Ganwyd Eiluned Lewis ar 1 Tachwedd 1900 mewn tŷ o'r enw Glan Hafren ym Mhenstrowed, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, yn ferch i Hugh Lewis (1860-1921) a'i wraig Eveline (g. Griffiths, 1871-1958). Ei henwau bedydd oedd Janet Ellen, a chymerodd yr enw Eiluned ar gyfer ei gwaith creadigol. Roedd ganddi ddwy chwaer, Medina a May, a brawd, Peter. Roedd ei thad yn dirfeddiannwr ac yn berchen ar danerdy; bu ei mam yn brifathrawes yn yr ysgol sirol cyn priodi ac roedd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Roedd ei rhieni ill dau yn ynadon heddwch a bu Hugh yn Gadeirydd Cyngor Sir Drefaldwyn. Cartref diwylliedig oedd Glan Hafren; byddai'r teulu yn croesawu ymwelwyr llenyddol megis y dramodydd, J. M. Barrie, yno yn aml. Aeth Eiluned Lewis i Goleg Westfield yn Llundain lle bu'n astudio llenyddiaeth ac yna dechreuodd ar yrfa newyddiadurol ar staff y Daily News ac yn ddiweddarach, yn y 1930au, y Sunday Times. Yn 1937 priododd Graeme Hendrey; ganwyd un ferch, Katrina, iddynt a symudodd y teulu i fyw yng nghefn gwlad swydd Surrey. Roedd hi a'i gŵr yn ffrindiau gydag amryw o lenorion amlwg, gan gynnwys awduron Eingl-Gymreig megis Ernest Rhys, Hilda Vaughan, a Charles Morgan. Yn ddiweddarach, yn 1967, golygodd Lewis gyfrol o lythyrau'r diweddar Charles Morgan, a oedd yn cynnwys ei chofiant twymgalon iddo.
Roedd ei nofel gyntaf, Dew on the Grass (1934) yn llwyddiant ysgubol, yn fasnachol ac yn feirniadol. Enillodd Fedal Aur yr Urdd Llyfrau am nofel orau'r flwyddyn. Ffuglen hunangofiannol ydyw, sy'n defnyddio ei hatgofion o'i phlentyndod yn Glan Hafren, a enwir yn 'Pengarth' yn y nofel. Mae'r gyfrol yn creu darlun byw o'r lle a'r cyfnod, ac mae ei naws agosatoch yn deillio o'r ffaith mai Lucy Gwyn, merch wyth oed lawn dychymyg, sydd yn llywio'r naratif. Cyflëir safbwynt y ferch fach yn gywir ac mewn iaith hardd, ac efallai mai hyn sydd yn gyfrifol am apêl eang y nofel, gyda'i naws hiraethus a'i darluniau o brofiadau synhwyrus plentyndod. Llyfr am fyd natur yw hwn hefyd, yn debyg i farddoniaeth Eiluned Lewis, llyfr sy'n consurio golygfeydd cofiadwy o fyd natur yn y dirwedd o gwmpas blaenddyfroedd afon Hafren. Yn 1937 cyhoeddodd Lewis lyfr ffeithiol, topograffaidd dan y teitl The Land of Wales, a ysgrifennodd ar y cyd gyda'i brawd, Peter, ac mae hwn eto yn creu darlun serchog o Gymru ar gyfer cynulleidfa Seisnig yn bennaf. Canolbwyntia gwaith newyddiadurol diweddarach Lewis ar fyd natur hefyd, er mai cefn gwlad Surrey sydd yn cael y rhan fwyaf o'r sylw yn hytrach na Chymru ei phlentyndod. O 1945 ymlaen, am fwy na thri degawd, ysgrifennodd golofn reolaidd ar gyfer y cylchgrawn Country Life o dan y teitl 'A Countrywoman's Notes'.
Cyhoeddwyd ei hail nofel, The Captain's Wife, yn 1943. Lleolir y naratif yn Nhyddewi yn Sir Benfro ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n seiliedig ar atgofion ei mam, Eveline, a gafodd ei magu yno. Nofel hanesyddol ydyw, felly, sy'n croniclo bywyd morwrol ac amaethyddol arfordir Cymru yn y cyfnod hwnnw. Canolbwynt y llyfr yw Lettice Peters, 'gwraig y capten' y teitl, sydd wedi teithio'r byd ar fwrdd llongau ei gŵr ond sydd erbyn hyn wedi setlo i fyw yn y dre fach gadeiriol 'St Idris', sef fersiwn o Dyddewi. Mae safbwynt y nofel yn pendilio yn ddiddorol rhwng Lettice a'i merch ifanc, Matty, sydd yn creu byd ffuglennol lle y mae popeth i'w weld o safbwyntiau gwrthgyferbyniol. Yn debyg i'w nofel gyntaf, mae hon yn cynnig darlun byw o fywyd teuluol, ac yn ogystal yn adlewyrchu newidiadau hanesyddol. I'w darllenwyr cyntaf, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y nofel yn apelio oherwydd ei themâu sy'n pwysleisio goroesi er gwaethaf yr amgylchiadau a thraddodiadau teuluol a diwylliannol yn parhau.
Lleolir ei thrydedd nofel, The Leaves of the Tree (1953), yng nghefn gwlad Surrey a oedd erbyn hynny yn dirwedd gyfarwydd, gartrefol i'r awdur. Prif gymeriad y nofel yw merch ifanc, Sharon Westerly, sydd wedi colli ei mam ac yn mynd i fyw gyda'i modryb yn Surrey, lle mae'n dod i adnabod arlunydd o Ffrainc, Victor Lavelli, sydd yn byw gerllaw. Mae'r disgrifiadau telynegol o fyd natur yn gyfarwydd o'i chyfrolau eraill, ond mae'r gyfrol hon yn canolbwyntio ar yr Ail Ryfel Byd a'r ffordd y mae bywydau trigolion y wlad yn cael eu heffeithio ac ambell waith eu dinistrio ganddo. Nid yw Cymru yn chwarae rhan amlwg yn y gyfrol hon, er i Sharon fynd i ysgol breswyl yng Nghymru, lle mae cyfeillgarwch teulu lleol, y Boweniaid, yn ei chysuro er gwaethaf amgylchiadau'r rhyfel. Mae'r llyfr hwn yn fwy uchelgeisiol ac yn trafod bywydau oedolion yn fanylach na'r nofelau blaenorol. Er fod y rhyfel yn gysgod tywyll dros bopeth, mae'r nofel yn diweddu ar nodyn o obaith, gan fod Sharon yn ymweld â bwthyn y diweddar arlunydd ac yn darganfod paentiadau o hyd ar y wal, a oedd wedi eu cuddio gan ddail. Goroesi er gwaetha'r amgylchiadau, felly, yw'r brif thema, a gellir dadlau fod hon yn thema nodweddiadol Gymreig.
December Apples (1935) a Morning Songs (1944) oedd ei chyfrolau barddoniaeth. Cerddi traddodiadol, mewn odl, yw'r rhain, sydd weithiau'n atgoffa'r darllenwr o ganeuon gwerin. Yn debyg i'w rhyddiaith, maent yn canolbwyntio ar fyd natur ac mae naws hiraethus yn perthyn iddynt. Cyhoeddodd Lewis ddetholiadau o'i hysgrifau poblogaidd yn Country Life yn y cyfrolau In Country Places (1951) a Honey Pots and Brandy Bottles (1954).
Bu farw Eiluned Lewis ar 15 Ebrill 1979.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-11-17
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.