Ganwyd 6 Mawrth 1879, yn Resolfen, Sir Forgannwg, yn fab i David ac Ann Evans. Cafodd ei addysg gerddorol i gychwyn o dan yr athro David Evans (1874 - 1948), a dechreuodd ei yrfa fel organydd eglwys Bresbyteraidd London Road, Castellnedd, ac arweinydd y Neath Choral Society, côr a roes, dan ei arweiniad ef, lawer o gyngherddau a gynhwysai ganu neu berfformio llawer o weithiau corawl ac offerynnol ac a ddug y côr i gryn sylw. Arweiniodd y côr cenedlaethol Cymreig yn y Festival of Empire a gynhaliwyd yn y Crystal Palace, Llundain, 1911, a chôr yr eisteddfod yn eisteddfod genedlaethol Birkenhead, 1917; efe a ddilynodd Harry Evans yn arweinydd y Liverpool Welsh Choral Union yn 1919. Daeth yn wr blaenllaw ym mywyd cerddorol Cymru ar gyfrif ei bersonoliaeth fagnetig a'i feistrolaeth lwyr ar iaith, boed Saesneg neu Gymraeg; rhoes y ddeubeth hyn werth arbennig ar ei feirniadaethau mewn eisteddfodau a'i erthyglau ar gerddoriaeth Cymru. Rhoddwyd cydnabyddiaeth gyhoeddus i'w ddawn fel arweinydd pan dderbyniodd neges bersonol oddiwrth Delius yn ei longyfarch ar ôl perfformiad nodedig o ' Mass of Life ' y cerddor hwnnw yn un o gyngherddau eisteddfod genedlaethol Wrecsam, 1933. Anrhydeddodd Cymdeithas Delius ef trwy ei wneuthur yn is-lywydd, a derbyniodd wahoddiad i ymweld â'r America ac arwain cyngherddau yno. Ymysg ei gyfansoddiadau y mae ' A Cymric Suite ', ' A Brythonic Overture ', ' Three Preludes on Welsh Hymm-tunes for orchestra ', dau waith i gôr a cherddorfa - ' Kynon ' a ' Salm i'r Ddaear ', heblaw caneuon, anthemau, rhangganau, a darnau ar gyfer y piano. Yr oedd yn Mus.Doc.(Oxon.). Ei wraig oedd Adelina Powel, Bu farw 23 Mawrth 1940.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.