PRYCE, JOHN (1828-1903), deon Bangor, ac awdur

Enw: John Pryce
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1903
Priod: Emily Pryce (née Williams)
Plentyn: Arthur Ivor Pryce
Rhiant: Hugh Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: deon Bangor, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

un o dri mab Hugh Price (y meibion a newidiodd ffurf yr enw) o Ddolgellau; bu pob un o'r tri yn ysgol ramadeg Dolgellau, a bu pob un o'r tri yn gurad Dolgellau ac yn feistr (am gyfnod yn ymestyn rhyngddynt o 1851 hyd 1864) ei hen ysgol. Yr oedd yr hynaf, HUGH LEWIS PRYCE (1826 - 1895), gŵr gradd (1853) o Goleg Queens', Caergrawnt, yn rheithor Llan-fair-yng-Nghornwy o 1872 hyd ei farwolaeth, 3 Mawrth 1895. I'r un coleg, gan raddio yn 1858, yr aeth yr ieuengaf, SHADRACH PRYCE (1833 - 1914); bu'n ficer Ysbyty Ifan (1864-7), ac yno y cyhoeddodd Arweiniad i Eglwys y Plwyf, 1867 (cyfieithiad o waith yr esgob Harvey Goodwin); o 1867 hyd 1894 bu'n arolygydd ysgolion ('H.M.I.') yn esgobaeth Tyddewi; o 1893 hyd 1899 yn ficer Llanfihangel-Aberbythych, a chyda hynny (1895-9) yn archddiacon Caerfyrddin; ac o 1899 hyd 1910 yn ddeon Llanelwy. Bu farw 17 Medi 1914, yn 81 oed.

I Goleg Iesu, Rhydychen (1847) yr aeth John Pryce; graddiodd yn 1851. Bu'n gurad ac athro yn Nolgellau (1851-6), yn gurad parhaol Glanogwen (1856-64), yn ficer Bangor (1864-80), ac yn rheithor Trefdraeth (Môn) o 1880 hyd 1902; penodwyd ef yn ganon yn 1884, yn archddiacon yn 1887, ac yn ddeon Bangor yn 1902; bu farw 15 Awst 1903. Yr oedd yn uchel-eglwyswr o'r hen stamp - bu'n gefn i Philip Constable Ellis pan geisiodd yr esgob Bethell 'ddisgyblu' Ellis. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes eglwysig : History of the Early Church, 1869; The Ancient British Church, 1878; Notes on the History of the Early Church, 1891; Yr Eglwys Foreuol, 1893.

Priod y deon John Pryce oedd Emily, ferch Rowland Williams o Ysgeifiog, a chwaer y Dr. Rowland Williams. Eu hail fab oedd ARTHUR IVOR PRYCE (1867 - 1940), cyfreithiwr, cofrestrydd esgobaeth Bangor a chlerc y cabidwl, ganwyd yn 1867. O Ysgol Friars, aeth i Ysgol Westminster, ac oddi yno (Hydref 1885) i Goleg University, Rhydychen, a graddio yn 1889. Yr oedd tebygrwydd trawiadol rhyngddo a'r darluniau o'i ewythr enwog Rowland Williams. Yr oedd yn chwilotwr hanesyddol manwl. Cyhoeddodd nifer o ysgrifau yn y cyfnodolion hynafiaethol - gellir enwi 'The Register of Benedict, bishop of Bangor, 1408-17' (Archæologia Cambrensis, Mehefin 1922); 'Westminster School and its connection with North Wales' (Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1932); a 'Records of the Diocesan Registry in Bangor' (Bulletin of the Board of Celtic Studies, 1929). Mwy hysbys yw ei ddwy gyfrol werthfawr, The Diocese of Bangor in the 16th Century, 1923; a The Diocese of Bangor during Three Centuries, 1929, rhestrau hynod ddefnyddiol o ordeiniadau a phenodiadau yn yr esgobaeth - y mae yn yr ail lyfr ragarweiniad llawn ar hanes cyffredinol yr esgobaeth o'r 17eg ganrif hyd y 19eg. Ni ellir chwaith anghofio ei hynawsedd personol, ei gwrteisi i chwilotwyr yn ddiwahân, a'i barodrwydd i hwyluso'r ffordd iddynt. Cymerth ei ran hefyd ym mywyd cyhoeddus ei Eglwys a'i sir - bu am dymor yn gadeirydd cyngor sir Gaernarfon. Bu farw 4 Gorffennaf 1940, yn 73 oed.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.