Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd ef yn y Bontnewydd, ger Caernarfon, daeth yn brentis athro plant yn ysgol yr Eglwys yno, ac yn 1860 cafodd fynediad i'r Coleg Normal yng Nghaernarfon. Rywfodd gadawodd y coleg heb dystysgrif swyddogol, ond drwy garedigrwydd y deon J. H. Cotton cafodd ofal ysgol Capel Curig 1861-75); y mae ei ddyddiaduron, 52 i gyd, y rhan fwyaf yn llyfrau hirion tebyg i lyfrau cyfrifon siop, yn arbennig o lawn am bersonau a phethau a llên gwerin yr ardal fynyddig honno. Penderfynodd gymryd urddau eglwysig, a bu yng ngholeg Llanbedr Pont Stephan o 1875 hyd Fehefin 1877, pryd y penodwyd ef yn giwrad Eglwys Fair yn Aberdâr (1877-1883). O 1883 i 1896 bu'n giwrad mewn gwahanol leoedd ym Môn; o 1896 ymlaen, ambell gyfnod yn y Gogledd, bryd arall yn y De. Ciwrad oedd fyth pan fu farw yng Nghwmafan, 12 Ionawr 1910.
Ym mhob ardal lle y gweithiai yr oedd iddo ddiddordeb dwfn yn yr eglwys leol, ei hanes a'i thraddodiadau, fel y prawf ei erthyglau niferus yn yr Haul a'r Cymro eglwysig; ceir crynodeb o'i gyfraniadau yn enwedig o 1873 i 1887 yn llawysgrifau Bangor 1673 a 1721; a cheir nodiadau tra gwerthfawr ar wahanol blwyfi yn MSS. 3001-5, 4573. Fel dyn yr oedd yn deimladwy tuhwnt, yn dueddol iawn i swcro dychmygion afiach, ac yn anghredadwy anfaddeugar (ai mor bell ag ysgrifennu nodiadau pen blwydd digwyddiadau annymunol a ddaethai i'w ran). Ac yr oedd iddo lu o ragfarnau: yn erbyn Seisnigrwydd Eglwys Loegr yng Nghymru, yn erbyn arferion defodol rhai o eglwysi Aberdâr, yn erbyn Undodwyr a Byddin yr Iachawdwriaeth, yn erbyn 'Berw' (R. A. Williams), y bardd o'r Waunfawr y bu Dafydd Griffith yn giwrad iddo dros dro. Er yr holl wendidau anfanteisiol hyn, yn ei ddyddiaduron ef, glerigwr dinod ac anghofiedig, y ceir y darlun mwyaf argyhoeddiadol o fywyd tu mewn i'r Eglwys yn y dyddiau cyn y Datgysylltiad.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.