Ganwyd 23 Ionawr 1895, yn Nhan-yr-allt, hen gartref ei fam yn ardal Blaenafon, plwyf Blaenpennal, Ceredigion, yn un o ddau blentyn ond unig fab Rhys Jones, ffermwr, ac Ann (ganwyd Hughes) ei wraig. Magwyd ef ar fferm Cefnhendre, yn yr un plwy, ond wedi marw ei fam ac yntau'n ddim ond tua chwe blwydd oed, symudodd ei dad i fferm Blaenaeron. Yn Nolebolion, a ffiniai â Blaenaeron, yr oedd John Rowlands, gŵr diwylliedig, bardd gwlad a meistr ar y cynganeddion, yn ffermio. Ef oedd tad tybiedig Thomas Huws Davies. Dysgodd y llanc lawer yng nghwmni diddan John Rowlands. Âi ar y Suliau i gartref rhieni ei fam a mynychu oedfaon ac Ysgol Sul capel (MC) Blaenafon, gan ddatblygu'n blentyn parod ei ateb yn yr holi cyhoeddus ar derfyn yr ysgol a hynny ar sail gwybodaeth drylwyr o'r Beibl. Disgleiriodd y tu hwnt i'w gyfoedion hefyd yn ysgol elfennol Tan-y-garreg, Blaenpennal. Ei ysgolfeistr tan 1903 oedd John Finnemore, ond ei olynydd David Davies a berswadiodd ei dad i'w anfon i'r ysgol sir yn Nhregaron. Yno yr aeth ym mis Medi 1909 yn un o nifer o gyfoedion y mae eu henwau yn y gyfrol hon, William Ambrose Bebb, Evan Jenkins, D. Lloyd Jenkins a Griffith John Williams, a dod dan ddylanwad athrawon nodedig, yn arbennig Samuel Morris Powell y bu cenedlaethau o ddisgyblion yr ysgol honno dan ddyled drom iddo. Yn y cyfnod hwn gwnaeth enw iddo'i hun fel bardd drwy ennill cadeiriau yn yr eisteddfodau lleol. Daethpwyd i'w adnabod yn Nhregaron a'r ardaloedd cylchynol fel ' Tom (Twm) bardd '. Ymroes hefyd i'w waith ysgol. Yr oedd yn ddarllenwr eang ac yn berchen cof eithriadol. Wedi ennill tystysgrif uwch y Bwrdd Canol Cymreig mewn Saesneg, Lladin, Cymraeg a Hanes aeth i'r coleg yn Aberystwyth yn 1913. Cymerai ran amlwg yng ngweithgareddau'r myfyrwyr. Cafodd ysgoloriaeth Cynddelw yn 1915 a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth II mewn Cymraeg yn 1916. Yr oedd yn siaradwr effeithiol mewn Cymraeg a Saesneg. Cyfrannodd gerddi i'r Wawr, cylchgrawn Cymraeg y coleg, ac ef oedd y golygydd yn 1915-16. Ef hefyd oedd is-lywydd y Gymdeithas Geltaidd y flwyddyn golegol honno - aelod o'r staff oedd y llywydd bob amser y pryd hwnnw. Yn y flwyddyn ddilynol etholwyd ef yn llywydd y gymdeithas ddadlau Saesneg (Lit. and Deb.) ond galwyd ef i'r fyddin ym mis Tachwedd. Yn y Gwarchodlu Cymreig y gwasanaethodd yn Ffrainc. Ar derfyn y rhyfel dychwelodd i Aberystwyth i ailgydio yn ei weithgareddau cymdeithasol, ac yn y pwnc ymchwil y dechreuodd arno yn 1916. Ef oedd llywydd y gymdeithas ddadlau Saesneg am 1919-20, llywydd Cyngor y Myfyrwyr, 1920-21, a golygydd y Dragon, cylchgrawn y coleg, yn 1921-22. Yn 1922 dyfarnwyd gradd M.A. iddo am ei draethawd ' Social life in Wales in the eighteenth century as illustrated in its popular literature of the period ', y bu'n gweithio arno ynghanol bwrlwm prysurdeb cymdeithasol a'i gwnaeth yn ffigur mor boblogaidd ymhlith ei gyfoedion.
