SOMERSET, FITZROY RICHARD (1885 - 1964), 4ydd BARWN RAGLAN, milwr, anthropolegydd, ac awdur

Enw: Fitzroy Richard Somerset
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1964
Priod: Julia Somerset (née Hamilton)
Rhiant: Ethel Jemima Somerset (née Ponsonby)
Rhiant: George FitzRoy Henry Somerset
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr, anthropolegydd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Milwrol; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Emrys George Bowen

Ganwyd 10 Mehefin 1885 yn fab hynaf y 3ydd Barwn Raglan a'i wraig Ethel Jemima Ponsonby, merch y 7fed Iarll Bessborough, ac yn orwyr y Barwn Raglan cyntaf y rhoddwyd y teitl iddo yn 1852 pan oedd yn brif gadlywydd y lluoedd Prydeinig yn y Crimea. Addysgwyd ef yn Eton a'r Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst. Yn unol a thraddodiad ei deulu ymunodd â'r fyddin yn y Grenadier Guards yn 1905, a daeth yn gapten yn 1914 ac uch-gapten yn 1915. Ei swydd gyntaf dros y môr oedd fel A.D.C. i lywodraethwr Hong Kong (1912-13). Yn 1913 ymunodd â byddin yr Aifft, ac arhosodd yn adran ddwyreiniol y Môr Canoldir tan 1921, gyda'r lluoedd Eifftaidd am y chwe blynedd cyntaf, ac o hynny nes ymddeol yn 1922 fel swyddog politicaidd ym Mhalestina. Fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r Aifft gwnaethpwyd ef yn swyddog o Urdd y Nîl.

Gellir edrych ar y wedd filwrol hon fel y wedd gyntaf ar ei fywyd, a dilynwyd hi gan wedd arall, ychydig yn wahanol, yn y 1930au. Ond yr oedd perthynas amlwg rhwng y ddwy wedd. Yn ystod ei wasanaeth gyda'r lluoedd Eifftaidd daeth i ymddiddori'n fawr yn archaeoleg yr hen Aifft ac yn anthropoleg gorfforol y milwyr brodorol. Fe'i swynwyd gan gorffoledd hardd dynion Du basn afon Nîl. Ar ôl dychwelyd i Brydain datblygodd y diddordebau hyn. Yn 1932 cymerodd ran weithgar gyda'i gyfaill, yr Athro C. Daryll Forde (Athro Daearyddiaeth ac Anthropoleg C.P.C., Aberystwyth) yn y cloddio ar fryngaer bwysig yr Oes Haearn ar Bendinas ger Aberystwyth. Erbyn 1933 yr oedd yn ddigon hyddysg mewn anthropoleg i lywyddu Adran H (anthropoleg) Y Gymdeithasfa Brydeinig er Hyrwyddo'r Gwyddorau, a thros y blynyddoedd 1945-47 cydnabuwyd ei ddiddordeb mewn anthropoleg gymdeithasol trwy ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas Llên Gwerin. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach yr oedd yn Llywydd Sefydliad Anthropolegol Brenhinol Prydain ac wedi ei ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain (F.S.A.). Yn y cyfamser troesai ei holl sylw at y maes archaeolegol yng Nghymru, gan ddal dilyniant o swyddi allweddol yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Ef oedd cadeirydd y pwyllgor Archaeoleg a Chelfyddyd yno yn 1947-51, trysorydd yr Amgueddfa, 1950-52, is-lywydd 1952-57, ac yn olaf ei Llywydd yn 1957-62.

Wedi dychwelyd i Brydain, nid yn unig y bu'n aelod gweithgar o lawer cymdeithas ac ymddiddori mewn swyddi gweinyddol mewn sefydliadau cenedlaethol, ond bu hefyd yn brysur gyda chyhoeddi nifer helaeth o lyfrau a phapurau pwysig a diddorol mewn archaeoleg ac anthropoleg. Yn 1933 ymddangosodd Jocasta's crime - an anthropological study, a The Science of peace; If I were a dictator (1934); The Hero - a study in tradition, myth and drama (1936); How came civilisation? (1939). Wedi Rhyfel Byd II, dilynwyd y rhain gan nifer o astudiaethau ar grefydd gyntefig: Death and rebirth (1945); The Origins of Religion (1949); The Temple and the house (1964). Fel y daeth yn fwyfwy cysylltiedig â'r Amgueddfa Genedlaethol closiodd ei berthynas â'r cyfarwyddwr, Syr Cyril Fox ac yn y blynyddoedd 1951-54 ymddangosodd y Survey of Monmouthshire houses I a II ar y cyd rhyngddynt. Y mae i'r arolwg bwysigrwydd arloesol.

Derbyniad lled anffafriol yn gyffredinol a gafodd ei weithiau anthropolegol, a hynny i raddau am mai cynhennus, cymhleth a rhy eang eu cwmpas i'w trin o fewn cyfyngiadau un gyfrol oedd y pynciau a drafodir ynddynt, pynciau yr oedd yn demtasiwn rhoi atebion syml i sefyllfaoedd tra chymhleth. Credai amryw ddysgedigion hefyd ei fod, ac yntau'n ŵr diddorol a chyfareddol, yn hoff o gynhyrfu'n fwriadol y rheini a goleddai'n gryf syniadau croes i'r eiddo ef a gwylio'u hymateb gyda difyrrwch, tra'n parhau ar y telerau personol mwyaf cyfeillgar â'r rhai a anghytunai ag ef. Enghraifft o'r peth yw ei syniadau ynglŷn â thwf amlwg y teimlad cenedlaethol Cymreig wedi Rhyfel Byd II.

Y tu ôl i'w ddiddordebau milwrol, anthropolegol ac archaeolegol, a'i orchestion y mae agwedd arall ar fywyd yr Arglwydd Raglan i'w hychwanegu, h.y. y gwasanaeth maith ac ymroddgar a roddodd i'r hen sir Fynwy a Gwent oll. Yr oedd yn Y.H. dros y sir er 1909, a gwasanaethodd am 21 mlynedd (1928-49) fel aelod o gyngor sir Mynwy. Cymerodd ddiddordeb mawr ym mudiad y sgowtiaid, a bu'n gomisiynydd sirol am 27 mlynedd. Gwnaethpwyd ef yn ddirprwy-raglaw yn 1930 ac yn arglwydd raglaw yn 1960.

Yn 1923 priododd yr Anrhydeddus Julia Hamilton, merch yr 11eg Barwn Bellhaven. Bu iddynt 2 fab a 2 ferch. Cartref y teulu oedd Cwrt Cefntila, Brynbuga, Mynwy. Bu farw 14 Medi 1964.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.