Ganwyd 29 Mai 1860, yn Nhalsarnau, Sir Feirionnydd, mab Elizabeth a William Jones, garddwr ym mhlas Cae'rffynnon, a blaenor yng nghapel M.C. Bethel, a fudasai o Faesneuadd, ger Llanaelhaearn. Yn ysgol y pentref y cafodd ei unig addysg reolaidd. Wedi yspaid yng ngwasanaeth teiliwr ym Mhorthmadog aeth i Birkenhead i ddysgu crefft y cysodydd, ac yn 1882 aeth i Gaernarfon i ddilyn ei alwedigaeth yn swyddfa'r Herald Cymraeg. Dychwelodd i lannau Afon Lerpwl yn 1890, i weithio yn swyddfa'r Cymro, eiddo Isaac Foulkes, ac yn yr un flwyddyn priododd Elizabeth Parry, o Gaernarfon a chyn hynny o'r Baladeulyn, Nantlle; ganwyd iddynt dri o blant. Etholwyd ef yn flaenor yng nghapel M.C. Parkfield; gwnaeth lawer i ledaenu'r achos a bu'n ddiweddarach yn flaenor yn eglwysi Woodchurch Road a Laird St., Birkenhead. Ystyriai ei ymdrechion yn rhan o'i brif orchwyl sef amddiffyn gwareiddiad a diwylliant Cymreig yn wyneb peryglon y trefydd mawr. Am na allai'n gydwybodol gefnogi Isaac Foulkes ar fater eglwysig a gynhyrfai Lerpwl a'r cylch ar y pryd ymadawodd a'r Cymro. Am ychydig amser bu'n cysodi yng Ngwrecsam; ond yr oedd eisoes wedi cychwyn ar ei yrfa lenyddol gydag ysgrifau wythnosol, a ysgrifennai wedi gorffen ei ddiwrnod gwaith, i'r Genedl, pan gytunodd â'r diweddar Hugh Evans yn 1906 i gymeryd gofal papur wythnosol y bwriedid ei gyhoeddi - Y Brython - a golygodd ef hyd ei ymneilltuad yn 1931. Wedi hynny parhaodd i ddarlithio yn fynych a bu ar daith yn U.D.A. yn 1932. Yn 1941 aeth i fyw, gyda'i ferch a'i gŵr, ym Mhen-y-groes, Sir Gaernarfon, lle y bu farw 23 Mawrth 1943. Cyhoeddodd (1915) destun o Lyfr y Tri Aderyn (Morgan Llwyd), ac amryw lyfrau yn cynnwys rhai o'i brif erthyglau ei hun yn Y Brython; dyma deitlau ei brif lyfrau - O'r Mwg i'r Mynydd (1913), Swp o Rug (1920), a Moelystota (1932).
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.