Ganwyd Hugh Matthews ar 25 Hydref 1936 yn 6 Heol Bryn-gelli, Tre-boeth, Abertawe, yn ail o ddau fab i Daniel Eustis Matthews (b.f. 1975), glöwr a gweithiwr ffordd, a'i wraig Annie Ada (g. Phillips, b.f. 1994). Ganwyd ei frawd hŷn, Thomas Kenneth, yn 1930. Roedd y teulu yn aelodau gweithgar yn eglwys Fedyddiedig Caersalem Newydd, a'r gweinidog, y Parchg W. H. Rowlands, yn ddylanwad ffurfiannol ar yr Hugh ifanc.
Ar ôl mynychu Ysgol Iau Tirdeunaw yn y pentref, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a adleolwyd dros dro i ardal Townhill yn sgil y bomio, aeth i Fangor yn 1955, i'r brifysgol yn gyntaf gan ennill gradd anrhydedd yn y Gymraeg, ac yna i Goleg y Bedyddwyr i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. Wedi ennill gradd BD yn 1961, fe'i ordeiniwyd yn weinidog ar gylch o dair eglwys ar y ffin rhwng Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin: Noddfa Llanbedr Pont Steffan, Bethel Silian a Chaersalem Parc-y-rhos. Tra ym Mangor daeth i adnabod Verina James (1941-2012), myfyrwraig yn y Coleg Normal a'r ieuaf o bum plentyn Arthur a Katie James, Llangyfelach, Abertawe, teulu cerddorol a oedd yn weithgar yn eglwys Fedyddiedig Salem. Priododd Hugh a Verina yn Awst 1963, a ganwyd iddynt ddau fab, Tegid yn 1966 a Gethin yn 1968.
Wedi chwe blynedd yng ngorllewin Cymru, fe'i galwyd i olynu'r Parchg Walter P. John yn weinidog Castle Street, eglwys enwog y Bedyddwyr Cymraeg yng nghanol Llundain, gan ddechrau yno ym Mehefin 1968. Yn ogystal â chwarae rhan bwysig yng ngweithgareddau eglwysig a diwylliannol Cymry Llundain, daeth yn fwyfwy amlwg oddi mewn i'w enwad ac yn y cylchoedd Ymneilltuol yn gyffredinol. Roedd treulio tymor yng Nghanolfan Eciwmenaidd Bossey yn y Swistir ar ddechrau'r 1960au wedi ennyn ynddo ymrwymiad rhyng-eglwysig cynnar, ac roedd Llyfr o Ryfeddodau (1969), ei esboniad ysgolheigaidd ar Lyfr y Datguddiad, yn ffrwyth gwahoddiad ar ran y pedwar enwad Ymneilltuol i ddarparu deunydd safonol ar gyfer dosbarthiadau oedolion yr Ysgolion Sul. Yn Llundain hefyd (yn un peth, trwy ei gyfeillgarwch â Geoffrey F. Nuttall, hanesydd y Piwritaniaid) dechreuodd ymddiddori o ddifrif yn hanes Ymneilltuaeth Gymreig, gan gychwyn yn 1978 ar y gwaith o olygu Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr, tasg a barhaodd i'w chyflawni tan 2009, a pharatoi traethawd ymchwil ar ddatblygiad y weinidogaeth Fedyddiedig o gyfnod y Piwritaniaid hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Enillodd hyn radd MA Prifysgol Cymru iddo yn 1980, ac yn 1986 cafodd MPhil dan nawdd Coleg Spurgeon, Coleg Bedyddwyr Llundain, am draethawd ar fywyd a gwaith David Rees (1683-1748) a fu'n weinidog ar eglwys y Bedyddwyr yn Limehouse yn nwyrain y brifddinas.
