Ganwyd 3 Rhagfyr 1871 yn Llanfyllin, yn fab i Evan a Mary Watkins, ac yn un o ddeg o blant. Addysgwyd yn yr ysgol elfennol, ac am bum tymor yn ysgol Owen Owen yng Nghroesoswallt. Dychwelodd i gynorthwyo'i dad, nes y penodwyd ef yn 1887 y clerc cyntaf i'r Bwrdd Canol (y ' Central Welsh Board'). Yn 1904 penodwyd ef yn brif glerc i bwyllgor addysg y West Riding, swydd Efrog. Dychwelodd i Gymru yn 1911 yn gofrestrydd coleg y Brifysgol, Caerdydd, ac yno y gwasanaethodd nes ei benodi yn ysgrifennydd cynorthwyol i'r Comisiwn Yswiriant Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Yn 1925 dilynodd (Syr) Alfred T. Davies yn bennaeth adran Gymreig y Bwrdd Addysg, ac yno ar unwaith bu'n foddion i sicrhau cydweithgarwch da, er cryn fantais i'r adran Gymreig a oedd eto yn newydd a dibrofiad. Felly hefyd yng Nghymru enillodd ddealltwriaeth hapusach rhwng yr adran Gymreig yn Llundain â'r Bwrdd Canol yng Nghymru.
Yn ystod ei wasanaeth yn y Bwrdd Addysg cyhoeddwyd (1931) adroddiad pwysig ar ' Broblemau Addysg yn ardaloedd Gweithfaol Deheudir Cymru ' a fu'n foddion i gynhyrchu datblygiadau newydd yn addysg y werin. Bu Watkins bob adeg yn gefn i addysg y werin, ac yr oedd ymysg y cwmni bychan i osod coleg Harlech ar ei draed yn 1927. Hefyd (yn 1927) cyhoeddwyd gan y Bwrdd Addysg adroddiad pwyllgor adrannol, sef Y Gymraeg mewn addysg a Bywyd. Aeth Watkins a'i holl egni i wneuthur awgrymiadau y pwyllgor yn hysbys ac effeithiol. Trefnodd i arolygu safle'r iaith yn yr ysgolion, a chymhellodd arolygwyr y Bwrdd i archwilio yn llwyr bob agwedd ar addysgu Cymraeg a Saesneg yn yr ysgolion. O ganlyniad cafwyd dau femorandwm yn cynnwys awgrymiadau ar gyfrannu addysg yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn yr ysgolion. Dyma'r ymdrech swyddogol gyntaf i osod gerbron athrawon yr ysgolion elfennol rai egwyddorion y gallent ymddiried ynddynt i ddatrys problemau'r iaith. Penderfynodd Watkins yn 1933 ymddeol o'i swydd yn y Bwrdd Addysg i ymgymeryd â chyfarwyddo Cyngor y Gwasanaeth Cymdeithasol yn y Deheudir, er cryn golled iddo yn ariannol. Am y deng mlynedd olaf o'i oes cyflwynodd ei hunan i'r gwaith hwn gyda'r unplygrwydd anhunanol a dyngarol a oedd mor amlwg yn ei nodweddu ar hyd ei oes.
Priododd, 1898, Mary Jane Jones, Llanfyllin, a ganwyd iddynt un mab. Yn 1930 gwnaethpwyd ef yn farchog, a derbyniodd radd LL.D. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Cymru. Bu farw Lady Watkins yn 1939 ac ail-briododd yntau yn 1941. Bu farw ar 5 Mai 1946. Yn ychwanegol at amryw erthyglau a memoranda cyhoeddodd hunan-gofiant yn 1944 o dan yr enw A Welshman Remembers.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.