Ganwyd John Philips ar y 30 Mai 1860 yn y Ficerdy, Warminster, swydd Wiltshire, yn fab hynaf Syr James Erasmus Philipps, 12feg Barwnig, ficer Warminster, a Mary Margaret Best. Etifeddodd Syr James y farwnigaeth fel disgynnydd Hugh Philipps, ail fab Syr John Philipps, y barwnig cyntaf, ond yn ei ewyllys gorchmynnodd Syr Richard Philipps, Barwn Aberdaugleddau, y seithfed barwnig a fu farw ym 1823, Gastell Picton a'i ystâd enfawr allanol o'r ach wrywaidd i gefnder pell a gymerodd yr enw Philipps. Bu colli'r ystadau hyn yn achos cryn ddicter i Syr James a'i fab hynaf. Fel clerigwr, roedd Syr James yn egnïol ac etifeddodd ei feibion y rhinwedd hon.
John Wynford Philipps, y Wynford ar ôl brawd ei fam, Arglwydd Wynford, oedd yr hynaf o deulu o bum mab a phedair merch. Llwyddodd pob un o feibion Syr James, ar wahân i Albert Perrot, a fu farw yn ifanc, wneud gyrfaoedd llwyddiannus, a nodir tri ohonynt ar wahân mewn adroddiadau eraill, sef Syr Ivor Philipps ; Owen Cosby Philipps, Arglwydd Kylsant; a Laurence Richard Philipps, Barwn 1af Aberdaugleddau. Bu ei deulu mawr yn faich ariannol ar Syr James; danfonwyd ei ddau fab hynaf, John ac Ivor ym 1873 i ysgol Felstead, a gynigai ffioedd gostyngol i feibion clerigwyr. Fel y mab hynaf caniatawyd i John fynychu Coleg Keble, Rhydychen, lle y graddiodd, trydydd dosbarth ym 1882, mewn hanes modern. Wrth ei baratoi ei hun am y bar yn y Middle Temple safodd fel ymgeisydd plaid Ryddfrydol Gladston yn etholaeth Devizes, yn swydd Wiltshire, ym 1886 ond collodd yn drwm yn erbyn ymgeisydd Torïaidd. Galwyd ef i'r Bar ym 1886.
Ar 14 Chwefror 1888, yn Eglwys y Plwyf Sant Marylebone, priododd Philipps Leonora Gerstenberg , un o ddwy ferch amddifad a etifeddodd ffortiwn ar ôl eu tad, Isidore Gerstenberg, sefydlydd y Corporation of Foreign Bondholders, a oedd yn gwarchod buddiannau deiliaid Prydeinig o fondiau tramor. Adeg ei phriodas roedd ffortiwn Leonara Gerstenberg wedi tyfu i tua £100,000. Ddeufis wedi ei briodas llwyddodd Philipps i ennill isetholiad yn etholaeth Mid Lanarkshire; cynorthwyodd ei frawd Owen, a weithiai mewn swyddfa llongau yn Glasgow, ac a oedd yn weithgar yn y Blaid Ryddfrydol, iddo gael yr enwebiad. Daeth Keir Hardie yn drydydd gwael yn yr etholiad hwn. Pan ddaeth yr etholaeth yn wag roedd Philipps ar ei fis mêl yn Tangier; rhuthrodd i'r etholaeth, nad oedd wedi ymweld â hi erioed o'r blaen, a llwyddodd i ennill yr enwebiad Rhyddfrydol yn erbyn cystadleuaeth gref a chynyddodd fwyafrif y blaid yn yr etholiad. Cadwodd ei sedd yn etholiad cyffredinol 1892 ond ymddiswyddodd ym Mai 1894.