Yn 1985 dychwelodd i Gymru fel tiwtor yn y Testament Newydd a Hanes yr Eglwys yng Ngholeg y Bedyddwyr Caerdydd. Ef oedd yr unig siaradwr Cymraeg ar y staff, a gwnaeth lawer i warchod Cymreigrwydd y sefydliad pan oedd mewn perygl o ymagweddu fel coleg taleithiol Seisnig. Cyfrannodd at ysgolheictod beiblaidd trwy gyhoeddi The Church in the New Testament (1996), a draddodwyd gyntaf fel un o Ddarlithoedd Pantyfedwen, gan ddadlau mai corff carismatig oedd yr eglwys yn ei blynyddoedd ffurfiannol, â'i gweinidogaeth yn fwy pragmatig na hierarchaidd ei natur, ac yn fwy agored i arweinyddiaeth merched nag a dybiwyd yn gyffredinol. Cyhoeddodd Y Llythyr at yr Hebreaid (2003), ac iddo ef y rhoddwyd y cyfrifoldeb o gyfieithu'r Llythyrau at yr Hebreaid a'r Philipiaid yn Y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig , gwaith a welodd olau dydd yn 2004. O ran ysgolheictod hanesyddol, cyhoeddodd ar yr Ail-Fedyddiwr radicalaidd Thomas Müntzer yn y gyfrol Deuddeg Diwygiwr Protestannaidd (1988), a chyfrannodd bennod yng nghasgliad John Gwynfor Jones, Agweddau ar dwf Piwritaniaeth yng Nghymru (1991) yn ogystal ag ysgrifau yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a Thrafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr. Wedi ymddeoliad y Parchg Ddr Neville Clark fel prifathro'r Coleg y Bedyddwyr yn 1991, ef a benodwyd yn olynydd iddo, ac yn 2000 derbyniodd y radd DD honoris causa gan Brifysgol Campbell, Gogledd Carolina, sefydliad yr oedd ganddo gysylltiadau agos â Choleg y Bedyddwyr Caerdydd ers tro. Bu'n Ddeon Diwinyddiaeth Prifysgol Caerdydd am ysbaid, a gwnaeth lawer i sicrhau cydweithio esmwyth rhwng Adran Astudiaethau Crefyddol y Brifysgol a'r ddau goleg diwinyddol, sef Mihangel Sant yr Anglicaniaid a'i goleg ei hun.
Ac yntau wedi gwasanaethu yno am un mlynedd ar bymtheg, ymddeolodd yn 2001. Daliodd i gyhoeddi; roedd Geiriau'r Gair (2005) yn gyfres o astudiaethau esboniadol yn seiliedig ar eiriau ac ymadroddion beiblaidd, tra chomisiynwyd O'r Fenni i Gaerdydd: Hanes Coleg y Bedyddwyr Caerdydd, 1806-2006 (2007), un fersiwn yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg, i nodi daucanmlwyddiant sefydliad y gwnaeth Hugh Matthews lawer i sicrhau'i ffyniant yn negawdau olaf yr hen fileniwm. Roedd ef a Verina yn weithgar ar hyd y blynyddoedd yn y Tabernacl, yr eglwys Fedyddiedig Gymraeg yn yr Ais yng nghanol Caerdydd, hithau gyda'r wedd gerddorol yn enwedig ymhlith yr ieuenctid, ac yntau gyda'r dosbarth beiblaidd wythnosol. Ergyd enbyd iddo oedd marwolaeth Verina, wedi cystudd caled, yn 2012. Er gwaethaf yr hiraeth, parhaodd yn ddiwyd gyda'i weithgareddau eglwysig, ac roedd ei gyfrolau defosiynol Siprys (2013), Damhegion y Beibl (2016) a Gorfoledd y Gair (2017) yn ffrwyth ei fyfyrdod ymhlith ei gyd-aelodau yn y Tabernacl. Bu'n dioddef ei hun yn ystod y cyfnod hwn, a chafodd driniaeth am ganser mewn mwy nag un ysbyty. Bu farw Hugh Matthews ar 27 Tachwedd 2020, a llosgwyd ei weddillion yn Amlosgfa Treforus heb fod ymhell o'r cartref teuluol yn Nhre-boeth. Ymddangosodd ei gyfrol olaf, Taith trwy'r Hen Destament drwy lygaid rhai o'i gymeriadau (2020), ychydig wythnosau ynghynt.
Gweinidog ymroddgar, ysgolhaig diymhongar a chyfaill ffyddlon i liaws o bobl oedd Hugh Matthews. Caredigrwydd, graslonrwydd a'r ddawn i wneud i bobl deimlo'n gartrefol beth bynnag oedd yr amgylchiadau oedd ei rinweddau mwyaf yn ôl ei gydnabod, a'r cwbl yn tarddu o'i argyhoeddiadau Cristnogol tawel ond diysgog. Ef hefyd, yn ddiau, oedd hanesydd Bedyddiedig mwyaf cydwybodol ei genhedlaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-13
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.