Ganwyd Isidore Wartski ar 9 Ionawr 1878 yn Ostrowo, Prwsia, yn fab hynaf i Morris Wartski a'i wraig Flora Callamon. Yn 1882 symudodd gyda'i deulu i Fangor lle bu ei dad yn pedlera gemwaith a watsys cyn agor siop yn 21 Stryd Fawr. Fe'i rhestrir yng nghyfrifiad 1891 fel 'scholar' yn byw yn 8 Eldon Place.
Dilynodd Isidore ei dad trwy agor busnes dillad a llieiniau cain 'Wartski & Co' yn 204 Stryd Fawr. Yn 1896, roedd yn hysbysebu am 'a first-class Traveller for an established drapery business to travel North Wales'. Gan fod dau fab arall Because Morris, Charles a Harry, yn rheoli'r busnes gemwaith a agorwyd yn Llandudno rai blynyddoedd yn gynharach, yn 1906 rhoddwyd i Isidore y cyfrifoldeb am redeg Wartski's 'By the Cathedral' Quality Drapery and Clothing Store.
Yn 1918, agorodd Wartski siop arall yn 196-200 Stryd Fawr - cam i fyny o'r siop lai yn bellach i lawr y stryd - yn gwerthu gwisg hwyrol, ffrogiau, clogynnau, ffyrrau, trimins, les, hosanau sidan, gwyntyllau, menyg, ategolion gwallt ac ati. Roedd gan y busnes eisoes 'a large clientele amongst the leading county families', yn ôl papur newydd lleol, a oedd yn fodd 'to keep constantly employed a staff of skilled workers, and to carry out work expeditiously and with taste and style, peculiar to their productions'. Datblygodd Isidore y busnes yn siop fawr yn gwerthu ffasiynau diweddaraf Llundain a Paris. Roedd yn adnabyddus hefyd am y tiwbiau niwmatig ar gyfer anfon a derbyn arian. Daeth i chwarae rhan enfawr ym mywydau bob dydd trigolion Bangor a thu hwnt. Mae derbynebau o'r cwmni yng nghasgliad personol Ardalyddes Môn dyddiedig 1940-1941 yn cynnwys cap ffwr, cotiau angora, a bag llaw crocodeil. Dyna nwyddau dethol yn wir. Bu'r siop ym meddiant cwmni Wartski's tan 1965 pan brynwyd hi gan Browns o Gaer.
Yn Ionawr 1902, priododd Isidore Wartski â Dorothy ('Dolly') Harris yn Synagog Hope Place, Lerpwl. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, ganwyd eu mab Joseph Harris (Billy) yn eu cartref, Gwynfryn ym Mangor. Bu Dolly farw yn Chwefror 1923 ac fe'i claddwyd ym mynwent Green Lane yn Lerpwl. Yn 1925 ailbriododd Wartski, â Winifred Marie (1889-1982), a chawsant fab arall, John.
Erbyn 1925 roedd y busnes mor llwyddiannus fel y bu modd i Wartski wireddu ei freuddwyd o adeiladu 'castell modern' ger y môr. Derwen Deg, yn edrych dros Afon Menai, yw un o'r tai gorau ym Mangor. Yn dŷ mawr yn yr arddull celf a chrefft gynnar, roedd yn un o arwyddion cynharaf y symudiad o'r dyffryn i Fangor Uchaf. Yn Awst 1926, cynhaliodd arddwest ar gyfer myfyrwyr Iddewig y brifysgol a fynychwyd gan y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George a oedd yn gyfaill personol i Wartski. Roedd Wartski hefyd yn gyfeillgar â'r Arglwydd Marks, yr Arglwydd Woolton a'r Arglwydd Samuel.
