Ganwyd yn 1825 ym Mhontruffydd, Bodfari, sir Ddinbych, ond pan oedd yn faban, symudodd ei rieni, Joseph (bu farw 1865), a Sarah Jones i Ryd Orddwy, Y Rhyl. Yn 1849 aeth i S. Bees, ac yn 1851 ordeiniwyd ef a'i drwyddedi i Altrincham. Aeth oddi yno yn 1853 i Ysgeifiog fel curad i Rowland Williams, yr hynaf. Yn ddiweddarach (1855-7) bu'n gurad parhaol Capel Garmon, ond yn 1857 penodwyd ef yn ficer Pentrefoelas, lle y bu hyd ei wneud yn ficer Bodelwyddan yn 1892. Yn 1895 rhoddwyd iddo brebend y Faenol, h.y., cantoraeth Llanelwy. Er iddo gyhoeddi anthemau, credai nad oedd y math o gerddoriaeth a geid mewn eglwysi cadeiriol yn gydnaws ag anian y Cymro, a gwell oedd ganddo roddi pwyslais ar ganu cynulleidfaol. Yn ystod ei arhosiad ym Mhentrefoelas, cyhoeddodd (Wrecsam, d.d., un yn 1867) ddau gasgliad o garolau Nadolig o'i waith ei hun - cynhwysir un o'r carolau yn yr Oxford Book of Carols. Cydolygodd ef a Shadrach Pryce (gweler tan PRYCE, John, Hymnau Hen a Diweddar (1869 - deuddeg argraffiad erbyn 1891), a gynhwysai chwe emyn-dôn gan Jones ei hun. ' Beuno ' oedd y mwyaf adnabyddus ohonynt. Yr oedd yn ustus heddwch dros sir Ddinbych. Bu farw 13/14 Medi 1900, a chladdwyd ef ym Mhentrefoelas. Buasai ei wraig a thri o'i chwe phlentyn farw o'i flaen.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.