PHILIPPS, WOGAN 2il Farwn Milford (1902-1993), gwleidydd ac arlunydd

Enw: Wogan Philipps
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1993
Priod: Tamara Rust (née Kravets)
Priod: Cristina Philipps (née Casati Stampa di Soncino)
Priod: Rosamond Nina Runciman (née Lehmann)
Plentyn: Sarah Philipps
Plentyn: Hugo John Laurence Philipps
Rhiant: Ethel Georgina Philipps (née Speke)
Rhiant: Laurence Richard Philipps
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd ac arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd yn Manor House, High Street, Brentwood, swydd Essex, 25 Chwefror 1902, plentyn hynaf Laurence Richard Philipps (1874-1962) ac Ethel Georgina Speke (1879-1971). Gŵr cefnog iawn oedd Laurence Philipps, gyda diddordebau busnes mewn llongau ac yswiriant. Dyfarnwyd iddo farwnigaeth ym 1919 a'i greu yn farwn ym 1939 gyda'r teitl Barwn Milford, o Lanstephan yn sir Faesyfed. Yn aelod o deulu Philipps o Sir Benfro, dewisodd y teitl Milford ar ôl ei hynafiad, Richard Philipps o Gastell Picton a grëwyd yn Farwn Milford yn yr arglwyddiaeth Wyddelig. Dyrchafwyd dau o frodyr Laurence Philipps yn arglwyddi hefyd: John Wynford Philipps, Is-iarll cyntaf Tyddewi (1860-1938) ac Owen Cosby Philipps, Barwn Kylsant (1863-1937). Yr oedd trydydd brawd, yr Uwchfrigadydd Syr Ivor Philipps (1861-1940), yn filwr, gwleidydd a gŵr busnes. Ar ochr ei fam o'r teulu yr oedd yn or-nai i'r fforiwr Affricanaidd, Hanning Speke.

Codwyd Wogan Philipps mewn teulu cyfoethog a rannai eu hamser rhwng eu hamryw dai: Plas Llanstephan, Llys-wen, Sir Faesyfed; tŷ ger Berkeley Square yn Llundain; cartref arall ger y maes rasys yn Newmarket; ystâd ar gyfer hela a physgota yn Sutherland, yr Alban; a villa yn neheubarth Ffrainc. Cafodd ei addysg yn Eton a Choleg Magdalen, Rhydychen, lle bu'n astudio hanes am ddwy flynedd cyn i'w dad benderfynu mai defnydd di-fudd o amser oedd hynny. Wedi ei anfon i weithio gyda'r Comisiwn Coedwigo yn yr India, trawyd Philipps yn bur wael gan falaria. Wedi ei ddwyn yn ôl adref, gosodwyd ef mewn swydd yng nghwmni yswiriant ei dad, er nad oedd ganddo lawer o flas ar waith mewn swyddfa. Wedi'i orfodi gan ei dad i dorri dyweddïad anaddas, fe'i hanfonwyd ar wyliau ymlaciol i Dde America. Wedi dychwelyd ym 1925 gwrthododd ddychwelyd i'r busnes yswiriant. Fe'i danfonwyd gan ei dad i ddysgu'r busnes llongau at gwmni Walter Runciman yn Newcastle, cyfaill i'r teulu. Yr oedd ei fab, Leslie, yn ffrindiau agos â Wogan Philipps. Yr oedd Leslie Runciman newydd briodi â Rosamond Lehmann, ond yr oedd eu perthynas eisoes dan bwysau. Daeth Rosamond Runciman a Philipps yn gariadon a pharhaodd y berthynas wedi iddo ddychwelyd i Lundain ar ôl cwblhau ei gyfnod yn Newcastle. Ymhen amser, ysgarodd Leslie Runciman ei wraig a phriododd hi â Wogan Philipps mewn swyddfa gofrestru ar 21 Tachwedd 1928.

