WILLIAMS, ROBERT ARTHUR ('Berw '; 1854 - 1926), clerigwr a bardd

Enw: Robert Arthur Williams
Ffugenw: Berw
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1926
Priod: Margaret Williams (née Jenkins)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 8 Ebrill 1854 yng Nghaernarfon, mab John Williams, morwr. Bu farw ei fam pan nad oedd ond tairblwydd oed, a magwyd ef gan ei fodryb ym Mhentre Berw, Môn. Prentisiwyd ef yn siopwr yn y Gaerwen, a dechreuodd ymddiddori mewn prydyddiaeth. Symudodd i Fangor i weithio, a daeth dan ddylanwad y deon H. T. Edwards. Aeth yn 1880 i Goleg S. Aidan, Birkenhead, i baratoi ar gyfer y weinidogaeth; urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Campbell o Fangor, 24 Mehefin 1882, a'i drwyddedu i blwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, lle yr oedd Thomas Edwards ('Gwynedd') yn rheithor. Derbyniodd urddau offeiriad 8 Mawrth 1884, ac, yn Nhachwedd 1888, aeth yn rheithor i Lanfihangel-y-pennant, yn Eifionydd. Oddi yno, ym Mai 1891, penodwyd ef gan yr esgob D. L. Lloyd yn ficer Betws Garmon a churad parhaol y Waun Fawr. Bu yno hyd ei farw 16 Ebrill 1926, a chladdwyd ef ym mynwent Betws Garmon. Priododd a Margaret, merch y Parch. John Jenkins, Llan-ym-Mawddwy, a bu iddynt un ferch. Cystadlai ' Berw ' yn aml mewn eisteddfodau, ac yn 1887 enillodd y gadair yn eisteddfod genedlaethol Llundain a'i awdl i'r frenhines Victoria. Yr oedd yn gynganeddwr rhwydd, a bernir bod ganddo fedr arbennig i ddisgrifio, hyd yn oed os nad oedd ei gynhyrchion o'r radd flaenaf. Gelwid hefyd yn fynych am ei wasanaeth fel beirniad mewn eisteddfodau, a bu'n beirniadu'r awdlau yn yr eisteddfod genedlaethol dros ugain o weithiau. Ysgrifennodd lawer i'r cyfnodolion Cymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.