SIÔN ap HOWEL ab OWAIN (1550? - 1626/7), cyfieithydd

Enw: Siôn ap Howel ab Owain
Dyddiad geni: 1550?
Dyddiad marw: 1626/7
Rhiant: Catherine ferch Rhisiart ap Dafydd
Rhiant: Howel ab Owain
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfieithydd
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

mab Howel ab Owain, Cefn Trefiaeth, Llanystumdwy a Catherine, merch Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair. Yr oedd felly'n nai i Huw ap Rhisiart ap Dafydd ac yn gefnder i Richard Hughes. Ar ôl marw'i dad yn 1583 ef oedd y penteulu yng Nghefn Treflaeth, ac yr oedd yn un o'r rhai a erlynwyd gan Iarll Caerlŷr yn helynt Fforest yr Wyddfa. Yn llawysgrif Llanfair a Brynodol 2 yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir copi o ddechrau cyfieithiad Siôn ap Howel o'r Rhetorica ad Herennium i'r Gymraeg. Bu farw yn 1626/7 a'i gladdu yng nghôr Llanystumdwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.