Ganwyd Justina Jeffreys ar 10 Medi 1787 ac fe'i bedyddiwyd ym mhlwyf St Andrew's, Jamaica. Roedd ei mam, Susan Leslie (1766-1812), yn fenyw 'fylato' rydd, a'i thad, Charles McMurdo (1744-1826) o'r Alban, yn Gapten 3edd Gatrawd Troedfilwyr East Kent, 'the Buffs', ac Uwchgapten Brigâd yn Jamaica. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn Jamaica gyda'i brawd iau Charles McMurdo Leslie (1790-1865). Roedd yn beth cyffredin ar y pryd i filwyr yn Jamaica gymryd meistres am gyfnod eu gwasanaeth ac i'r plant anghyfreithlon gael eu cofnodi yn y cofrestri bedydd fel 'plant tybiedig' eu tadau. Ar ddiwedd ei wasanaeth yn Jamaica aeth McMurdo ymlaen i Ganada lle priododd fenyw wen â chysylltiadau da, a dechrau teulu cyfreithlon, cyn dychwelyd i'r Alban. Erbyn 1791 roedd Susan Leslie mewn berthynas ddi-briod arall gyda meddyg o'r Alban, John Wright, a ganwyd iddynt ddau fab.
Mae'n rhaid bod bywyd Justina wedi newid yn ddirfawr pan oedd tua chwech oed, wrth iddi gael ei hanfon i dyfu i fyny yn unig blentyn yng Nghymru, dan ofal Edward Scott (1752-1842) a oedd yn ôl pob tebyg eisoes yn ei hadnabod gan ei fod yn gyd-swyddog â'r Capten McMurdo yn Jamaica. Yn 1789 roedd Scott wedi priodi'r wraig weddw Louisa de Saumaise (1755-1803), unig blentyn Lewis Anwyl (teulu Anwyl) ac etifeddes ystâd wledig fechan Bodtalog ger Tywyn yn Sir Feirionnydd. Trefniant anffurfiol oedd mabwysiadu yr adeg honno. Cymerodd Justina y cyfenw Scott a galwai ei thad maeth yn 'Captain'. Roedd ei rhieni maeth ill dau o statws cymdeithasol uchel. Hanai Edward Scott o deulu blaenllaw o wyr llys, a buasai ei fam yn ffafren gan George III ac yn llaethfam i Dywysog Cymru. Rhannai Edward ei fywyd rhwng y Buffs a gwasanaethu fel Marchwr i Dywysog Cymru, sef George IV yn nes ymlaen. Roedd ei wraig, Louisa, yn weddw i'w gefnder, Iarll Louis de Saumaise, disgynnydd balch i Claude Saumaise, ysgolhaig clasurol o fri a gyhoeddodd draethawd Lladin o blaid y Brenin Charles I yn 1649, gan ennyn ateb oddi wrth John Milton.
Wedi ymddeol ar incwm ystâd ei wraig, dilynai Edward Scott ei ddiddordebau deallusol, gan droi oddi wrth Anglicaniaeth at Undodiaeth a gohebu â James Mill a'i fab John Stuart Mill, y geiriadurwr a hynafiaethydd William Owen Pughe (a roddai wersi Cymraeg iddo) a'r awdur dychanol Thomas Love Peacock. Dyma'r amgylchfyd y magwyd Justina ynddo. Credir mai hi oedd y patrwm ar gyfer y ferch ddawnus ac anghonfensiynol Anthelia, ac Edward Scott ar gyfer ei thad Sir Henry Melincourt yn nofel Thomas Love Peacock o'r un enw (1817). Dyma ddisgrifiad Peacock o addysg Anthelia:
In this romantic seclusion Anthelia was born. Her mother died giving birth. Her father, Sir Henry Melincourt, a man of great acquirements, and of a retired disposition, devoted himself in solitude to the cultivation of his daughter's understanding; for he was one of those who maintained the heretical notion that women are, or at least may be, rational beings; though, from the great pains usually taken in what is called education to make them otherwise, there are unfortunately very few examples to warrant the truth of this theory.
Yn 1814 priododd Justina, yn Nhywyn, â George Jeffreys (1792-1868) a oedd newydd dderbyn ei etifeddiaeth, ac aethant ati i adeiladu Castell Glandyfi, castell gothig o gyfnod y Rhaglywiaeth sy'n edrych dros afon Dyfi uwchben y dollffordd o Aberystwyth i Fachynlleth. Yn ardal Amwythig yr oedd canolbwynt cyfoeth y teulu Jeffreys, ac mae'r ffaith iddynt ddewis y llecyn hwn i ymgartrefu, ar safle hen weithfeydd diwydiannol, yn arwydd o ddylanwad ymlyniad Justina wrth Dywyn ac Aberdyfi, a'r syniadau ffasiynol am y Pictiwrésg a oedd mor ddeniadol i'w chyfaill Thomas Love Peacock. Pan briododd Peacock â Jane Gryffydh yn 1820 ymgartrefodd ei wraig yng Nghastell Glandyfi, a bu yntau hefyd yn ciniawa yno ar sawl achlysur dros yr un mlynedd ar ddeg dilynol.
Cafodd Justina a George Jeffreys naw o blant: Louisa Maria (1815-1873), Georgina(1816-1899), Edward (1818-1888), George (1819-1848), Charles Alured (1821-1904), Eliza Justina (1823-1900), Isabella (1824-1825), Susan (1826-1897) a Sarah Ann (1828-1897). Un o'u hwyrion oedd Louisa Florence, merch Charles, a anwyd yn Seland Newydd yn 1854, ac a briododd Henry William Wynne Ffoulkes o Neuad Erifiat, Henllan, Sir Ddinbych a dod yn fardd ac yn theosoffydd. Gor-orwyres iddynt trwy Louisa Maria oedd y lesbiad ymgyrchol Americanaidd Tee Corinne (1943-2006).
Treuliasant weddill eu hoes yn eu castell pert, yntau'n gwasanaethu trwy swyddi priodol i fonheddwr, yn ynad ac yn Ddirprwy Raglaw Sir Aberteifi, a hithau'n fatriarch y teulu. Bu Justina Jeffreys farw yn 1869, flwyddyn ar ôl ei g?r, ac fe'i claddwyd gydag ef, dau o'i meibion ac wyres ger llidiart eglwys Sant Mihangel Eglwys Fach. Merch ydoedd o dras gymysg, yn wyres i wraig gaethiwedig mae'n debyg, a ganfu ei ffortiwn yn aelod o uchelwyr Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-19
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.