Yn 1922 apwyntiwyd ef i swydd gyda'r Mudiad Cynilo Cenedlaethol yng Ngheredigion, swydd go ryddieithol i un o'i bersonoliaeth fywiog ef. Ymhen rhyw ddeunaw mis symudodd i Sir Drefaldwyn fel ysgrifennydd i'r Blaid Ryddfrydol yno pan oedd David Davies, Llandinam yn A.S. dros y sir. Gydag ymddiswyddiad Davies o'r sedd yn 1929 cymerodd yntau at drefnyddiaeth Cyngor Diogelu Harddwch Cymru (C.P.R.W.) gyda swyddfa yn Aberystwyth. Golygai'r gwaith hwn deithio drwy Gymru gyfan i ddarlithio ac i hybu diogelu harddwch naturiol y wlad. Yr oedd yn gyfle iddo hefyd gael treulio'r Suliau yn ei hen ardal. Pan oedd yn gweithio yn Sir Drefaldwyn byddai'n darlithio i gymdeithasau bychain yn y sir a chynnal dosbarth Ysgol Sul llewyrchus yng nghapel Bethel (MC) y Drenewydd, a dosbarth darllen hefyd. Codwyd ef yn flaenor yno yn 1936. Priododd yn 1934 ag Enid Bumford o Lanfair Caereinion, y bu'n gyfeillgar â hi o ddyddiau coleg. Rhoesai heibio ei swydd fel trefnydd Cymdeithas Diogelu Harddwch Cymru yn 1932 a chawsai swydd rhan-amser i ddysgu Cymraeg yn ysgol ramadeg y Drenewydd, a chynnal dosbarth allanol yn y dref. Ar ddechrau Rhyfel Byd II sefydlwyd panel o athrawon, T. H. Jones yn gadeirydd a David Rowlands yn ysgrifennydd, i geisio gwella dysgu hanes lleol yn yr ysgolion. Ffrwyth y gweithgarwch hwn oedd llunio sylabws hanes lleol yn 1941. Derbyniwyd hwnnw gan y pwyllgor addysg, a'i ddosbarthu i bob ysgol yn Sir Drefaldwyn. Gwaith y cadeirydd oedd trefnu rhaglen dathlu Gŵyl Ddewi ymhob ysgol gydag un o enwogion y sir yn bwnc bob blwyddyn. Gelwid arno i annerch cyfarfodydd athrawon, a thrwy ddiddordeb arolygwyr ysgolion, lledodd y sôn am gynllun Maldwyn i siroedd eraill. Yn 1946 sefydlwyd coleg brys i hyfforddi athrawon yn Wrecsam, coleg a ddaeth i gael ei adnabod fel Coleg Addysg Cartrefle, a T. H. Jones a gafodd y cyfrifoldeb am y cwrs cyfansawdd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn 1956 gwnaethpwyd ef yn ddirprwy-brifathro 'r coleg. Yr oedd yn ei afiaith yng Ngholeg Cartrefle, a chofir yn annwyl amdano gan y rhai a fu'n fyfyrwyr yno. Ymddeolodd yn 1962 a bu farw 11 Mai 1966.
Dechreuodd ymddiddori mewn ysgrifennu rhyddiaith yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, ac erbyn hyn cysylltir ei enw yn fwy â maes y stori fer (ac yn arbennig y stori fer-hir) nag â barddoniaeth. Er iddo gyfrannu storïau byr ac ysgrifau i'r cyfnodolion Cymraeg, ac i'r Welsh Outlook yn Saesneg, dros lawer o flynyddoedd, ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberpennar yn 1940, gyda'i stori fer-hir 'Sgweier Hafila' a ddaeth ag ef i amlygrwydd cyffredinol. Bu'n beirniadu droeon yn adrannau llên a drama'r Eisteddfod Genedlaethol, ac yng Nghaerdydd yn 1960, yr oedd ef a B. T. Hopkins, o'r un fro ag ef, ar banel beirniaid y bryddest. Bu'n adolygu llyfrau i'r Faner, Lleufer , a'r Athro.
Cyhoeddodd Sgweier Hafila a storïau eraill, 1941; Amser i ryfel, 1944; Mewn diwrnod a storïau eraill, 1948; ac yn 1971 cyhoeddwyd Atgof a storïau eraill ynghyd â detholiad o ysgrifau, sgyrsiau a cherddi (gol. Gildas Tibbott).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.