Ganwyd Ivor Philipps yn y Ficerdy, Warminster, swydd Wiltshire ar y 9fed o Fedi 1861, ail fab Syr James Erasmus Philipps a'i wraig Mary Margaret Best. Ceir adroddiad manylach ar y teulu yn yr erthygl ar ei frawd hynaf, John Philipps, Is-iarll 1af Tyddewi, a nodir dau frawd arall ar wahân mewn adroddiadau eraill, sef Owen Cosby Philipps, Barwn Kylsant a Laurence Richard Philipps, Barwn 1af Aberdaugleddau.
Cychwynnodd Ivor Philipps yng Ngholeg Felstead yr un pryd a'i frawd hynaf John, ond gadawodd ddwy flynedd o'i flaen ac ymunodd â milisia Wiltshire fel is-lifftenant yn Ebrill 1881. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar Fai'r 12 1883, cafodd ei ddyrchafu'n lefftenant yng Nghatrawd Manceinion, a oedd â'u canolfan, ar y pryd, yn yr India. Ymunodd â Byddin India yn 1884, a throsglwyddo i'r Bataliwn 1af 5ed Catrawd y Gurkha. Cymrodd Philipps ran yng nghyrch Byrma 1887-89, ac mewn nifer o ymgyrchoedd yn erbyn y llwythi ar ffin ogledd-orllewin India; yr oedd y cyrchoedd yma'n cynnwys Miranzai (1891), Chitral (1895), a Tirah (1897). Fe'i hanrhydeddwyd am ei wasanaeth ym mhob un o'r cyrchoedd yma.
Fel ei frodyr, yr oedd gan Philipps sgiliau gweinyddol da, ac fe'i hapwyntiwyd yn Ddirprwy Gadfridog cynorthwyol i Brif Swyddog Cyflenwi'r fyddin Brydeinig a anfonwyd i ryddhau'r cenhadon yn y gwarchae ar Beijing yn 1900. Fe'i hanrhydeddwyd a'r Urdd Gwasanaeth Nodedig (Distinguished Service Order) am ei wasanaeth yn ystod cyrch Tsieina. Dyrchafwyd Philipps i reng Capten yn 1894, ac eto yn 1901 i reng uwchgapten. Ymddeolodd o fyddin India ar yr 20fed o Orffennaf 1903, ac ar un waith cafodd gomisiwn fel uwchgapten gydag Iwmoniaeth Penfro; yr oedd yn gyrnol yng ngofal yr iwmoniaeth o 1908-1912.
Trwy ddylanwad ei frawd, John Philipps, cychwynnodd Ivor Philipps yrfa newydd fel cyfarwyddwr cwmni. Enwebodd John Philipps ei frawd yn gyfarwyddwr Cwmni Petroliwm Baku Rwsia yn 1905, ac o fewn blwyddyn, olynodd Ivor Philipps ei frawd yn gadeirydd y cwmni. Erbyn 1912 yr oedd yn gadeirydd a chyfarwyddwr ar bedwar cwmni ar ddeg. Yr oedd nifer o'r cwmnïoedd yma'n gysylltiedig â rhedeg planhigfeydd rwber, ac eraill, fel y 'King Line' yn cael eu rheoli gan ei frodyr.
Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, apwyntiwyd Philipps yn swyddog staffio cyffredinol, ail radd yn y Swyddfa Ryfel. Yr oedd wedi ei ddyrchafu yn is-gyrnol gan Iwmoniaeth Penfro yn Ebrill 1908. Ychydig ddyddiau ar ôl ei apwyntiad i'r Swyddfa Ryfel, fe'i dyrchafwyd i radd Brigadydd Gadfridog yn bennaeth milwrol ar y 115fed Brigâd. Yn gynnar ym 1915, dyrchafwyd Philipps i reng uwchfrigadydd a'i roi yng ngofal y 38ain Adran Arfog Gymreig. Yr oedd Philipps, er 1906, wedi bod yn un o ddau aelod Seneddol Rhyddfrydol yn etholaeth Southampton, ac mae'n debygol taw dylanwad David Lloyd George a sicrhaodd ei ddyrchafiad i'r 38ain Adran Arfog Gymreig, a oedd yn rhan o gynllun uchelgeisiol Lloyd George i greu 'byddin' Gymreig.
Cyn iddo gychwyn ar wasanaeth gweithredol, fe'i galwyd i gynorthwyo Lloyd George yn y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel. Fe'i hapwyntiwyd yn Ysgrifennydd Seneddol (Milwrol) i'r Weinyddiaeth ar 18 Mehefin 1915 ac, yn dilyn diswyddiad sydyn Sir Percy Girouard, y Cyfarwyddwr Cyffredinol Cyflenwi Arfau Rhyfel, gan Lloyd George, bu am gyfnod byr yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros dro.
