Ganwyd Evan Jenkins ar 10 Tachwedd 1794 ym Mhenycastell ger Llangeitho yn Sir Aberteifi, yr ieuengaf o dri o blant Evan Jenkins, ffermwr-denant, a'i wraig Elizabeth (g. Davies, 1760-1822). Roedd Penycastell ym mhlwyf Llanbadarn Odwyn yn rhan o ystad teulu Powell Nanteos.
Bu ei frawd hŷn David (1787-1854) yn dysgu'r Clasuron yn Chelsea am dair blynedd a chafodd ei ordeinio yng Ngorffennaf 1810 yn ddiacon yn Dewsbury, Gorllewin Swydd Efrog, ond mae'n debyg mai'r bwriad gwreiddiol oedd rhoi iddo deitl am urddau ym mhlwyf cyfagos Hartshead, bywoliaeth newydd Patrick Brontë, lle bu David yn gweinyddu'n gyntaf. Roedd Patrick Brontë ac yntau'n gydweithwyr agos am ddwy flynedd. Bu David yn ddiweddarach yn ficer Pudsey am dros ddeugain mlynedd, ac ymwelodd ei frawd iau ag ef yno sawl gwaith. Priododd eu chwaer Mary â Methodist Calfinaidd, Moses Roderick, ac arhosodd y fferm ym meddiant ei theulu tan yr ugeinfed ganrif. Nid oes cofnod o unrhyw gyswllt rhwng y brodyr Anglicanaidd a'u chwaer Fethodistaidd yng Nghymru.
Bu farw'r tad pan oedd Evan yn ddeuddeg oed, fel y dengys ewyllys fer a wnaed ar 8 Rhagfyr 1806. Ac yntau'n drydydd mab, heb fod yn meddu ar dir ei hun, roedd y tad wedi disgyn yn is na statws gŵr bonheddig a hawlid gan ei dad yntau. Yn ôl cofnod ystad ar adeg ei farwolaeth yn 1806/7 roedd y fferm o ryw 47 erw mewn cyflwr gwael a'r adeiladau angen eu hatgyweirio. Nid oes arwydd o ddymuniad y tad ar gyfer ei fab ieuengaf, ond efallai i'r tylwyth benderfynu y dylai fynychu ysgol Ystrad Meurig, tua wyth milltir i ffwrdd, lle mae'n siŵr y byddai ei frawd wedi dysgu Saesneg, Lladin a Groeg o dan y prifathro, y Parch. John Williams.
Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn ysgol Ystrad Meurig, mae'n debygol bod Evan wedi dilyn ei frawd i Chelsea i ddysgu'r Clasuron nes iddo gyrraedd ei dair ar hugain, yr oedran ieuengaf y gallai dyn gael ei ordeinio. Roedd Academi Cheyne House bellach dan reolaeth y brodyr Felix, yr oedd un ohonynt wedi bod yn yr ysgol gydag Evan, mae'n debyg (disgrifiodd Evan Peter Felix fel ei ffrind gorau mewn llythyr yn 1823). Ond fe ymddengys i Evan newid ei feddwl dan berswâd y Parch. Joseph Allen, Battersea, gŵr gradd o Goleg y Drindod, Caergrawnt. Arholodd hwnnw Evan a'i argymell i Goleg y Drindod fel seisar yn Rhagfyr 1817. Cychwynnodd Evan ar ei radd BA yn Hydref 1818, yn dair ar hugain oed, gan raddio yng ngwanwyn 1822 (MA 1829).
Mae'n debygol bod Evan wedi mynd yn syth i Frwsel er mwyn talu ei ddyledion coleg trwy ddysgu preifat. Ond cynigiwyd swydd ddysgu fwy parhaol iddo yno gan y prifathro John Jay, a syrthiodd mewn cariad â'i ferch o dras Albanaidd/Seisnig/ Huguenot-Ffrengig, Eliza (1797-1864). Rhoddwyd iddo deitl am urddau yn Eglwys y Brenin (a fynychid gan frenin yr Iseldiroedd William I), ac yn 1825 fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ac wedyn yn offeiriad gan Esgob Llundain. Priododd Eliza ym Mrwsel ym Mai 1825, a ganwyd iddynt bedwar mab a thair merch. Ar 1 Ionawr 1827 penodwyd Evan gan ddalwyr prydles Prydeinig y Capel Brenhinol yn gaplan iddynt am un flwyddyn, ac arhosodd yn y swydd honno tan ei farwolaeth dros ugain mlynedd yn ddiweddarach. Cymerodd Evan ac Eliza ddisgyblion yn eu cartref; crybwyllwyd yr ysgol gan ohebydd papur newydd yn 1835, a ddisgrifiodd Evan fel 'one of the most amiable and respected members of the Established Church'.