Yn 1928, prynodd Westy'r Castell gyferbyn â'i siop, a daeth yr ardal i'w hadnabod yn lleol fel 'Sgwâr Wartski'. Trawsnewidiodd yr adeilad yn un o'r gwestai mwyaf moethus yng ngogledd Cymru, gan ei foderneiddio trwy ychwanegu ffenestri dormer talcennog yn y dull Art Deco a ffasâd llawr isaf newydd yn lle'r hen wyneb allanol Sioraidd. Yn y cefn, roedd neuadd ddawns a garej gyda lle i gant o geir. Roedd yn adnabyddus am foethusrwydd ei stafelloedd wedi eu leinio â choed derw, yn lolfeydd, parlyrau, stafell fwyta a smocio, ac yn enwedig yr Empire Ballroom enwog lle byddai torf o 200 yn ymgynnull ar nos Wener a Sadwrn i ddawnsio ar y llawr crog. Rhedodd Wartski'r gwesty tan ei ymddeoliad yn 1950.
Yn ogystal â'i weithgareddau busnes, gwnaeth Wartski gyfraniad sylweddol i'r gymuned leol hefyd, gan hyrwyddo Bangor fel lle siopa a gwasanaethu fel cadeirydd ei Siambr Fasnach am sawl blwyddyn, ac yn aelod o Gymdeithas Cyrchfannau Gwyliau Gogledd Cymru. Yn ffigwr poblogaidd, noddodd amryw gymdeithasau chwaraeon ac elusennau. Etholwyd ef i gyngor y dref yn 1924 a gwasanaethodd ar y rhan fwyaf o'i bwyllgorau. Ymhlith ei gyfraniadau yn ystod 25 mlynedd ar y cyngor, roedd ailgartrefu trigolion slymiau afiach hen bentref pysgota Hirael ar ystadau tai newydd ar gyrion Bangor, a gwaredu'r tollau ar Bont Menai.
Pan etholwyd ef yn Faer Bangor yn 1939, ef oedd yr Iddew cyntaf i ddal swydd maer yng Nghymru. Yn ei ginio sefydlu, mynegodd Wartski ei farn fod ei etholiad yn 'deliberate assertion of the principle of religious toleration, or rather religious equality, which was one of the noblest features not only of public life in this country, but also of municipal and political institutions through the Empire'. Yn ystod ei ymgrych i gael ei ailethol yn Faer yn 1940, dywedodd yr Henadur John Williams fod Wartski wedi bod 'a resident of the borough almost long enough to claim himself a native. He had breathed the healthy atmosphere of the town and surrounding Welsh hills from boyhood.' Gwasanaethodd o 1939 i 1941.
O ddechrau'r rhyfel yn 1939, aeth Isidore a Winifred Wartski ati i gymryd ffoaduriaid Iddewig, gan drefnu prydiau cosher mewn cantîn dros dro yn Neuadd Eglwys Sant Iago. Cafodd Wartski ei gymeradwyo hefyd am roi lloches i gynnwys Amgueddfa Iddewig Montefiore, Ramsgate, a llyfrgell Coleg yr Iddewon yn ei dŷ ar hyd y rhyfel.
Bu Wartski'n weithgar gyda chymuned Iddewig Bangor. Etholwyd ef yn gadeirydd y 'Jewish Friendly or Benefit Society' yn 1897, a'r flwyddyn ganlynol penodwyd ef yn ysgrifennydd priodasau Cynulleidfa Hebraeg Bangor. Roedd hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Lenyddol Hebraeg Bangor. Daliodd i fod yn weithgar wrth i'r gynulleidfa leihau, tan ei farwolaeth ar 6 Ionawr 1965, yn 87 oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Broadgreen yn Lerpwl.
Yn 1968, dair blynedd wedi ei farwolaeth, prynodd Winifred nifer o gaeau ar fferm Nantporth ar lan Afon Menai a rhoddodd y tir i bobl Bangor er cof am ei gŵr. Caeau Wartski y'u gelwir o hyd, a chodwyd pâr o goflechi gan Ddinas Bangor i goffáu'r rhodd.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-27
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.