Galwyd Philipps yn ei ôl i reoli'r 38ain Adran ym Medi 1915, a gadawodd, yng nghwmni Gwilym Lloyd George fel ei gadweinydd, am Ffrainc yn Rhagfyr. Yn ystod Brwydr y Somme gorchmynnwyd Adrannau'r 17eg a'r 38ain i ymosod ar Goedwig Mametz. Cychwynnodd yr ymosodiad ar 7 Gorffennaf 1916. Am 11 a.m. ar y 9 o Orffennaf, diswyddwyd Philipps o'i reolaeth oherwydd, yn ôl y Cadfridog Haig, ei ddiffyg 'ymdrech'. Diswyddwyd rheolwr yr 17eg yr un pryd. Mewn gwirionedd, nid oedd gan Philipps unrhyw ryddid i weithredu fel rheolwr Adran y 38ain am iddo gael ei orchymyn i ddilyn yn union orchmynion pencadlys y XV Corps a byddai unrhyw wyriad wedi ennyn sylw ar unwaith. Yr oedd cryn ddicter yn erbyn Philipps ymysg yr uwch swyddogion milwrol fel gwr a oedd ganddo gysylltiadau gwleidyddol ac a oedd wedi ymddeol o Fyddin India yn uwchgapten, ond a oedd yn awr yn uwchfrigadydd. Yn anffodus, cysylltwyd y sen anghyfiawn a osododd y clecs milwrol ar Philipps, ar ymddygiad y fyddin Gymreig a oedd dan ei ofal. Parhaodd brwydr Coedwig Mametz o'r 7-12 o Orffennaf, a dioddefodd yr Adran golledion trwm mewn amgylchiadau anodd a chaled, wrth orfodi'r milwyr Almaeneg profiadol i gilio am filltir. Penodwyd Philipps yn 'Knight Commander of the Order of the Bath' am ei wasanaeth yn ystod y rhyfel.
Er iddo aros yn Aelod Seneddol tan 1922, neilltuodd Philipps weddill ei fywyd i'w yrfa ym myd busnes. Elwodd dau gwmni, yn arbennig, o'i sgiliau gweinyddol neilltuol. Fe'i hapwyntiwyd yn gyfarwyddwr Schweppes, y cwmni dwr mwynol yn Chwefror 1914, a oedd mewn cyflwr gwael oherwydd diffyg cyfalaf ac anghydfod rhwng y cyfarwyddwyr. Gadawodd Philipps y bwrdd yn ystod y rhyfel, a'r cwmni'n parhau i lesgáu. Ym mhen hir a hwyr, yn gynnar yn 1919, gwahoddwyd Philipps yn ôl fel cadeirydd y bwrdd, a dros y ddau ddegawd nesaf adferodd dynged y cwmni. Yr oedd ei ddull yn geidwadol wrth iddo adeiladu cronfa wrth gefn a dargyfeirio adnoddau i ddatblygiadau newydd yn hytrach na thalu arian allan mewn buddrannau. Parhaodd Philipps yn gadeirydd y cwmni tan ei farwolaeth.
Y cwmni arall y gwnaeth Philipps ei adfer oedd Ilford, gwneuthurwyr offer ffotograffiaeth. Yr oedd Ilford mewn cystadleuaeth â Kodak, cwmni Americanaidd, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ond yn wahanol i Kodak, nid oedd Ilford wedi mabwysiadu'r dechnoleg newydd o ffilmiau rholyn. Er i Philipps ddod yn gadeirydd Ilford yn 1905, ni chyflawnwyd llawer cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd i'r cwmni yn 1921, a chychwyn ar raglen o gyfuno nifer o gynhyrchwyr offer ffotograffig gyda chwmni Ilford, ac, ar yr un pryd, ddatblygu i gynhyrchu ffilmiau rholyn. Daeth Ilford, fel Schweppes, yn gwmni effeithlon a phroffidiol o dan arweiniad Philipps.
Ymgartrefodd Philipps yn Cosheston Hall, nid nepell o dref Penfro wedi iddo ymddeol o fyddin India. Bu'n henadur ar Gyngor Sir Penfro, ac yn dal swyddi Cadeirydd y Cyngor Sir a Chadeirydd y Pwyllgor Priffyrdd. Yr oedd hefyd yn Ynad Heddwch. Ym 1928, prynodd Philipps Gastell Penfro, a oedd mewn cyflwr truenus. Gyda'i egni nodweddiadol, cychwynnodd ar raglen helaeth a gofalus o adfer, ac i ryw raddau ail-adeiladu, sydd wedi ei gymeradwyo a hefyd ei feirniadu. Yr oedd trigolion Penfro yn falch, ac fe'i gwnaethpwyd yn rhyddfreiniwr y dref.
Fel ei frodyr, yr oedd Ivor Philipps yn ddyn tal ac ymddangosiad trawiadol. Priododd Marian Isobel 'Mabel' Mirrlees, merch James Buchanan Mirrlees, gwr busnes blaenllaw o Glasgow, yn Eglwys Esgobol y Santes Fair, Glasgow, ar 9 Medi 1891. Bu iddynt un ferch. Bu Ivor Philipps farw yn yr Empire Nursing Home, Sgwar Vincent, Llundain ar 15 Awst 1940. Yn dilyn gwasanaeth angladd breifat, cynhaliwyd gwasanaethau coffa iddo am 2.15 pm ar Awst 21 yn Eglwys y Santes Fair, Penfro ac yn Eglwys Sant Mihangel, Cornhill, Llundain. Bu Mabel Philipps farw ar 3 Gorffennaf 1945, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Cosheston ar 7 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-12-21
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.