Ym 1890 ymunodd Philipps â bwrdd y Government Stocks & Other Securites Investment Company, ymddiriedolaeth buddsoddi cynnar, a oedd, ymhen ychydig fisoedd, yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd yn argyfwng difrifol ym Manc Barings. Er ei fod yn ifanc, apwyntiwyd Philipps yn gadeirydd ac achubodd y cwmni o'i drafferthion. Arweiniodd y llwyddiant hwn i'w benodiad yn gyfarwyddwr Cwmni Buddsoddi Omnium a daeth yn gadeirydd arno o fewn blwyddyn; ymddiriedolaethau eraill lle'r oedd ganddo lais dylanwadol oedd y Premier Investments and Consolidated Trust. Trwy'r ymddiriedolaethau hyn gallai Philipps gynorthwyo diddordebau llongyddol ei frawd Owen, ac adeiladu gyrfaoedd busnes ei frodyr eraill, Ivor , Lawrence a Bertram.
Yn ystod y 1890au, buddsoddodd Philipps yn drwm yn rheilffyrdd America Ladin, trwy Gwmni Rheilffordd Costa Rica a chwmni'r Buenos Ayres and Pacific Railway.
Yn yr Ariannin, yr ymwelodd â hi o leiaf bum gwaith, ef oedd yn gyfrifol am ymestyniad mawr ar y trac. Trwy Gwmni Rheilffordd Buenos Ayres a Pacific, enillodd Philipps reolaeth ar nifer o gwmnïau rheilffordd llai, nid trwy gyfuno'r cwmnïau ond trwy gytundebau i weithredu cyfrifon cyfalaf y cwmnïau bychain, ac ymhen amser rheolai rwydwaith o tua 2,500 o filltiroedd. Y flaenoriaeth i Philipps yn ystod yr deunaw mlynedd ar hugain y bu'n gadeirydd y rheilfordd oedd gwerth y cyfranddaliadau yn hytrach na'r gwaith manwl a llafurus o adeiladu cwmni rheilffordd integredig. Dangosodd Philipps yr un diffyg sylw i fanylion rhedeg cwmni pan fuddsoddodd yn y diwydiannau sment. Ffurfiodd Henry O'Hagan, ffigur sylweddol yn y Newidfa Stoc yr Associated Portland Cement Manufacturies Cyf. er mwyn cymryd drosodd gwmnïau sment bychain. Yn hydref 1910, sylwodd O'Hagan fod cyfranddaliadau £10 y cwmni, a oedd wedi disgyn i £1, yn cael eu masnachu yn egnïol a bod y pris wedi cyrraedd £4; yr oedd y prynwyr anhysbys wedi prynu tri chwarter y cyfranddaliadau. Philipps oedd y tu ôl i'r pryniad ac addawodd O'Hagan fod dwy filiwn o bunnoedd ar gael i gynyddu rheolaeth y cwmni ar y diwydiannau sment ac y byddai ganddo ryddid llwyr i redeg y cwmni ar yr amod y gwnaed Philipps yn gadeirydd. Roedd yn amlwg i O'Hagan nad oedd gan Philipps ronyn o ddiddordeb yn y diwydiannau sment ond fel buddsoddiad proffidiol. Arweiniodd y cyllid a roddwyd i O'Hagan i ffurfio'r British Portland Cement Manufactures Cyf. gyda Philipps yn gadeirydd. Pan oedd y ddau gwmni sment yn broffidiol safodd Philipps lawr fel cadeirydd. Canmolodd O'Hagan ef fel dyn a oedd wedi deall rheolaeth gyffredinol y cwmni ond yn gadael y materion technegol i'r arbenigwyr; daliasai at ei addewid i ryddhau'r cyllid angenrheidiol i osod y diwydiant sment ym Mhrydain ar sylfeini cedyrn a phroffidiol. Chwaraeodd ran yr un mor bwysig yn natblygiad y British Electric Traction Company Cyf., gweithredwyr a gwneuthurwyr tramiau a bysiau. Bu'r grŵp buddsoddi a arweiniwyd gan Philipps, a adweinid fel y '69 Old Broad Street Group' o rif ei gyfeiriad, yn hynod o lwyddiannus a gwnaeth Philipps yn ŵr cyfoethog.
