ganwyd yn y Trallwng (Trallwng Cynfyn?), Sir Frycheiniog, 2 Chwefror 1594, mab Roger ap Rosser Powell, a Catherine Morgan. Danfonwyd ef i ysgol ramadeg Y Fenni, lle y cymeradwywyd ef gan y prifathro, Morgan Lewis (tad y Tad David Lewis, S.J. i'r Dom David Augustine Baker, O.S.B., gan ddywedyd ' O Saint o Vaighgen y'e '. Arolygodd yr olaf hwn ei astudiaethau yn y gyfraith o 1610 hyd 1614, a'i ddanfon yna i Fflandrys lle y bu'n astudio ar draul y Tad Baker ym Mhrifysgol Louvain, 1614-19. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1618, a chymerth abid mynach ar 15 Awst 1619, wedi iddo efrydu tan y Dom Leander Jones, O.S.B.. Wedyn fe'i apwyntiwyd yn gellor (Cellerarius) Mynachlog Sant Gregori, Douai, a danfonwyd ef i'r maes cenhadol Seisnig ar 7 Mawrth 1622. Bu'n byw gyda'r Dom Baker am 16 mis yn Gray's Inn, Llundain. Yn ystod yr 20 mlynedd nesaf bu'n gaplan i wahanol deuluoedd yn siroedd Dyfnaint a Gwlad-yr-Haf, hyd ddechrau'r Rhyfel Cartref. Wedi gwasanaethu fel caplan i'r milwyr brenhinol, ceis iodd anelu at Sir Fynwy, yn 1646, ond fe'i daliwyd ger y Mamwyl (Mumbles) ar 22 Chwefror 1646, gan y Capten Crowther a'i cadwodd yn garcharor am ddau fis ar ei long ar forffyrdd Penarth cyn ei ddanfon ar y môr i Lundain. 16 Mehefin fe'i condemniwyd, ar ôl prawf yn Neuadd Westminster, am fod yn offeiriad, ac fe'i dienyddiwyd yn Tyburn, 30 Mehefin 1646. Cedwir ei groes yn abaty Downside, lle y ceir hefyd beth o'i wallt. Y mae eraill o'i greiriau ym meddiant y Lleiananod Benedictaidd yn Colwich, sir Stafford.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.