Mae Rosamond Philipps yn fwy adnabyddus fel Rosamond Lehmann, y nofelydd, a gyhoeddodd ei nofel gyntaf i ganmoliaeth uchel ychydig amser cyn ei hail briodas. Uchelgais mawr Philipps oedd bod yn arlunydd. Cytunodd Syr Laurence ym 1929 i noddi'i fab am ddwy flynedd, tra byddai'n ceisio'i sefydlu ei hun yn arlunydd. Yr un flwyddyn, ar 25 Awst, ganwyd i'r pâr ifanc, fab, Hugo John Laurence. Ymgartrefasant yn Ipsden, Swydd Rhydychen a ddaeth â hwy i gysylltiad â Lytton Strachey a chylch Bloomsbury. Cododd ffrae fawr rhwng Philipps a'i dad wrth i amynedd Syr Laurence ballu wedi iddo ymweld yn annisgwyl â stiwdio'i fab. Tramgwyddwyd ef gan ddarlun o fenyw noeth ac ysgrifennodd Syr Laurence lythyr ffyrnig at ei fab a derbyn ateb llawn mor ffyrnig yn ôl. Terfynodd Syr Laurence nawdd ei fab ac ymddiswyddodd Philipps fel cyfarwyddwr y cwmni llongau. Ar hyd ei fywyd, magodd yr awydd i fod yn arlunydd llwyddiannus ond yr oedd yr ymateb beirniadol i nifer o'i arddangosfeydd yn llugoer.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, teithiai Philipps yn eang; teithiodd trwy Gymru yng nghwmni Augustus John ac ymwelodd â Normandi, yr Adriatig, Gwlad Groeg a Sbaen. Fel nifer o'i ffrindiau ifanc ffasiynol, brwydrodd dros dorri'r Streic Gyffredinol ym 1926, ond fe'i darbwyllwyd gan weithwyr dociau yn Llundain am gyfiawnder eu hachos. At hyd y 1930au cynnar, trodd ei wleidyddiaeth yn fwy radical ac yr oedd yn gadarn ei gefnogaeth i'r achos Gweriniaethol pan dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen ym 1936. Gwirfoloddodd i gynorthwyo Cymorth Meddygol Sbaen a gyrrodd lori o gyflenwadau i Barcelona ym mis Chwefror 1937. Yng nghwmni Stephen Spender, aeth i Valencia, lle roedd yn gynorthwyydd meddygol yn ystod Brwydr Jarama. Yn ddiweddarach bu'n yrrwr ambiwlans i'r bataliwn Ffrengig-Belgaidd; cafodd ei glwyfo ar 7 Mai cyn dychwelyd adref. Rhoddodd Philipps ragor o gymorth gwerthfawr i'r llywodraeth Weriniaethol yn Sbaen, gan gytuno i gynorthwyo llongau Prydeinig wrth iddynt geisio torri'r gwarchae ar borthladdoedd Sbaen. Wedi gorchfygu'r Gweriniaethwyr ym Mawrth 1939 defnyddiodd Philipps ei wybodaeth am y fasnach longau er mwyn siartro SS Sinaia a aeth ag yn agos i 2000 o ffoaduriaid i Mexico.

Nid oedd y berthynas rhyngddo ef a'i deulu wedi gwella. Er gwaethaf genedigaeth merch, Sarah Jane ('Sally') ar 14 Ionawr 1934 yr oedd y berthynas rhwng Philipps a'i briod wedi dirywio ers peth amser. Bu carwriaeth nwydus rhwng Rosamond Lehmann a Goronwy Rees ac wedi hynny bu perthynas rhyngddi a'r bardd, Cecil Day-Lewis. Ar ddiwedd 1943, ysgarwyd Philipps a'i wraig. Yn fuan wedyn fe briododd ef â Cristina, cyn-wraig Iarll Huntingdon, merch y Marchese di Roma a'i wraig ecsentrig Luisa. Comiwnydd oedd hi a chyn-drysorydd Cymorth Meddygol Sbaen. Wedi'i gynddeirio o glywed bod ei fab wedi ysgaru a phriodi drachefn, dileodd Syr Laurence, Iarll Milford erbyn hyn, ei nawdd i'w fab am y tro olaf, gan gyhoeddi ei fod wedi'i ddiarddel.

Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, rhwystrwyd Philipps gan gyflwr ei iechyd rhag ymuno â'r lluoedd arfog; gwrthodwyd ef gan y Gwarchodlu Cartref, ond am resymau gwleidyddol, nid oherwydd ei iechyd. Ymunodd â'r Llynges Fasnachol Wrth-gefn, ond ni alwyd arno i wasanaethu. Trodd Wogan a Cristina Philipps at amaethyddiaeth gan brynu Butler's Farm, Colebourne, Cheltenham. Fe'i penodwyd yn olygydd ar Country Standard, papur y blaid Gomiwnyddol a daeth yn un o arbenigwyr y blaid ar amaethyddiaeth. Am gyfnod byr ef oedd yr unig aelod o Gyngor Dosbarth Gwledig Cirencester nad oedd yn Dori, nes i'r aelodau eraill ymgyrchu yn erbyn ei ail-ethol. Gweithiodd gyda changen Swydd Caerloyw o Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Amaethyddol, gan gystadlu yn etholiad 1950, fel ymgeisydd Comiwnyddol, yn etholaeth Cirencester a Tewkesbury, ond 473 pleidlais yn unig a gafodd.

Wedi i Cristina Philipps farw ym 1953, y flwyddyn ganlynol priododd â Tamara Rust, gweddw William Rust, golygydd y Daily Worker. Bu farw ei dad ar 7 Rhagfyr 1962; yn ei ewyllys nododd yn benodol y byddai unrhyw gomiwnydd neu gydymdeimlwr yn fforffedu unrhyw fudd yn yr ystâd. Dyrchafwyd Wogan Philipps yn ail Arglwydd Milford ond ei fab Hugo a fyddai'n etifeddu ystâd Llanstephan wedi marwolaeth ei fam-gu. Mae rhai ffynonellau yn y Blaid Gomiwnyddol yn haeru mai arweinydd y Blaid, Harry Pollitt a ddarbwyllodd yr Arglwydd Milford newydd i gymryd ei sedd yn Nhy'r Arglwyddi. Traddododd ei anerchiad cyntaf yn ystod y ddadl ar ail ddarlleniad y Mesur Arglwyddiaeth, gan ddadlau am ddileu Tŷ'r Arglwyddi yn llwyr. Y mae'n gonfensiwn fod y siaradwr sy'n dilyn un a wnaeth ei gyfraniad cyntaf yn ei longyfarch. Yr Arglwydd Attlee, y cyn Prif Weinidog a wnaeth hynny ag urddas, gan nodi mai yn Nhy'r Arglwyddi yn unig y gellid clywed llais y Blaid Gomiwnyddol, ac ychwanegu mai un o fanteision y gyfundrefn etifeddol oedd hynny. Drwy'r ugain mlynedd a ddilynodd, cyfrannodd Milford i ddadleuon ar ddiarfogi a materion rhyngwladol. Wedi ymddeol o ffermio ym 1984, symudodd i Hampstead. Galluogodd hyn iddo fynychu Tŷ'r Arglwyddi'n haws. Honnodd Arglwydd Milford ei fod yn cael ei anwybyddu yno, ond ei hiwmor yn unig oedd hyn. Roedd ysbryd cyfeillgar rhyngddo ef a'i gyd-aelodau. Dyn tal golygus, tra chwrtais oedd Arglwydd Milford yr oedd ei gyfeillion a'i gydnabod yn hoff iawn ohono; nid oedd yn cael ei ystyried yn ddyn arbennig o alluog. Bu farw 30 Tachwedd 1993 yn Fflat 2, 8 Lyndhurst Road, Hampstead, gan adael ystâd o £162,149. Trefnodd ei weddw arddangosfa o'i ddarluniau er cof amdano. Ei fab, Hugo Charles Laurence Philipps (27 Awst 1929 - 4 Rhagfyr 1999) a'i dilynodd yn drydydd Arglwydd Milford. Cafodd ei ferch, Sally, poliomylitis a bu farw'n ifanc ar 21 Mehefin 1957 pan oedd yn ymweld â Bali yn Indonesia; cyfansoddodd ei phriod, y bardd P. J. Kavanagh, y gerdd A Perfect Stranger (1966) er cof amdani.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-03-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.