Trwy'r cyllid a oedd at ei alw darparodd John Philipps gyfleoedd i'w frodyr i adeiladu eu gyrfaoedd busnes eu hunain: Roedd Ivor , Bertram a Laurence yn gyfarwyddwyr mewn cwmnïau yr oedd John Philipps wedi buddsoddi yn drwm ynddynt. Pan sefydlodd Owen Philipps gwmni llongau bychan, Philipps & Co, yn Glasgow yn 1888, estynnodd John Philipps gefnogaeth ariannol. O'r cwmni bychan hwn, adeiladodd Owen Philipps y Royal Mail Group, un o'r cwmnïau llongau mwyaf yn y wlad. Heb y cyllid buddsoddi a roddwyd gan John Philipps, mae'n amheus a fyddai Owen Philipps wedi gallu ei sefydlu ei hun mor gyflym yn ffigur allweddol yn y busnes llongau. Ar ôl y deng mlynedd cyntaf roedd Owen Philipps yn gwbl annibynnol o'i frawd, a chwalwyd y berthynas rhyngddynt yn y 1920au, gyda'r canlyniad nid oedd John Philipps yn gefnogol pan wynebodd ei frawd argyfwng difrifol ar ddechrau'r 1930au. Priodoliwyd y gwahaniaethau rhyngddynt naill ai am fod Owen Philipps wedi ymuno â'r Blaid Dorïaidd ym 1916 neu i'r ffaith ei fod yn gyfeillgar â Syr Henry Erasmus Philipps o Gastell Picton. Bu'r rhwyg rhyngddynt mor llwyr fel na fynychodd John Philipps angladd ei frawd.
Fel eu tad, roedd y brodyr Philipps yn Rhyddfrydwyr yn wleidyddol. Pan enillodd John Philipps ei sedd ym Mid Lanarkshire nododd y Pall Mall Gazette ar 3 Gorffennaf 1893 ei fod yn mynd i ymroi ei hun yn gyfangwbl i weleidyddiaeth a'i ddisgrifio fel un gyda digonedd annaturiol o hunan-hyder a thafod ffraeth. Ymddiswyddodd Philipps ei sedd ym Mid Lanarkshire, efallai oherwydd bod sedd yn yr Alban yn angyfleus wedi i gwmni llongau ei frawd symud i Lundain. Er yn aelod yn yr Alban, roedd Philipps yn gyfranogwr diwyd yng ngwleidyddiaeth y blaid Ryddfrydol yng Nghymru a daeth yn agos at nifer o aelodau Cymreig y Blaid Ryddfrydol gan gynnwys Lloyd George. Yn y flwyddyn yr ymddiswyddodd o'i sedd yn yr Alban, adeiladodd Lydstep House ar arfordir Sir Benfro, nid nepell o Ddinbych-y-pysgod gyda golygfeydd nodedig i gyfeiriad Ynys Bŷr.
Roedd yn hysbys trwy gylchoedd Rhyddfrydwyr Cymru ym 1895 fod Philipps yn chwilio am sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf a chrybwyllwyd ei enw ym mhob sedd wag. Roedd yn un o ddau ymgeisydd am y sedd wag yn Sir Aberteifi ond tynnodd ei enw yn ôl ar y funud olaf. Ni safodd yn etholiad cyffredinol haf 1895. Er hynny, arweiniodd penodiad W. Rees Davies, aelod Rhyddfrydol Sir Benfro, yn Dwrnai Cyffredinol y Bahamas i gynnal isetholiad a enillwyd gan Philipps ar 25 Chwefror 1898, gyda chynnydd sylweddol yn y mwyafrif dros yr ymgeisydd Torïaidd. Safodd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1900 a daliodd afael ar y sedd ym 1906; etholwyd ei frodyr Ivor ac Owen i'r senedd y flwyddyn honno a thynnodd y ffaith fod tri brawd yn Nhŷ'r Cyffredin sylw'r wasg.
