PHILLIPPS, OWEN COSBY, Barwn Kylsant (1863-1937), perchennog llongau

Enw: Owen Cosby Phillipps
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1937
Priod: Mai Alice Magdalene Philipps (née Morris)
Rhiant: Mary Margaret Philipps (née Best)
Rhiant: James Erasmus Philipps
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog llongau
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: David Lewis Jones

Ganed 25 Mawrth 1863 yn Ficerdy Warminster yn swydd Wiltshire, yn drydydd mab y Parchg Syr James Erasmus Philipps a'i wraig, Mary Margaret Best. Ceir mwy o wybodaeth am y teulu yn y cofnod am ei frawd hynaf, John Philipps, Is-Iarll 1af Tyddewi; nodir dau frawd arall mewn mannau eraill, sef Syr Ivor Philipps a Laurence Richard Philipps, Barwn 1af Aberdaugleddau. Danfonodd Syr Erasmus ei drydydd mab i Goleg Newton yn Newton Abbot, Dyfnaint, sy'n awgrymu iddo feddwl bod Owen, a oedd â pheth nam ar ei leferydd, yn llai galluog na'i frodyr a fynychodd Goleg Felstead. Yn ddwy ar bymtheg cychwynnodd Owen Philipps brentisiaeth gyda Chwmni Dent, cwmni llongau yn Newcastle upon Tyne; ar ddiwedd ei brentisiaeth ym 1886, ymunodd â chwmni llongau Allan & Gow, Glasgow.

Gyda chymorth ei frawd, John Philipps, a oedd wedi priodi etifeddes gyfoethog, sefydlodd Owen Philipps ei gwmni ei hun, Phillipps & Co., ym 1888. Wedi clywed bod perchnogion y King Alfred am werthu eu rhan yn y llong, a oedd ar y pryd yn cael ei hadeiladu yn iard longau Blyth ym 1889, sefydlodd y brodyr y King Alfred Steamship Co., Cyf. i'w phrynu. Newidiwyd erthyglau'r cwmni yn fuan er mwyn caniatáu prynu llongau eraill, yn cynnwys y King Bleddyn, a lawnsiwyd ar 22 Ionawr 1894, gan eu chwaer yng nghyfraith, Mrs Ivor Philipps. Ym 1893 newidiwyd enw'r cwmni i King Line Cyf, a blwyddyn yn ddiweddarach symudodd Owen Philipps ei fusnes i Lundain lle gwelwyd ehangu pellach wrth i'r brodyr sefydlu cwmni'r Scottish Steamship ym 1896, y London Maritime Investment Co. ym 1897 a phrynwyd London & Thames Haven Petroleum Wharf ym 1898.

Ar ddechrau 1901 roedd cwmni'r Royal Mail Steam Packet mewn sefyllfa ariannol fregus a chychwynnodd y brodyr brynu cyfranddaliadau yn y cwmni. Ymhen dwy flynedd Owen Philipps oedd Cadeirydd y Royal Mail Steam Packet ac roedd hyn o fudd i John Philipps gan fod y cwmni yn masnachu â De America lle'r oedd ef yn ymwneud â rheilffyrdd. Erbyn hyn roedd gan Owen Philipps reolaeth ar nifer helaeth o longau masnach ac arweiniodd hyn i W.J. Pirrie o Harland & Wolff, yr iard longau ym Melfast, gynnig y byddai'n adeiladu llongau i Philipps ar bris cost, ar yr amod y byddai ei iard longau yn derbyn yr holl waith atgyweirio a chytundebau'r dyfodol. O'r amser hwnnw tyfodd cyfeillgarwch ar lefel busnes a phersonol rhwng Philipps a Pirrie, a barhaodd tan farwolaeth yr ail. Roedd Pirrie hefyd yn berchennog llongau ac ymunodd gyda Philipps i brynu Grŵp Elder Dempster, cwmni a oedd yn marchnata yn bennaf yn yr Affrig ac a werthwyd am bris rhesymol gan ysgutor y sefydlydd, Sir Alfred Lewis Jones, y bachgen o Gaerfyrddin a ddaeth yn berchennog llongau pwysig. Erbyn 1908, roedd Philipps yn ffigur pwysig yn y byd llongau, ac roedd wedi gwneud cwmni'r Royal Mail Steam Packet yn un proffidiol. Cydnabyddwyd ei lwyddiant trwy ei wneud yn farchog ym 1909.

