Ganwyd Leonora Philipps ar 4 Tachwedd 1862 i deulu Iddewig yn Camberwell, Llundain. Mab i athro ysgol o ardal Rwsiaidd yng Ngwlad Pwyl oedd ei thad, Isidore Gerstenberg (1821-1876), a sefydlwr a chadeirydd y Gorfforaeth Bond-ddalwyr Tramor; roedd ei mam, Fanny Alice (bu farw 1877), yn ferch i Abraham Bauer o Hamburg a Llundain. Gwnaed Leonora yn ward Llys Siawnsri wedi marwolaeth ei dau riant o fewn blwyddyn i'w gilydd pan nad oedd ond yn bedair ar ddeg oed. Cafodd ei haddysgu yng Ngholeg Prifysgol Birkbeck ac Ysgol Gelf Slade, ynghyd â'r Academi Celfyddyd Ddramatig Frenhinol, cyn ei phriodas ar 14 Chwefror 1888 â bargyfreithiwr yn y Deml Ganol, John Wynford Philipps (1860-1938), a ddaeth yn aelod seneddol dros Swydd Lanark Ganol yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Fel etifedd i bron i £100,000 ar ôl ei thad, gallai Leonora gynnig cyfoeth sylweddol i'w gŵr newydd, a'i defnyddiodd i sefydlu busnes llongau mewn partneriaeth â'i frawd, Owen Cosby Philipps, Barwn Cyntaf Kylsant (1863-1937).
Yn dilyn ei phrofiadau fel actores amatur mewn rhannau difreintiedig o Lundain pan oedd yn ferch ifanc ac fel athrawes llefaryddiaeth yn achlysurol mewn clybiau i ferched o'r dosbarth gweithiol, ynghyd ag ymweliad diweddarach â'r Unol Daleithiau, darbwyllwyd Leonora Philipps o'r angen i frwydro dros gydraddoldeb merched. Ymaelododd â Ffederasiwn Rhyddfrydol y Merched a sefydlwyd rhwng 1886 ac 1888, lle y daeth yn rhan o rwydwaith o fenywod blaengar yn yr achos dros y bleidlais i ferched, fel y tystia'i gohebiaeth â Millicent Fawcett (1847-1929), Rosalind Howard, duges Caerliwelydd (1845-1921), a Frances Elizabeth Bellenden McFall (g. Clarke; 'Sarah Grand'; 1854-1943). Â'i chanolbwynt daearyddol yn Llundain, ymledodd gweithgaredd a dylanwad Philipps i bob cwr o Brydain. Roedd ei galluoedd fel areithydd yn allweddol i'w chyfraniad. Adroddwyd yn y wasg Gymraeg sut yr anogodd ferched ifainc i ymgymryd â siarad cyhoeddus, wedi ei darbwyllo o briodoldeb hynny drwy ei phrofiad ei hunan fel areithydd, profiad a olygodd ei bod hi 'heddyw yn sefyll yn y rhestr uchaf o siaradwyr ar bynciau gwleidyddol' (Y Llusern , Hydref 1894). Âi ei hareithiau i'r afael â materion cyflogaeth, amodau gwaith, a'r angen am undebau llafur, oll fel yr effeithient ar ferched. Roedd ei phresenoldeb i'w weld yn ogystal mewn cyhoeddiadau print, yn arbennig yn y wasg gyfnodol. Pan ddaeth hollt yn Ffederasiwn Rhyddfrydol y Merched yn 1891, ochrodd gyda'r garfan flaengar o dan arweiniad Rosalind Howard, a ddymunai bledio cefnogaeth y Ffederasiwn i'r achos dros ennill y bleidlais