recordio fersiwn digrif o'r gân 'Whispering Grass' a fu'n rhif un yn y siartiau yn 1975, ac sy'n dal i fod y deuawd chweched uchaf erioed o ran gwerthiant yn y DU.
Yn 1978, gwnaeth Davies ffilm a ddaeth yn gwlt Cymreig, Grand Slam, gan ei blannu ei hun yn sownd yn seice Cymru'r 1970au. Dangosodd y ffilm anturiaethau pwyllgor ac aelodau clwb rygbi dychmygol (Aberflyarff) ar daith i Ffrainc i wylio Cymru yn chwarae, ac yn y pen draw yn colli gêm ryngwladol olaf y tymor. Roedd yn ymgorfforiad o dwristiaeth rygbi ac mae cymeriad Davies, Mog Jones yn cael ei gofio'n annwyl am floeddio "WALES! WALES! WALES!" o'r tu ôl i fariau carchar, gan gadarnhau ei le yn ffefryn y Cymry. Roedd Davies ei hun yn gefnogwr rygbi selog, a hon oedd ei hoff ran.
Pan ddaeth It Ain't Half Hot Mum i ben yn 1981, cafodd Davies ran mewn sitcom arall, Never The Twain gyda Syr Donald Sinden, a fu'n llwyddiant mawr o'r dechrau, gan redeg am ddeng mlynedd. Peth arall nodedig a wnaeth Davies yn y 1970au oedd llenwi'r bwlch ar ôl Sid James, yn anfwriadol, yn y gyfres ffilmiau Carry On, gyda rhannau yn Carry on Behind, a Carry on England.
I blant o genhedlaeth arbennig, Davies oedd llais Sergeant Major Zero yn Terrahawks Gerry Anderson, sioe animeiddiedig ar deledu plant oriau brig. Ymddangosodd hefyd ar nifer o sioeau gemau ac ar sioeau comedïwyr eraill, gan godi dadleuon ambell waith.
O ganol y 1980au ymlaen, chwaraeodd Davies rannau mwy difrifol, megis George Vance yn The New Statesman, David Lloyd George yn Mosely, General Tufto yn Vanity Fair, a Rottcodd yn Gormenghast. Yn 1988, ymunodd â chast llawn sêr o Gymru i recordio Under Milk Wood. Arweiniwyd y cast gan Syr Anthony Hopkins, gyda Syr Geraint Evans, y Fonesig Sian Phillips, Syr Harry Secombe a Philip Madoc. Chwaraeodd Davies '1st drowned', PC Atilla Rees a'r Pysgotwr.
Cofir Davies am ei lais Cymreig nodedig gyda'r oslef soniarus a melfedaidd, a arddelodd yn falch bob amser wrth recordio rhaglenni radio niferus, llyfrau audio a lleisio hysbysebion. Recordiodd y clasur Treasure Island ar gyfer Ladybird Books, ac roedd yn adnabyddus iawn fel y llais yn hysbysebu bariau siocled Cadbury's Wispa am sawl blwyddyn yn y 1980au.
Ymddeolodd o actio yn 2005, ac aeth ef a Lyn i fyw ar gyrion Toulouse yn Ne Ffrainc. Bu farw Lyn yn 2018, a Windsor ychydig fisoedd wedyn ar 17 Ionawr 2019, yn 88 oed.
Cafwyd nifer o arwyddeiriau yn sgil ei ran yn It Ain't Half Hot Mum, ac erbyn hyn mae ganddo 'meme' ar y rhyngrwyd, yr ymadrodd wedi ei lefaru'n sych: 'Oh Dear. How Sad. Never Mind'.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-08-24
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.