Tra oedd yn yr Alban yr oedd Philipps yn weithgar mewn gwleidyddiaeth fel ysgrifennydd Cymdeithas Ryddfrydol Canol Glasgow. Roedd yn awyddus i fynd i Dŷ'r Cyffredin a safodd yn aflwyddiannus ym 1895 yn Rhanbarth Bwrdeistrefi Maldwyn, ac mewn is-etholiad yn Darlington ym Medi 1898. Methodd trwy ychydig o bleidleisiau i gael ei enwebu i fwrdeistrefi Caerfyrddin yn Ionawr 1899. Llwyddodd yn ei uchelgais ym 1906 pan etholwyd ei yn Aelod Rhyddfrydol Rhanbarth Penfro a Hwlffordd a chafodd beth cyhoeddusrwydd fel un o'r tri brawd a etholwyd i'r Senedd. Ailetholwyd ef yn etholiad 1910, ac ni safodd Philipps yn etholiad Rhagfyr 1910. Gadawodd y Blaid Rhyddrydol a safodd yn ddiwrthwynebiad ym 1916 dros y Torïaid yn etholaeth Caer a chadwodd y sedd mewn etholiad ym 1918. Cryfhaodd Philipps ei gysylltiadau â Chymru pan briododd Mai Alice Magdalene Morris o Coomb, Llangynnog, Sir Gaerfyrddin ar 16 Medi 1902; etifeddodd Mai Morris 5000 acer a thua £125,000 gan ei thad, Thomas Morris, aelod o deulu bancio cyfoethog yng Nghaerfyrddin. Prynodd Philipps Gastell Amroth, Sir Benfro ym 1904, ac ystad Plas Llanstephan ym 1920, a fu gynt yn eiddo i deulu Morris.

Fel y datblygodd ei fusnes llongau daeth Owen Philipps yn llai dibynnol ar gymorth ei frawd. Llwyddodd i ennill rheolaeth o'r Pacific Steam Navigation Co. ym 1910; y 50% weddill o Shire Line, Glen Line, a Lamport & Holt Cyf, y cyfan ym 1911; a'r Union Castle Line ym 1913. Roedd gan bob un o'r cwmnïau hyn nifer helaeth o longau. Mynegodd arbenigwyr yn y byd ariannol ac yn diwydiant llongau gryn amheuaeth am ddoethineb ariannu'r prynu trwy stoc dyledeb y byddai yn ofynnol talu llog penodol yn flynyddol.

Cafodd y mwyafrif o longau Grŵp y Royal Mail eu hawlio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chollwyd dros gant o longau yn y rhyfel. Anrhydeddwyd Phillipps â 'Grand Cross of the Order of Michael and George' mewn gwerthfawrogiad o'i wasanaeth yn ystod y rhyfel. Yn ei frys i ailadeiladu ei lynges, mynnodd fod y llongau newydd yn cael eu trosglwyddo iddo ym 1919-20, mewn cyfnod pan oedd costau iardiau llongau yn uchel oherwydd prinder yn sgil y rhyfel ac yr oedd llongau yn dal i gael eu hadeiladu ar gynlluniau'r cyfnod cyn y rhyfel.

Flwyddyn yn ddiweddarach gellid fod wedi prynu'r llongau hyn ar gynlluniau mwy cyfoes ar chwarter y pris. Yn gynnar ym 1919, cytunodd i brynu, gyda'r Arglwydd Inchcape o Grŵp P&O, 137 o longau masnach a oedd yn cael eu hadeiladu ar y pryd i'r llywodraeth. Credai Philipps y byddai yn hawdd eu gwerthu ond arweiniodd y lleihad mewn masnach i gostau cludo ddisgyn a bu rhaid iddo drosglwyddo dros saith deg o'r llongau hyn i'w lynges ei hun ar gost o tua phymtheg miliwn o bunnau. Codwyd y cyllid i gwrdd â'r gofynion hyn trwy fenthygiadau gan y cwmnïau o fewn Grŵp y Royal Mail a thrwy gynnig stoc dyledeb newydd. Cymerodd Philipps a Pirrie fantais o fenthygiadau banc yn cael eu gwarantu gan lywodraethau Prydain a Gogledd Iwerddon.