i ferched. Mynegodd Philipps ei beirniadaeth o'r menywod a ymwrthodai ag achos y bleidlais i ferched mewn erthygl yn The Welsh Review yn Chwefror 1892 : 'There is something pathetic as well as ludicrous in the sight of women who, out of a deep sense of duty, have determined to be political - and who undertake the arduous and difficult work of organisation and public speaking - and who yet disclaim even the desire for the best instrument of political action, the vote itself', meddai. Y mae ysgrif bellach yn yr un cylchgrawn, sy'n ymateb i feirniadaeth Elizabeth Orme (1848-1937) o gyfraniad blaenorol a wnaethai, yn dadlennu ymhellach y rhwyg o fewn Ffederasiwn Rhyddfrydol y Merched. Tra beirniadai Orme y garfan flaengar o fewn y Ffederasiwn am hyrwyddo cysylltiad cyfansoddiadol ag achos y bleidlais i ferched gan fynnu mai ennill yr etholiad cyffredinol oedd i'w gynnal ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno ddylai'r flaenoriaeth fod, amddiffynnodd Philipps ymrwymiad y garfan flaengar tuag at achosion Rhyddfrydol (Ymreolaeth i Iwerddon, Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru a'r Alban, y mudiad Dirwest). Braenaru'r tir a wnâi'r Ffederasiwn drwy gefnogi'r achos dros y bleidlais i ferched, fel y gwnaethai hoelion wyth y Blaid Ryddfrydol dros achosion eraill yn y gorffennol, achosion a oedd bellach yn greiddiol i'r Blaid. Gan roi gogwydd penodol Gymreig i'w dadl, gosododd Philipps safbwynt y garfan flaengar yng nghyd-destun hanes y Cymry a dygnwch eu gwrthsafiad yn erbyn eu goresgynwyr, gan eu portreadu fel 'a people, who, in the hour of deepest subjection, when they were crushed and bruised beneath a foreign yoke, were newly kindled to powerful resistance, and were inspirited to thrust back the invaders, by the influence of "Sweet Singers," the Bards' (The Welsh Review, Mai 1892 ). Cyflwynwyd yr achos dros y bleidlais i ferched fel un ag iddo wreiddiau cynhenid Gymreig drachefn yn ysgrif agoriadol Leonora a'i chwaer yng nghyfraith, Elsbeth Philipps, fel golygwyr gwadd i'r cylchgrawn Young Wales ym Mawrth 1896 . I hyrwyddo'r achos, dygwyd i gof arwriaeth Buddug ac offeiriadesau dewr Môn fel y'u portreadwyd gan Tacitus, gan ddangos bod llu o fenywod eraill wedi efelychu eu penderfyniad wrth fynd i'r afael ag anghyfarteleddau hanesyddol a chyfoes mewn meysydd megis addysg a gwasanaeth cyhoeddus. Er gwaethaf y cynnydd a sicrhawyd gan fenywod eithriadol, fodd bynnag, ar 'fenywod cyffredin' y dibynnai lles y byd, meddent, ac yn eu dwylo hwy yr oedd y gallu i gefnogi delfrydau eu chwiorydd blaengar a sicrhau eu llwyddiant.
