PHILIPPS, LAURENCE RICHARD, BARWN MILFORD y 1af. a'r barwnig 1af. (1874 - 1962), cymwynaswr gwlad, diwydiannwr, sbortsmon, ac aelod o un o hen deuloedd bonheddig amlycaf sir Benfro;

Enw: Laurence Richard Philipps
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1962
Priod: Ethel Georgina Philipps (née Speke)
Plentyn: Richard Hanning Philipps
Plentyn: Wogan Philipps
Plentyn: John Perrot Philipps
Rhiant: Mary Margaret Philipps (née Best)
Rhiant: James Erasmus Philipps
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cymwynaswr gwlad, diwydiannwr, sbortsmon, ac aelod o un o hen deuloedd bonheddig amlycaf sir Benfro;
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Perchnogaeth Tir; Dyngarwch; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: David John Griffiths

Ganwyd 24 Ionawr 1874, yn 6ed mab y Canon Syr James Erasmus Philipps, 12fed barwnig o Bicton, a'r Anrhydeddus Mary Margaret Best, merch yr Anrhydeddus y Parchg. Samuel Best. Yn dilyn ei addysg yn ysgol Felsted a'r Royal School of Mines fe ganolodd ei yrfa ar y fasnach fôr, ac ymhen amser daeth yn gadeirydd y Court Shipping Line a gychwynnwyd ganddo ef ei hun. Yr oedd yn aelod o Lloyd's, yn gyfarwyddwr i amryw o gwmnïau o fri fel Schweppes Ltd ac Ilford Ltd a bu ar un adeg yn gadeirydd y Northern Securities Trust Ltd.

Codwyd ef yn farwnig yn 1919 ac yn farwn yn 1939, y trydydd o'r teulu i'w ddyrchafu i'r bendefigaeth o fewn yr un genhedlaeth, ac yntau'n frawd i John Wynford Philipps (1860 - 1938), Is-iarll S. David's y 1af, ac Owen Cosby Philipps (1863 - 1937), barwn Kylsant. Bu'n gymwynaswr hael ei arian i Gymru, yn enwedig i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, trwy gyfrannu cronfa ddigonol yn 1919 i sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru a ddaeth bellach yn fyd-enwog ym meysydd bridio planhigion a gwyddor tir glas ac at hynny yn gyfrwng bendith amhrisiadwy er lles amaethyddiaeth y wlad. £10,000 oedd ei rodd ddechreuol i roi'r Fridfa ar ei thraed, gyda £1,000 y flwyddyn wedyn am y deng mlynedd nesaf at y costau cynnal a chadw. At hyn, yn 1944, derbyniwyd cyfraniad ganddo o £800 y flwyddyn am ddeng mlynedd i greu cadair ymchwil ' Cadair Milford yn Iechyd Anifeiliaid ' y bu perthynas agos rhyngddi a gwaith y Fridfa Blanhigion. I gydnabod ei haelioni galwyd y labordy cyntaf i'w godi yng nghanolfan newydd y Fridfa ym Mhlas Gogerddan wrth ei enw ef, ' Labordy Ymchwil Blanhigion yr Arglwydd Milford ', pan agorwyd ef yn 1955. Enghraifft bwysig arall o'i gymwynasgarwch oedd darparu ysbyty yn Rookwood, Llandaf, ar gyfer cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog yn dioddef o'r parlys.

Etholwyd ef yn ustus heddwch dros swydd 'Hants.' yn 1910, yn uchel sirydd yn 1915 ac yn ustus heddwch dros sir Faesyfed yn 1918. Bu'n aelod o Gyngor Coleg Aberystwyth, 1922-57, ac yn llywodraethwr oes, ac yn 1939 dyfarnodd Prifysgol Cymru iddo radd LL.D. er anrhydedd

Yr oedd yn fawr ei ddiddordeb mewn chwaraeon, yn arbennig mewn rasys ceffylau ac yn y gwaith o'u trefnu a'u gweinyddu. Dewiswyd ef i blith aelodau dylanwadol y Jockey Club, a bu'n berchen ar nifer o geffylau a enillodd wobrwyon iddo. Yn ddiweddarach yn ei oes cyflwynodd yr holl weithgareddau hyn i ofal ei drydydd mab, yr Anrhydeddus John Perrot Philipps.

Priododd yn 1901, Ethel Georgina, Ustus Heddwch, unig ferch Benjamin Speke, rheithor Dowlish Wake, swydd Somerset. Ganed iddynt bedwar mab ac un ferch. Bu farw 7 Rhagfyr 1962, a'i olynu gan ei fab hynaf yr Anrhydeddus Wogan Philipps . Ei ail fab, yr Anrhydeddus Richard Hanning Philipps, M.B.E., Y.H., oedd Arglwydd Raglaw sir Benfro 1958-74 ac wedi hynny Arglwydd Raglaw cyntaf sir newydd Dyfed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.