Yn ystod y rhyfel, parhaodd Philipps i brynu cwmnïau llongau: R.M.S.P (Meat Transports) Cyf. ym 1914; Moss S.S. Co. a Robert MacAndrew & Co. Cyf. ym 1916; Coast Lines Cyf., McGregor, Gow & Holland Cyf., Argentine Navigation Company Cyf., a John Hall JR & Co., ym 1917. Prynwyd pedwar cwmni arall ym 1919: J & P Hutchinson; Bullard King & Co.; David MacIver & Co. Cyf.; a Scottish Steamship Co. Cyf. Hwyliai llongau'r Grŵp Royal Mail holl gefnforoedd y byd. Bu parhad yr anawsterau yn y diwydiant llongau trwy gydol y 1920au cynnar yn rhwystr i Philipps brynu rhagor o gwmnïau llongau. Roedd yn brysur yn cynllunio ffyrdd newydd i gynyddu masnach, yn arbennig yn y llongau teithwyr. Ar 14 Chwefror 1923, llwyddodd yn ei uchelgais bersonol pan gafodd ei wneud yn Arglwydd, cymerodd y teitl Barwn Kylsant, o Gaerfyrddin sir Gaerfyrddin, ac Amroth, sir Benfro. Roedd Kylsant, Cilsant heddiw, yn arglwyddiaeth ganoloesol a ddelid gan y teulu Philipps. Y flwyddyn ddilynol, bu farw Pirrie ac ychwanegwyd at gyfrifoldebau Kylsant pan ddaeth yn gadeirydd Harland & Wolff, yr iard longau ym Melfast, a'r cwmni dur o'r Alban, David Colville & Son, a brynwyd ym 1920.

Er gwaethaf ei ymrwymiadau trwm, roedd Kylsant yn benderfynol o ehangu Grŵp y Royal Mail. Dechreuodd brynu cwmnïau llongau eilwaith ym 1925 gyda phryniad Cwmni British Motorship; dilynwyd hyn, flwyddyn yn ddiweddarach, gan bryniad cwmnïau Gwyddelig; Dundalk & Newry S.P.Co. a Michael Murphy Cyf. Roedd y pryniadau hyn yn ddibwys o'u cymharu â phrynu'r Oceanic Steam Navigation Co. oddi wrth International Mercantile Marine Co., cwmni Americanaidd, ar gost o saith miliwn o bunnau ym 1926-27. Roedd hyn yn gam poblogaidd iawn am fod Kylsant yn pwrcasu cwmni Prydeinig yn ôl o reolaeth Americanaidd, ac ni chafodd fawr ddim trafferth i godi'r arian. Ailenwyd ei gwmni newydd yn White Star Line.

Mewn busnes roedd Kylsant yn unbeniaethol ac yn tueddu i gymryd penderfyniadau fel cadeirydd y Grŵp Royal Mail heb gysylltu â'i gyd-gyfarwyddwyr. Roedd hefyd yn optimist a gredai y byddai amgylchiadau masnach byd yn gwella'n fuan. Roedd strwythur Grŵp y Royal Mail yn gymhleth, gyda chryn drawsberchnogi cyfranddaliadau lle'r oedd cwmni yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmnïau eraill o fewn y Grŵp. Roedd yr arfer yma yn galluogi Kylsant i gadw rheolaeth ar y Grŵp cyfan ac yn chaniatáu iddo, mewn ymgais i gadw hyder cyhoeddus yn y Grŵp, i symud cronfeydd wrth gefn o un cwmni i'r llall er mwyn cuddio colledion masnachu.

