JONES, THOMAS JOHN RHYS (1916 - 1997), athro, darlithydd ac awdur

Enw: Thomas John Rhys Jones
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1997
Priod: Stella Winnona Mary Jones (née Price)
Priod: Eilonwy Jones (née Jenkins)
Plentyn: Rhodri Prys Jones
Plentyn: Berwyn Prys Jones
Plentyn: Meirion Prys Jones
Plentyn: Rhoslyn Prys
Rhiant: Evan Thomas Jones
Rhiant: Elizabeth Jones (née Rees)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, darlithydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Dafydd Johnston

Ganwyd T. J. Rhys Jones yn Ystradgynlais, Brycheiniog, ar 19 Mehefin 1916, yr hynaf o dri mab i Evan Thomas Jones (1879-1948), cyn-löwr a aethai'n ddyn casglu yswiriant, a'i wraig Elizabeth (Bessie) Jones (g. Rees, 1884-1962), gwneuthurwraig hetiau.

Fe'i magwyd yng Ngelli-nudd ger Pontardawe ac aeth i Ysgol Ramadeg Pontardawe cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yno, graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o dan yr Athro Henry Lewis. Serch iddo wneud ymchwil ar yr anterliwtiau ac ennill gradd MA, ni chyhoeddodd ffrwyth ei waith am fod iaith rhai o'r anterliwtiau'n rhy fras ac anweddus i fodloni chwaeth y cyfnod. (Cyhoeddwyd erthygl ganddo ar yr anterliwtiau - ond camsillafwyd ei enw'n T. H. Rhys Jones ar ei brig - yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif, gol. Dyfnallt Morgan, 1966.)

Yn Fedyddiwr o argyhoeddiad ac yn gapelwr selog, bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac am gyfnod bu'n gweithio ar ffarm ei ddarpar dad-yng-nghyfraith ger Llanymddyfri. Wedi'r rhyfel, fe'i penodwyd yn athro Cymraeg yn Nhonyrefail a bu yno am flwyddyn cyn mynd yn athro Cymraeg a cherddoriaeth yn Ysgol Ramadeg y Garw ym Mhontycymer. Ym 1946 priododd Stella Price (1919-1984), Cymraes ddi-Gymraeg – ar y pryd – ac athrawes gwyddor ty o Abertawe. Ganwyd iddynt bedwar o feibion, Rhodri Prys Jones (1948-1991), Berwyn Prys Jones (g. 1951), Meirion Prys Jones (g. 1954) a Rhoslyn Prys (g. Prys Jones, 1957).

Ym 1957 fe'i penodwyd yn drefnydd iaith yn Sir Forgannwg. Er mai yng Nghaerdydd yr oedd ei swyddfa, gorllewin Morgannwg oedd prif faes ei waith. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe'i penodwyd i swydd gyffelyb yn Sir Gaerfyrddin a symudodd ei deulu i Langadog i fyw. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ac ar wahoddiad y cyhoeddwyr Hodder and Stoughton, bu ei gyfaill J. T. Bowen, athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Aberdâr, ac yntau wrthi'n llunio'r argraffiad cyntaf o'r gyfrol Teach Yourself Welsh (1960). Cystal fu gwerthiant y llyfr nes darbwyllo'r cyhoeddwyr i fentro cyhoeddi'r chwaer-gyfrol Teach Yourself Irish.

Wedi pedair blynedd yn Sir Gaerfyrddin, fe'i penodwyd yn brif ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Addysg Cartrefle yn Wrecsam, yn olynydd i'r llenor T. Hughes Jones. Ymgartrefodd ef a'i deulu yng Ngresffordd ac yno fe ymgymerodd â golygyddiaeth Yr Athro, cylchgrawn Undeb Athrawon Cymreig (1960-64). Wedi marw J. T. Bowen, bu wrthi'n paratoi fersiwn newydd o Teach Yourself Welsh o dan y teitl Teach Yourself Living Welsh (1977).

Wedi iddo ymddeol yn gynnar oherwydd salwch ei wraig, symudodd ef a Stella i fyw i Greigiau ger Caerdydd. Wedi marw Stella, ymbriododd ag Eilonwy Jenkins, athrawes cerddoriaeth a dirprwy bennaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llanhari. Symudodd i fyw ati yn y Groes-faen ac yno y lluniodd, gyda chymorth ei wraig, ei fersiwn olaf o Teach Yourself Welsh (1991).

Bu farw T. J. Rhys Jones ar 24 Mai 1997 yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd wedi llawdriniaeth aflwyddiannus ar ei galon. Amlosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, a chladdwyd ei lwch gyda llwch Stella yn y fynwent yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-01-15

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.