JONES, Syr THOMAS ARTEMUS (1871 - 1943), newyddiadurwr, barnwr, a hanesydd

Enw: Thomas Artemus Jones
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1943
Priod: Mildred Mary Jones (née David)
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr, barnwr, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Frank Price Jones

Ganwyd 18 Chwefror 1871 yn 22 Lôn Abram, Dinbych, yn chweched mab i Thomas Jones, saer maen. Gadawodd yr ysgol genedlaethol yn 11 oed i weithio mewn siop bapurau newydd, a thra yno, dysgodd lawfer iddo'i hun. Yn 1886 fe'i penodwyd yn ohebydd i'r Denbighshire Free Press, ac ef biau'r adroddiadau ar hanes Rhyfel y Degwm yn y papur hwnnw. Gadawodd Ddinbych yn 1889 a bu'n gweithio ar bapurau yn sir Henffordd, East Anglia a Manceinion. Yn 1896 ymunodd â staff Seneddol y Daily Telegraph ac wedi hynny, y Daily News.

Dechreuodd astudio'r gyfraith yn ei oriau hamdden, ac yn 1898 aeth yn fyfyriwr yn y Middle Temple : fe'i galwyd i'r bar yno yn 1901, a'r flwyddyn nesaf, ymunodd â'r Gylchdaith Gymreig. Cymerodd ran yn achos athrod yr arglwydd Penrhyn yn erbyn W. J. Parry (1903) ac ym mhrawf Syr Roger Casement am deyrnfradwriaeth yn 1916. Yn 1909, dygodd ef ei hun achos o athrod yn erbyn y Mri. E. Hulton & Co. am ddefnyddio'r enw Artemus Jones mewn modd difrïol, yn y Sunday Chronicle (12 Gorffennaf 1908): aed a'r achos i Dŷ'r Arglwyddi, ond ef a orfu, a chanlyniad yr achos hwn yw'r nodyn a roddir ar ddechrau nofelau i'r perwyl nad oes gyfeiriad ynddynt at neb sy'n fyw.

Yn 1919 fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler (K.C.) ac yn 1928, penodwyd ef i gynrychioli Prydain ar gomisiwn i ddelio â hawliadau yn codi o'r gwrthryfel ym Mecsico. Urddwyd ef yn farchog am ei waith yn y cyswllt hwn yn 1931. Yn 1930 fe'i penodwyd yn farnwr y llysoedd sir yng ngogledd Cymru, swydd y bu ynddi hyd Hydref 1942. Yn 1938, gwnaed ef yn gadeirydd sesiwn chwarter Sir Gaernarfon, ac yn yr un flwyddyn, dyfarnwyd iddo radd Doethur yn y Cyfreithiau er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru. O 1939 hyd Gorffennaf 1941, ef oedd cadeirydd Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru. Bu farw 15 Hydref 1943, a'i gladdu ym mynwent gyhoeddus Bangor.

Priododd yn 1927 a Mildred Mary, merch hynaf T. W. David, Ely Rise, Llandâf, a'i weddw a olygodd gyfrol o'i ysgrifau a gyhoeddwyd yn 1944, Without My Wig.

Bu'n ymgeisydd Seneddol (Rhyddfrydwr) yn Macclesfield (1922), Dwyrain Abertawe (1923) a Keighley (1924).

Cyfrannodd lawer o erthyglau i gylchgronau ar wahan i'r papurau a'i cyflogai, ac ynddynt oll (fel yn ei ddatganiadau oddi ar y Fainc) gwelir ôl profiad ei gychwyniad distadl a'r effaith fawr a gafodd deffroad cenedlaethol-radicalaidd Mudiad Cymru Fydd arno. Nodir rhai ohonynt isod: Yn Wales (O. M. Edwards) cyf. I (1894, 231 a 283) y mae dwy stori fer ganddo sy'n darlunio'i blentyndod. Yn Young Wales cyf. VIII (1902, 38, 210 a 265) ceir ysgrifau ganddo ar Aelodau Seneddol Cymru ac ar frwydr Cymru yn erbyn Deddf Addysg 1902 : gwelir yr un egwyddorion ganddo ymhen 40 mlynedd yn ei Lythyr Agored (Saesneg) at Winston Churchill a gyhoeddwyd (yn ddienw) yn Y Cymro (Croesoswallt) 26 Mehefin 1943, yn galw am Ysgrifennydd i Gymru.

O'r fainc, cyhoeddodd nad oedd ef o blaid carcharu dyledwyr na allent dalu eu dyledion, a gwrthwynebodd driciau cyfreithiol rhai cwmnïau a werthai nwyddau dan gytundebau llog-bwrcas. Ei gyfraniad pennaf i Gymru efallai, ydoedd ei waith o blaid cael defnyddio'r iaith Gymraeg yn y llysoedd. Gwrandawai achosion yn Gymraeg er gwaethaf y gwaharddiad ar hynny yn 27 Hen VIII 8 c. 26, a gwnaeth lawer mewn datganiadau o'r fainc ac mewn darlithiau ac ysgrifau i hybu'r ddeiseb a sicrhaodd Ddeddf Llysoedd Cymru (1942).

Dadleuai o blaid adfer i Gymru gyfundrefn gyfreithiol iddi ei hun, a thrafododd y pwnc mewn ysgrif yn Welsh Outlook Ionawr a Chwefror 1932. Yn yr un cylchgrawn (Ebrill ac Awst 1932) ceir ysgrifau ganddo dan yr enw 'Demos' yn beirniadu Ynadon Heddwch. Dan y pennawd 'Gwaliaphobia' a'r ffugenw 'Rhydwen Aled', gwrthymosododd ar ysgrifenwyr gwrth- Gymraeg y wasg Saesneg, yn Welsh Outlook Hydref a Tachwedd 1932. Cynnwys Without My Wig nifer o'i ysgrifau ar bynciau cyfreithiol a ffrwyth ei ymchwiliadau i hanes Cymru.

Ymhlith y swyddi eraill a ddaliodd, bu'n 'Reader of the Middle Temple' ac yn Is-Lywydd Llys Coleg y Brifysgol, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.