Wedi 1926, wynebai Kylsant anawsterau cynyddol wrth ad-dalu benthygiadau'r llywodraeth ar y dyddiadau penodedig. Ni welwyd y gwelliant yn y fasnach byd, ac yr oedd cystadleuaeth gynyddol o du cwmnïau tramor, yn arbennig gan yr Almaen a'r Japaneaid, yn gwneud masnachu yn anodd i Grŵp y Royal Mail. Er gwaethaf hyn prynodd Kylsant ddau gwmni arall ym 1928: y cwmni Albanaidd, David MacBrayne Cyf., a'r Australian Commonwealth Line. Gellir gweld, o edrych yn ôl, y buasai'n well petai Kylsant wedi resymoli'r Grŵp yr adeg hon ond roedd yn dal yn optimistaidd am y dyfodol.

Daeth yr anawsterau yn y Grŵp, yn arbennig Hartland a Wolff, i sylw'r llywodraeth pan wnaeth Kylsant gais am estyniad pum mlynedd i warant y llywodraeth i fenthyciad mawr gan Fanc y Midland. Gwrthodwyd y cais a dim ond traean o'r taliad nesaf a wnaed ar y dyddiad penodol ac ar ôl cryn drafodaeth addawyd y gweddill o fewn pum mis. Roedd y Grŵp wedi ei greu, i bob pwrpas, ar sail stoc dyledeb, a oedd yn golygu taliadau blynyddol ar log penodol. Ymddiriedolwr y stoc 5% oedd Arglwydd Tyddewi ac roedd y berthynas rhwng y ddau frawd wedi bod ddrwg ers peth amser. Fel Rhyddfrydwr teyrngar, roedd Arglwydd Tyddewi yn ddig fod ei frawd wedi ymuno â'r Blaid Dorïaidd a'i fod wedi ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn aelod dros Gaer ym 1916. Efallai i'r anghydweld rhwng y ddau frawd gael ei waethygu ymhellach gan berthynas gyfeillgar Kylsant gyda'r teulu a berchnogai Gastell Picton. Pan gyhoeddwyd cyfrifon y Royal Mail Steam Packet Co. ym 1928 ychwanegodd yr archwiliwr yr un amodau ag yn y blynyddoedd blaenorol. Gofynnodd Arglwydd Tyddewi am gael cyfweld yr ymchwiliwr ond fe'i gwrthodwyd, a gwrthododd yntau drafod y sefyllfa gyda Kylsant. Daeth y cweryl rhwng y ddau frawd i sylw'r cyhoedd ym 1929, wrth i Arglwydd Tyddewi adrodd mewn nodyn i'r cyfranddalwyr nad oedd wedi cael caniatâd i siarad â'r archwiliwr ac nad ymgynghorwyd eg af ynglŷn â'r ddwy filiwn o bunnau a godwyd yn ychwanegol ym 1928 trwy gynnig 5% rhagor o stoc dyledeb. Syrthiodd gwerth cyfranddaliadau'r Grŵp yn llym a dechreuwyd amau ei sefydlogrwydd.

Mynegodd y Trysorlys a Banc Lloegr bryder am sefyllfa Grŵp y Royal Mail. Dyma'r cwmni llongau mwyaf yn y byd ar y pryd a byddai ei fethiant yn gwaethygu sefyllfa economaidd ddifrifol. Nid oedd Kylsant wedi gwella'r sefyllfa wrth lwyddo i gael caniatâd ei gyd-gyfarwyddwyr ym 1928 i gynnig 5% o stoc dyledeb newydd i fyny at filiwn a hanner o bunnoedd. Roedd Arglwydd Tyddewi yn gandryll am y datblygiad hwn a mynegodd i'r cyfarwyddwyr ei fwriad i ymddiswyddo fel ymddiriedolwr ar y stoc 5%. Erbyn hyn roedd y llywodraeth wedi cael braw ynghylch y sefyllfa a'r ffaith ei bod wedi methu cael darlun clir o rwymedigaethau'r cwmni oherwydd ffordd ddi-hid Kylsant o drin y Grŵp cyfan wrth drafod elw, colledion a rhwymedigaethau. Penododd y llywodraeth ar 19 Rhagfyr 1929 Syr William McLintock, cyfrifydd blaenllaw, i archwilio sefyllfa ariannol y Grŵp. Ymhen dau fis dangosodd yr ymchwiliad bod gan y cwmni rwymedigaethau o tua thri deg miliwn o bunnau. Parhaodd Kylsant yn gadeirydd y Grŵp tan 19 Tachwedd 1930 pan gymerodd ysbaid o'i gyfrifoldebau. Yr oedd ei bwerau wedi'u cwtogi ym Mehefin a Gorffennaf 1930 pan drosglwyddwyd y rheolaeth gyllidol, gyda pheth anhawster, i Ymddiriedolwyr Pleidleisiol a apwytiwyd gan y banciau. Cawsai hyder y cyhoedd ergyd ddifrifol pan ymddiswyddodd Arglwydd Tyddewi o'r diwedd fel ymddiriedolwr y stoc dyledeb 5% ar 14 Ebrill.