Roedd Philipps yn agos at Lloyd George a gwasanaethodd am lawer blwyddyn ar Gyngor Cymru o'r Blaid Ryddfrydol, yn gyntaf fel aelod ac yn ddiweddarach fel cadeirydd. Yn y 1920au a'r 1930au rheolai Philipps, fel cadeirydd, Gronfa Lloyd George, a ddarparai i'r cyn-brif weinidog gefnogaeth ariannol i'w weithgareddau gwleidyddol, yn annibynnol ar drefniadaeth y Blaid Ryddfrydol. Ni chynigwyd i Philipps swydd yn y Llywodraeth ond gwasanaethodd ar nifer o gyrff swyddogol; yn aelod o'r Bwrdd Buddsoddi o dan y Ddeddf Yswiriant; yn aelod o Fwrdd y Ffyrdd; a chadeirydd rhwng 1920 a 1932 o Bwyllgor Grantiau i'r Di-waith.
Tua 1990, prynodd Philipps Gastell Roch a'i adfer yn gartref iddo yn Sir Benfro. Degawd yn ddiweddarach adeiladodd dŷ arall, West Lodge, yn Lydstep. Ymddiswyddodd ym 1908 o'i sedd fel aelod Sir Benfro oherwydd afiechyd ac ar y 6 Gorffennaf gwnaed ef yn Barwn Tyddewi o Gastell Roch yn Sir Benfro. Gwnaethpwyd ef yn Arglwydd Raglaw Sir Benfro ym 1911; penodwyd ef yn aelod o'r Cyngor Cyfrin ym 1914; cael ei ddyrchafu'n Is-Iarll Tyddewi, o Lydstep Haven, yn Sir Benfro ym 1918 ac yn Farchog ym 1922. Fel aelod seneddol ac Arglwydd Raglaw roedd Philipps yn ddiwyd yn cyflawni'r swyddi dros Sir Benfro ac yr oedd yn mynnu tynnu sylw at wreiddiau hynafol ei deulu yn y sir.
Roedd Leonora, ' Nora ', Philipps, Arglwyddes Tyddewi, yn gryn ffigur ei hun, yn gefnogwraig gref dros hawliau merched ac yn siaradwraig alluog ar lwyfan. Yng Nghymru cymerodd ddiddordeb mewn llên gwerin, yr oedd yn adroddwraig a chwaraeai ran flaenllaw yn y Pasiant Cenedlaethol Cymreig ym 1909, a, chefnogai'r Eisteddfod Genedlaethol, bu'n Llywydd mewn cyngerdd yn ystod Eisteddfod y Fenni ym 1913. Dioddefodd Arglwydd Tyddewi dair ergyd ddifrifol yn y misoedd rhwng Mawrth 1915 a Gorffennaf 1916: Ar 31 Mawrth 1915 bu farw ei wraig mewn cartref nyrsio yn Llundain wedi iddi dderbyn llawdriniaeth a chladdwyd hi yn eglwys Roch; lladdwyd ei fab hynaf, Collwyn Erasmus Arnold Philipps yn Ffrainc ar 13 Mai 1915, ac ar 7 Gorffennaf 1916 lladdwyd ei unig fab arall, Roland Erasmus Philipps eto yn Ffrainc. Ail briododd Arglwydd Tyddewi yn Eglwys Sant Margaret, Westminster ar 27 Ebrill 1916 ag Elizabeth 'Betty' Margaret Rawdon-Hastings y cytunwyd iddi gan Dŷ'r Arglwyddi ym 1920 adfer barwniaethau hynafol Knokin, Hungerford a De Moleyns. Cafodd Arglwydd Tyddewi fab a merch o'i ail briodas; etifeddodd y mab, Jestyn Reginald Austen Plantagenet deitlau ei dad ac yn ddiweddarach deitlau ei fam.
Fel ei frodyr roedd Arglwydd Tyddewi yn wr tal, golygus gyda phersonoliaeth gref a hyderus. Bu farw yn ei gartref yn Buckingham Gate, Llundain ar 28 Mawrth 1938 a chladdwyd ef ar 31 Mawrth yn eglwys Roch yn Sir Benfro. Gadawodd ystad o £123,736 gros.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-24
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.