NAISH, JOHN (JACK) (1923 - 1963), awdur a dramodydd

Enw: John Naish
Dyddiad geni: 1923
Dyddiad marw: 1963
Priod: Rosemary Ruth Naish (née West)
Plentyn: Guy West
Plentyn: Lee Naish
Rhiant: William John Frederick Naish
Rhiant: Sarah Ann Naish (née Griffiths)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a dramodydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Bianka Vidonja Balanzategui

Ganwyd John Naish ar 20 Ebrill 1923 ym Mhort Talbot, Sir Forgannwg, y trydydd o bedwar o blant William John Frederick Naish, saer coed, a'i wraig Sarah Ann (g. Griffiths), athrawes. Roedd ganddo ddau frawd hŷn, William ac Edward, a chwaer iau, Lilian (Lily).

Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Eastern ac Ysgol Uwchradd Port Talbot. Roedd yn frwd iawn am chwaraeon trwy gydol ei fywyd, a chynrychiolodd yr ysgol mewn rygbi a chriced. Ond llenyddiaeth a drama oedd ei ddiddordeb pennaf, a meithrinwyd ei ddoniau yn yr ysgol gan Philip Henry Burton, athro a ysbrydolodd sawl un o'i ddisgyblion i ddod yn actorion - Richard Burton yn fwyaf nodedig - ac eraill i astudio llenyddiaeth yn y brifysgol, fel y gwnaeth chwaer John, Lily, yn Aberystwyth.

Gellir adnabod alter-ego yn y rhan fwyaf o waith llenyddol Naish, ac mae'r cymeriadau hyn yn aml fel petaent yn ceisio dianc rhag rhyw sefyllfa neu berson. Yn ei lyfr cyntaf, The Clean Breast, a gyflwynir fel hunangofiant, darluniodd dref ddiwydiannol Port Talbot fel tirlun Danteaidd, un yr oedd yn amlwg yn awyddus i ddianc ohono. Priodolodd un beirniad awyrgylch tyngedfennol nofel olaf Naish, That Men Should Fear, i'w gefndir yng Nghymru a'i 'gloomy valleys and tortured heritage'. Ymfalchïai Naish yn ei dreftadaeth Gymreig, ac mae cyfeiriadau at dirlun a diwylliant Cymru yn britho ei weithiau ffuglennol.

Wedi iddo adael yr ysgol ymunodd Naish â chyfrifydd siartredig fel disgybl erthyglog. Ym Mai 1942 ymrestrodd yn Adain Hyfforddiant Arfogedig y Gwarchodlu Cymreig. Anfonwyd ef i Norwy ac yn nes ymlaen i'r Almaen gyda Byddin Brydeinig y Rhein. Ar ôl ei ddadfyddino ym Mawrth 1947, gweithiodd yn Abertawe fel cynorthwyydd i ysgrifennydd cwmni gwerthu ceir a pheiriannau amaethyddol. Symudodd i Lundain yn Hydref 1948 lle gweithiodd fel clerc i gwmni rheoli theatrau.

Ymgeisiodd wedyn am fordaith noddedig i Awstralia, ac ar 4 Mai 1950 hwyliodd ar yr 'Otranto' i Queensland. Aeth ati yno i wneud gwaith llafur caled ochr yn ochr ag ysgrifennu. Ei waith pennaf oedd torri câns siwgwr yn ardal drofannol gogledd Queensland, a'r profiad o'r gwaith ciaidd hwnnw a ysbrydolodd ei nofel gyntaf The Cruel Field a dramâu cysylltiedig.

Ar ddiwedd Chwefror 1956, wedi iddo gyflawni gofynion trigiant ei fordaith noddedig, hwyliodd am adref. Torrodd ei daith gydag arhosiad yn Ffiji lle bu'n gweithio fel clerc gyda chwmni llongau Burns Philp. Perfformiwyd ei ddrama gyntaf yno, yn Suva, ac fe'i cyhoeddwyd wedyn yn Awstralia. Awgryma gweithiau eraill a luniwyd yn 1957 ei fod yn arbrofi gyda realaeth gymdeithasol (dramâu a nofelau ardal y siwgwr yn bennaf) a hefyd gyda dulliau anrealaidd ar yr un pryd.

Yn Rhagfyr 1956 cwrddodd â Rosemary Ruth West, meddyg a anwyd yn Awstralia. Wedi cwblhau ei hastudiaethau meddygol roedd Rosemary wedi teithio i Ffiji i weithio gyda'r Genhadaeth Fethodistaidd. Câi John ei yrru gan gymhelliad creadigol di-baid, a thynnwyd Rosemary i mewn yn syth i'r cylch prysur o ysgrifennu dramâu, eu darllen, cyfarwyddo, cynhyrchu ac actio. Daeth i ddeall yn fuan hefyd fod John yn dioddef pyliau o iselder.

Wedi dyweddïo a hithau'n disgwyl plentyn, penderfynasant ddychwelyd i Awstralia yn 1958 i briodi yn Adelaide, tref enedigol Rosemary. Aethant i'r gogledd wedyn i Queensland lle ailafaelodd John yn y gwaith torri câns, gan ysgrifennu trwy'r adeg. Yno y ganwyd eu plentyn cyntaf, Guy.

Pan oedd Rosemary yn feichiog yn 1959 teithiasant i Bort Talbot lle ganwyd eu hail blentyn, Lee. Yn ystod y cyfnod hwn llwyddodd Naish i gael cytundeb cyhoeddi gyda chwmni Hutchinson yn Llundain ar gyfer The Clean Breast. Wedi cyrraedd yn ôl yn Awstralia ym mis Ebrill ac yntau'n torri câns eto, cafodd gytundebau pellach gyda Hutchinson a daliodd ati i ysgrifennu ar ras wyllt. Cyhoeddwyd tri llyfr ac un ddrama mewn tair blynedd. Yn yr un cyfnod perfformiwyd dwy o'i ddramâu yn y Little Theatre, enillodd gystadleuaeth ysgrifennu drama yng ngogledd Queensland a chafodd drama a nofel ganddo glod arbennig mewn cystadleuthau llenyddol cenedlaethol. Yn ogystal â'r gweithiau cyhoeddedig gwyddys iddo lunio pedair ar ddeg o ddramâu eraill ac un stori fer.

Ymgartrefodd y teulu yng nghymuned ynysig Cooktown yng ngogledd Queensland lle roedd Rosemary yn oruchwylydd meddygol yr ysbyty a John yn ysgrifennu'n llawn-amser. Rheolodd Rosemary iselder cynyddol John orau y gallai, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo ei greadigrwydd yn gorfforol ac yn emosiynol. Hi oedd ei llawforwyn, ei awen a'i gydradd wrth iddo sianelu ei ymholi dirfodol i mewn i ddychmygion ffuglennol ystyrlon. Cyfaddefodd John ei hun na allai fod wedi cyflawni'r hyn a wnaeth heb ei hanogaeth, ei ffydd a'i gwaith yn meithrin ei ddawn. Saif dramâu a nofelau Naish fel yr unig gofnod ffuglennol cyflawn a dilys o waith a chymdeithas yn ardaloedd gogleddol y siwgwr yn ystod y 1950au a'r 1960au.

Bu John Naish farw ar 19 Gorffennaf 1963 yn sgil dogn marwol o farbitwradau a gymerodd ef ei hun. Fe'i claddwyd ym mynwent Cairns Martyn Street.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-05-12

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.