MORGAN, ELIZABETH (1705 - 1773), garddwraig

Enw: Elizabeth Morgan
Dyddiad geni: 1705
Dyddiad marw: 1773
Priod: Henry Morgan
Plentyn: Dulcibella Morgan
Rhiant: John Davies
Rhiant: Honora Davies (née Sneyd)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: garddwraig
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth

Ganwyd Elizabeth Morgan yn Amwythig ac fe'i bedyddiwyd yn eglwys St. Chad yno ar 5 Tachwedd 1705. Hi oedd yr ail o bump o blant, ac unig ferch John Davies (1668/9–1732), offeiriad, a'i wraig Honora (g. Sneyd, 1668-1714). Roedd ei thad yn fab i Mutton Davies o deulu Gwysanau yn Sir y Fflint a Llannerch yn Sir Ddinbych. Roedd ei mam yn ferch i Ralph a Frances Sneyd o Keele Hall, Swydd Stafford.

Yr hynaf o frodyr Elizabeth oedd John a fu farw yn 1735 yn 31 oed. Y mwyaf adnabyddus oedd yr offeiriad a'r bardd Sneyd Davies, 1709-1769). Ganwyd Thomas yn Amwythig yn 1711 ac fe'i claddwyd yn Kingsland, Swydd Henffordd, yn 1712, sy'n dangos fod y teulu wedi symud yr adeg honno pan gymerodd ei thad fywoliaeth Kingsland.

Treuliodd Elizabeth ei phlentyndod o chwech oed ymlaen yn rheithordy Kingsland a oedd â gerddi helaeth a ffrwythlon. Dyma fan cychwyn diddordebau garddwriaethol Elizabeth yn ddiamau, a byddai'r amgylchedd teuluol ysgolheigaidd a llengar wedi meithrin ei sgiliau cofnodi manwl.

Ar 3 Awst 1732 yn eglwys Kingsland priododd Elizabeth â Henry Morgan (1704-1780), aer Henblas, ystâd 3,000 erw ym Môn. Roedd cysylltiadau eglwysig agos rhwng esgobaethau Bangor a Henffordd. Roedd Henry yn fab i ganghellor Bangor ac yn ŵyr i esgob Bangor, Robert Morgan. Byddai gwaddol Elizabeth o £2,000 yn gymorth mawr i wireddu cynlluniau'r pâr i wella ystâd Henblas. Adeiladwyd ysgubor ddyrnu fawreddog yn arddangos llythrennau cyntaf y ddau gyda'r dyddiad 1733 ac ychwanegwyd porthdy crwn trawiadol ger y fynedfa i'r dramwyfa.

Cafwyd gwelliannau i'r ardd wedyn. Mewn cofnodion dyddiol yn nyddiadur gardd Elizabeth yn y cyfnod 1754-1772, sydd ar gadw yn Archifau Prifysgol Bangor (tybir bod dyddiadur cynharach ar goll), sonnir am ardd newydd gyda wal briciau coch, grisiau cerrig ac alcofau. Yn ystod y datblygiadau hyn bu farw unig blentyn Elizabeth, Dulcibella. Diau i Elizabeth droi at ei gardd am gysur.

Yn nes ymlaen cafwyd rheilins a chlwydi Tsieineaidd, llwybrau dolennog a seddau cain yn y rhodfeydd a arweiniai at y blanhigfa. Mae'n amlwg bod Elizabeth yn ymddiddori yn y syniadau diweddaraf mewn dyluniaeth gerddi. Roedd yn arddwraig ymarferol ymroddedig gyda disgwyliadau uchel iddi'i hun ac i eraill, ac roedd yn barod iawn i fynegi ei hanfodlonrwydd pan na fyddai pethau'n bodloni ei safonau llym. Byddai'n ymgynghori â Gardeners Dictionary Phillip Miller, beibl garddwriaethol yr oes, gan chwilio am blanhigion anghyffredin ac egsotig i'w hychwanegu at ei chasgliad. Mae ei chyffro'n amlwg wrth iddi sgrifennu, er enghraifft, am astudio ei lilïau Guernsey yn agor yn raddol.

Gwyddom o'i dyddiadur fod Elizabeth yn arfer garddio nes bod ei dwylo'n boenus. Yn hyn o beth mae'r dyddiadur yn bwysig fel esiampl o gyfraniad sylweddol garddwragedd yr oes o'r blaen, cyfraniad a esgeuluswyd yng Nghymru. Mae cofnodion manwl Elizabeth yn darparu gwybodaeth werthfawr am y doreth o liwiau a geid ar hyd y rhodfeydd i goedwig Henblas, gyda chlystyrau o blanhigion blodeuol, bylbiau, llwyni persawrus, coed cnau, perthi ffrwythau, llysiau a pherlysiau'n drwch yn y borderi ar hyd y llwybrau.

Deuai'r planhigion o amryw ffynonellau. Yn 1759 plannodd Elizabeth ddrysïen bêr ddwbl a cheiriosen y gaeaf o ardd Llannerch. Roedd ei thaid, Mutton Davies, wedi creu gardd Eidalaidd ysblennydd yno yn yr ail ganrif ar bymtheg. Cafwyd amryw blanhigion gan berthnasau eraill, cymdogion a thyfwyr lleol, ond daeth hadau, planhigion, coed a llwyni o lefydd mor bell â Dulyn, Caer a Llundain. Tyfid llysiau hefyd ar raddfa fawr i fwydo preswylwyr yr ystâd. Cadwai Elizabeth ddyddiadur llysiau ar wahân yng nghefn ei dyddiadur gardd.

Roedd yn fedrus mewn technegau tocio ac impio, ac yn wybodus am ddulliau o wneud compost gan ddefnyddio tywod y môr o arfordiroedd yr ynys, amlhau hadau, toriadau a brigblannu. Byddai planhigion tyner fel coed lemwn mewn potiau yn cael eu symud i'w 'stafell newydd' dros y gaeaf. Roedd ei briallu Non yn drysor a warchodid mewn ffrâm arbennig.

Dioddefodd ei hiechyd yn sgil y llafur corfforol dros y blynyddoedd. Pan na allai fynd i'r ardd ei hun mynegodd ei rhwystredigaeth am ddiofalwch y garddwyr. Gwnaeth Elizabeth ei chofnod olaf yn ei dyddiadur gardd ar 20 Awst 1772. Bu farw'r flwyddyn ganlynol ac fe'i claddwyd wrth ymyl ei merch, Dulcibella, ym mynwent eglwys Llangristiolus ar 9 Awst 1773.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-02-15

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.