Yn ôl y sôn arhosodd y teulu Jenkins ym Mrwsel yn ystod Chwyldro 1830. Mae llythyrau ym mhapurau Clarke yn Sydney oddi wrth Evan ac Eliza yn croesawu etholiad y Tywysog Leopold yn frenin gwlad newydd Belg yn 1831. Mae'n bosibl i Evan weithredu fel negesydd cyfrinachol rhwng y llysgenhadaeth a'r llywodraeth yn Llundain; mewn llythyr diweddarach o lawer (Chwefror 1842) oddi wrth ei chwaer-yng-nghyfraith yn Greenwich dywedir iddo gario llythyrau oddi y Brenin Leopold at ei nith a'i nai y Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert.
Ym Mehefin 1835 penodwyd Evan yn gaplan anrhydeddus cyntaf i'r Brenin Leopold, Lwtheriad a drodd yn Anglicaniad ac a fynychai wasanaethau Evan yn y Capel Brenhinol. Yn 1838 daeth Evan yn Saer Rhydd, wedi ei ynydu gan y brenin ei hun yn ôl pob golwg. Erbyn 1839 roedd yn gaplan i'r Llysgenhadaeth Brydeinig ac yn Chwefror 1840 croesawodd y Tywysog Albert yn swyddogol i'r Eglwys Anglicanaidd, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i briodi'r Frenhines Victoria. Roedd Evan yn Ysgrifennydd Mygedol y gronfa elusen Seisnig, dan nawdd y brenin. Yn Chwefror 1842 cyrhaeddodd Charlotte ac Emily Brontë ym Mrwsel i ddysgu Ffrangeg, wedi eu hebrwng gan eu tad Patrick, a arhosodd noson gyda'r teulu Jenkins. Bu'r chwiorydd yn mynychu gwasanaethau Evan, a hefyd yn ymweld â'i deulu'n aml. Mae'n debygol bod cipolygon o Evan, ac yn enwedig o'i fab hynaf Edward, yn nofel Charlotte Brontë, Villette (1853).
Dywedodd ei wraig Eliza am Evan ei fod 'very backwards in going forwards' o ran y cwestiwn a oedd y Brenin Leopold yn mynychu ei eglwys o 1831, ond mae Evan yn rhoi'r argraff yn ei lythyrau at ei gyfaill o ddaearegwr William Branwhite Clarke ei fod yn ddidaro ac yn gynnes gyfeillgar. Efallai fod Charlotte Brontë yn meddwl am Evan yn Villette pan ddywed y cymeriad Lucy Snowe: 'of every door which shut in an object worth seeing, of every museum, of every hall, sacred to art or science, he seemed to possess the "Open! Sesame",' a 'The lower orders liked him well; his poor patients in the hospitals welcomed him with a sort of enthusiasm.' Roedd hefyd yn ddi-dderbyn-wyneb ac yn egwyddorol. Dengys anghydfod gyda'r Esgob Luscombe yn 1829 (wedi ei ddogfennu'n llawn yn Archifau Palas Lambeth) fod Evan yn gadarn am ei hawl i wrthod trwydded amheus, ac mae un llythyr at Clarke yn sôn am wrthod ymgreinio i riant.
Bu Evan Jenkins farw yn hanner cant a phedair oed ar 23 Medi 1849. Ni adawodd ewyllys; ni chafwyd hyd i ysgrif goffa. Dichon iddo farw o golera, a oedd yn rhemp ym Mhrydain a Gwlad Belg ar y pryd, ond efallai hefyd fod y diciáu arno. Fe'i claddwyd yn yr hen fynwent Brotestannaidd, ond yn 1887/8 symudwyd ei weddillion ef a'i wraig i'r fynwent newydd yn Evere.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-06-16
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.