Dadlenna'r ddealltwriaeth hon o hanes Cymru a'i phobl, ynghyd â'r crebwyll i weld ei berthnasedd i'r sefyllfa gyfoes, ddyfnder perthynas Leonora Philipps â Chymru erbyn y 1890au. Bu'n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu canghennau o Ffederasiwn Rhyddfrydol y Merched mewn trefi ar hyd a lled Cymru (yn eu plith Llanelli, Hwlffordd, a'r Rhyl); a dyfnhaodd y cysylltiad wedi i'w gŵr gael ei ethol yn aelod seneddol dros sir Benfro yn 1898. Yn dilyn ei urddo ef yn is-iarll yn 1908, adwaenid hi fel Arglwyddes Tyddewi ('Lady St David's'). Roedd yn gefnogwr brwd i'r Eisteddfod Genedlaethol, a defnyddiodd ei gallu a'i phrofiad fel actores i gymryd rhan ym Mhasiant Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn 1909, lle y chwaraeodd ran ganolog fel grande dame o gyfnod Harri VIII, un o olygfeydd mwyaf effeithiol a harddaf y perfformiad yn ôl un adroddiad (The Cardiff Times, 8 Hydref 1910 ). O dan enw Arglwyddes Tyddewi y gwnaeth ei chyfraniad creiddiol i ffurfio Cymdeithas Nyrsio De Cymru, cymdeithas yr oedd sicrhau bod nyrsys Cymraeg eu hiaith ar gael i weinyddu ar gleifion o Gymry yn un o'i nodau, fel y clywyd mewn cyfarfod dylanwadol yng Nghaerfyrddin ym mis Hydref 1910. Dangosodd ymhellach ei hymrwymiad i faterion iechyd drwy fwstro cefnogaeth at grwsâd Gymreig yn erbyn y ddarfodedigaeth, ymgyrch a sefydlodd er cof am Edward VII, ac a hyrwyddai allu gwyddoniaeth i ddwyn gwellhad ('Lady St. Davids' Letter. The Nation's United Effort', The Cardiff Times, 8 Hydref 1910 ).
O fewn ei theulu, gwnaeth Philipps ddefnydd llawn o'i chrybwyll gwleidyddol i gefnogi ymgyrchoedd seneddol ei gŵr. Yn dilyn llwyddiant yr olaf o'r rhain, i ennill sedd sir Benfro, ymsefydlodd gydag ef yng Nghastell Roch yn y sir honno, gan gadw cartref hefyd yn Llundain, lle y parhaodd i weithredu dros achos y bleidlais i ferched. Roedd ganddi hi a'i gŵr ddau fab, Colwyn Erasmus Arnold Philipps a Roland Erasmus Philipps, a addysgwyd y naill yn Eton a Choleg Milwrol Brenhinol Sandhurst, a'r llall yn Nghaerwynt a Choleg Newydd, Rhydychen.
Bu farw Leonora Philipps o gancr y fron yn 9 Mandeville Place, Llundain, ar 30 Mawrth 1915, a'i chladdu yn Roch. Adlewyrchai ei chymynroddion ei chefnogaeth i'r sefydliadau a fu'n agos at ei chalon, yn eu plith Cymdeithas Nyrsio De Cymru, Sefydliad y Merched, cangen sir Benfro o'r Groes Goch, a Chynghrair Gwasanaeth y Bleidlais i Ferched, yr olaf ar yr amod bod ei haelodau'n ymrwymo i weithredu'n ddi-drais. Roedd aelodau o'i theulu hefyd yn amlwg yn ei bwriadau: sicrhaodd gyllid i'r Synagog Unedig ar gyfer cynnal a chadw beddau ei rhieni yn Willesden, ac i gapel Undodaidd Frenchay ger Bryste i wneud yr un gorchwyl i fedd ei brawd, Arnold Gerstenberg (1863-1887). Daethai'n gyfrifol am weinyddu Cronfa ei brawd 'er hybu astudiaeth o Athroniaeth a Metaffiseg ymhlith myfyrwyr yn y Gwyddorau Naturiol (yn ddynion a menywod fel ei gilydd)' yn dilyn ei farwolaeth ef yn dair ar hugain mlwydd oed. I'w meibion, neilltuodd swm o dros £35,000 ynghyd â'i llythyrau, ei phapurau ei hunan, a phapurau'r teulu, 'i'w cadw... yn y gobaith y gallant fod o ddiddordeb i'r oesodd i ddod'. Er eu bod yn bresennol yn ei hangladd, ni fu'n bosibl gwireddu dymuniadau'r ewyllys ar gyfer y ddau fab, fodd bynnag: bu farw'r hynaf ar 13 Mai 1915 a'i frawd ar 7 Gorffennaf 1916, y ddau yn gwasanaethu'r fyddin Brydeinig yn Ffrainc.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-03-19
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.