Ar 27 Chwefror 1931 gadawodd yr Arglwydd a'r Foneddiges Kylsant am ddeufis o wyliau yn Ne Affica. Daethai sefyllfa Grŵp y Royal Mail yn fater o ymddadlau cyhoeddus pan gyfaddefodd McLintock mewn cyfarfod o ddeiliaid stoc dyledeb yn y Royal Mail Steam Packet Company nad oedd y cwmni wedi bod yn masnachu gydag elw dros nifer o flynyddoedd, er i fuddrannau gael eu talu yn gyson i gyfranddeiliaid. Datgelodd y newyddiadurwyr a oedd yn bresennol y datganiad hwn gyda pheth gofal ond yr oedd y sylwadau yn Nhy'r Cyffredin yn fwy cignoeth ac yn cynnwys y gair 'twyllodrus'. Yn fuan wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica, cyhuddwyd Kylsant o dan gymal 28 o Ddeddf Lladrad 1861 iddo gyhoeddi datganiadau anwireddus o gyfrifon cwmni y Royal Mail Steam Packet am 1927 a 1928. Cyhuddwyd Harold J. Morland, archwiliwr y cwmni, o'r un drosedd. Pan ymddangosodd y ddau yn Llys Heddlu y Mansion House o flaen yr Arglwydd Faer yn Brif Ynad, cyflwynwyd cyhuddiad ychwanegol yn erbyn Kylsant ei fod wedi cyhoeddi prospectws ar 29 Mehefin 1928 a oedd yn cynnwys gwybodaeth anwireddus. Gan i'r Arglwydd Faer wrthod derbyn rhai cwestiynau, gadawodd cwnsel ar y ddwy ochr y llys ac yr oedd y ddau ddiffynnydd yn gallu dal yn ôl eu hamddiffyniad. Trosglwyddwyd yr achos i Lys Troseddau Canol yr Old Bailey. Cychwynnodd yr achos ar 20 Gorffennaf 1931 ac wedi naw niwrnod cafwyd y ddau yn ddieuog gan y rheithgor ar y ddau gyhuddiad o baratoi cyfrifon ffals, ond bod Kylsant yn euog o gyhoeddi prospectws yn cynnwys gwybodaeth ffals. Dyfarnwyd ef i ddeuddeng mis o garchar. Wedi un noson yn y carchar caniatwyd mechnïaeth i Kylsant nes gwrando'r apêl. Gyda'r Foneddiges Kylsant gadawodd ar ei union am Coomb.

Gwrandawyd ei apêl yn y Llys Apêl ar 2 Tachwedd 1931. Gwrthodwyd yr apêl a chymerwyd ef i garchar Wormood Scrubs lle y caniatawyd iddo weithio yn y llyfrgell a chael derbyn bwyd o tu allan y carchar. Ar 18 Awst 1932, diwrnod ei ryddhau, cyrhaeddodd y Foneddiges Kylsant glwydi'r carchar mewn modur salŵn am saith o'r gloch y bore a chludo Kylsant i 22 Heol Down, eu cartref yn Llundain. Ychydig funudau cyn naw o'r gloch teithiasant i Gymru. Wrth agosáu at Coomb tynnwyd y car gan ddeugain o ddynion ar eu rhedeg i'r clwydi lle'r oedd Ficer Llanybri wedi codi bwa o lawryf a dail bytholwyrdd gyda'r arwydd 'Welcome home' mewn coch llachar.

