Ychydig a wyddys am ei fywyd cynnar. Apwyntiwyd ef yn rheithor Llanelian yn sir Ddinbych o fewn esgobaeth Llanelwy, 11 Mawrth 1660/1, a gwasanaethodd yno am tua thair blynedd ar hugain. Yr oedd yn un o feirdd ail hanner y 17eg ganrif a barhaodd i ganu yn yr hen draddodiad o foli'r teuluoedd boneddigaidd. Ceir enghreifftiau o'i waith yn NLW MS 3027E a NLW MS 3057D , Wynnstay MS. 6, NLW MS 11993A , a B.M. Add. MSS. 14891, 14892, 14975 a 14994. Ceir marwnad iddo gan Siôn Dafydd o Benllyn yn NLW MS 3027E . Ymddengys iddo fod yn berchen copi llawysgrif o waith Syr John Wynn o Wydir, 'The history of the Gwydir family ', tua 1674. Claddwyd ef yn Llanelian 26 Medi 1683.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.