DE SAEDELEER, ELISABETH (1902 - 1972), artist tecstiliau

Enw: Elisabeth de Saedeleer
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1972
Rhiant: Clementina de Saedeleer (née Limpens)
Rhiant: Valerius Victor Emiel Marie de Saedeleer
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: artist tecstiliau
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Caterina Verdickt

Ganwyd Elisabeth de Saedeleer ar 17 Awst 1902 yn Sint Martens Latem, pentref ger Ghent yng Ngwlad Belg, yr ail o bump o ferched yr arlunydd Valerius de Saedeleer (1867-1941) a'i wraig Clementina (g. Limpens, 1867-1930). Yn ddeuddeg oed, yn fuan wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ymadawodd Elisabeth a'i theulu gyda Gustave van de Woestijne (1881-1947) a George Minne (1866-1941) and their families via Ostend to Wales a'u teuluoedd a theithio trwy Ostend i Gymru. Gwahoddwyd yr arlunwyr Belgaidd hyn i Aberystwyth gan y teulu Davies o Llandinam: David, Gwendoline a Margaret Davies. Yn wahanol i'r cymorth elusennol, digynllun gan amlaf, a roddwyd i artistiaid o Wlad Belg mewn rhannau eraill o'r DU yn ystod y rhyfel, roedd yr achos hwn yn rhan o bolisi diwylliannol pwrpasol, sef ymgais i gyfoethogi byd celf Cymru trwy groesawu artistiaid estron profiadol.

Ymgartrefodd Elisabeth a'i theulu mewn tŷ o'r enw 'Tynlon' yn Rhydyfelin ger Aberystwyth. Dechreuodd y tad weithio'n syth ac ymsefydlu'n fuan yng nghylchoedd celf Aberystwyth. Roedd cefnogaeth y teulu Davies yn sicr yn llesol i'r artistiaid o Wlad Belg, ac fe gafodd effaith anuniongyrchol ar eu gwaith. Roedd hyn yn arbennig o wir am ferched Valerius de Saedeleer, Marie ac yn enwedig Elisabeth, a ddysgodd wau yng Nghymru. Gwnaethant eu gweithiau cyntaf ar sail darluniau gan eu tad, a weithredodd fel eu dylunydd personol. Roedd prinder arian yn destun pryder cyson i'r teulu, a phan fu i Valerius gwrdd ag un o gyn-weithwyr William Morris, awgrymodd hwnnw y dylai ei ferched ymgymryd â gwau. Byddai merched yn aml yn rhan o'r broses greadigol yng nghylchoedd William Morris, yn groes i arfer gyffredin y cyfnod o'u cau allan o waith proffesiynol. Yn ôl un ffynhonnell, roedd Valerius wedi breuddwydio am sefydlu 'atelier' ers pan oedd ei ferched yn ifanc iawn. Ei nod oedd adfywio crefft hynafol gwau tapestrïau a disgwyliai i'w ferched fod yn rhan o'r fenter. Mae'n bosibl fod Elisabeth wedi cael peth hyfforddiant hefyd gan May Morris, merch William, gan fod y ddwy'n bendant yn adnabod ei gilydd.

Yn y pen draw symudodd y teulu de Saedeleer yn ôl i Wlad Belg yng ngwanwyn 1921, gan ymgartrefu yn Etikhove ac enwi eu tŷ yn 'Villa Tynlon' ar ôl eu cartref yng Nghymru. Aethant ati i sefydlu eu stiwdio Celfyddyd a Chrefft eu hun yn Etikhove, a ddaeth yn ganolfan ar gyfer technegau gwau modernaidd yng Ngwlad Belg, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgasent yng Nghymru. Elisabeth a gymerodd y llyw yn y gweithle, gan drosglwyddo'r dyluniau i'r maint angenrheidiol a phaentio'r cardiau samplau ei hun. Yn nyddiau cynnar y stiwdio, cynhyrchodd dapestri, nwyddau bwrdd, dillad a ffabrig dodrefnu. Mae ei hoffter o ffurfiau geometrig cynnil ac arlliwiau mwyn yn debyg i waith Rennie Mackintosh ac yn deillio o'i chyfnod yn alltud ym Mhrydain.

Yn ystod y 1920au a'r 1930au, daeth stiwdio Elisabeth de Saedeleer yn enwog am orchuddion llawr clymog lliwgar a llachar, carpedi murol a ffabrigau ar gyfer sgarffau a llieiniau bwrdd. Mae dylanwad traddodiad William Morris a thechnegau gwau Celfyddyd a Chrefft yn amlwg yn y defnydd o locedi canolog ac arabesgau. Yn 1925, cyhoeddodd y beirniad celf Belgaidd dylanwadol Luc Haesaerts ddwy erthygl helaeth ar gelfyddyd Elisabeth de Saedeleer. Gosodwyd ei gwaith hefyd ym Masilica Genedlaethol y Galon Gysegredig yn Koekelberg, un o gofadeiliau Art Deco enwocaf Gwlad Belg. Yn ystod ei gyrfa gwnaeth dapestri yn seiliedig ar ddyluniadau llawer o artistiaid o fri rhyngwladol megis Ossip Zadkine, Michel Seuphor a Marc Chagall. Enillodd enw da am ansawdd ei gwaith a'i chleientiaid, ac yn 1927 fe'i gwahoddwyd gan Henry van de Velde i ddysgu yn La Cambre, yr ysgol gelfyddyd a dylunio newydd ym Mrwsel. Yno, yn 25 oed, ac yn un o'r ychydig ferched, roedd Elisabeth wrth galon bywyd celfyddydol Gwlad Belg.

Bu'r alltudiaeth a drefnwyd i'w theulu yn Aberystwyth yn allweddol bwysig yng ngyrfa Elisabeth de Saedeleer, gan mai yno y cafodd hyffordiant mewn technegau gwau ac y daeth dan ddylanwad athroniaeth Celfyddyd a Chrefft. Ar ôl iddi ddychwelyd i Wlad Belg enillodd ei sgiliau a'i dyluniadau arloesol safle unigryw iddi yn ei gwlad ei hun.

Bu Elisabeth de Saedeleer farw yn Etikhove ar 27 Mehefin 1972.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-29

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.