Teimlai Syr Patrick Hastings, y cyfeithiwr o fri a amddiffynnodd Morland, ynghyd â golygydd yr Economist ac eraill, i Kylsant gael ei gosbi yn rhy lym am gamgymeriadau technegol. Wedi ei ddyfarnu yn euog, adolygwyd arferion archwilio a chyfrifiaeth a'u diwygio yn Neddf Cwmnïau 1948 i rwystro arferion ariannol gwael Kylsant rhag digwydd eto. Roedd Kylsant yn hoff o deitlau ac anrhydeddau; mor ddiweddar ag 1929, lobïodd yn llwyddiannus i sicrhau'r teitl di-ystyr Is-Lyngesydd Gogledd Cymru a Chaerfyrddin. Pan ddedfrydwyd i garchar, ymddiswyddodd fel Arglwydd Rhaglaw Sir Tref Hwlffordd, anrhydedd a fu yn eiddo iddo er 1924. Gollyngodd hefyd ei anrhydeddau fel G.C.M.G. a 'Knight of Justice, Order of St John of Jerusalem'. Pan geisiodd ymddiswyddo o'i glybiau gwrthodwyd ei gais yn gadarn. Ymhen y flwyddyn, dychwelodd i'r bywyd cyhoeddus ar 14 Chwefror 1933 pan gymerodd y llw ac eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Yr oedd Kylsant yn aelod defosiynol ar ochr Eingl-gatholig Eglwys Loegr, safbwynt yr oedd wedi ei etifeddu gan ei dad. Am flynyddoedd lawer gwasanaethodd yn warden eglwys yn eglwys Sant Ioan, Clerkwell, ardal ddifreintiedig yn Llundain, a sicrhau swyddi yn ei gwmnïau i ddynion ifainc tlawd o'r plwyf. Er ei ymrwymiadau busness trwm gwasanaethodd yn gadeirydd Pwyllgor Ariannol yr Eglwys yng Nghymru. Yn ôl y Barnwr enwog, yr Arglwydd Atkin, yr oedd gan yr Eglwys yng Ngymru ddyled diolchgarwch enfawr iddo am lwyddiant y buddsoddiadau a wnaed ar ei gyngor ef yn dilyn datgysylltiad yr Eglwys. Yr oedd Kylsant yn ffigur amlwg yn ffurfio Priordy Cymru o Urdd Sant Ioan o Jerwsalem a sefydlwyd yng Nghaerdydd ar 1 Mawrth 1918. Fel Is-Brior, dadleuodd yn llwyddiannus dros gael ymreolaeth i'r Priordy yng Nghymru o fewn Urdd Sant Ioan. Wedi gadael y Blaid Ryddfrydol am y Torïaid, creodd Kylsant Gyngor Ceidwadol ac Unoliaethol Cenedlaethol Cymru a Sir Fynwy.

Kylsant oedd y talaf o'r pum brawd; roedd yn 6 troedfedd 7 modfedd, gyda llond pen o wallt gwyn yn ei henaint. Yn ystod ei fywyd cyhuddwyd ef o draha, ac nid oes amheuaeth nad oedd yng ngweinyddiaeth ei gwmniau yn unbeniaethol ac yn dibynnu yn ormodol ar ei wybodaeth a'i arbenigedd ei hun. Eto, ysbrydolai deyrngarwch mawr, ac yn dilyn yr ysgrif goffa iddo yn y Times cafwyd teyrngedau cynnes iddo gan dri o'i gyfeillion. Yr oedd gan yr Arglwydd a'r Fonesig Kylsant dair o ferched. Hunodd yn dawel yn ei gwsg yn Coomb ar 5 Mehefin 1937 a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys Llangynog ar 10 Mehefin. Arweiniodd Esgob Tyddewi y clerigwyr a oedd yn bresennol yn y gwasanaeth. Ni fynychodd ei frawd, Is-Iarll Tyddewi, yr angladd. Gadawodd Kylsant ystad o £116, 137; brwydrodd y Fonesig i ddiogelu peth o'i gyfoeth tra oedd ei phriod yn y carchar.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.